Skip to content

Datganiad Ysgrifenedig - Etholiadau Lleol a Threfniadau Etholiadol

Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Gwnaeth Gorchymyn Etholiadau Awdurdodau Lleol (Cymru) 2014 ddarpariaeth i ohirio etholiadau lleol yng Nghymru am flwyddyn, o fis Mai 2016 tan fis Mai 2017. Caniataodd hyn i wahanu’r etholiadau oddi wrth etholiadau’r Cynulliad.

Ar hyn o bryd, mae Deddf Llywodraeth Leol 1972 yn darparu bod etholiadau cyffredin i lywodraeth leol yng Nghymru yn digwydd ar y dydd Iau cyntaf ym mis Mai bob pedair blynedd. Felly byddai etholiadau nesaf llywodraeth leol yn digwydd fel arfer ym mis Mai 2021. Ers gweithredu’r ddarpariaeth yn Neddf Cymru 2014, mae etholiadau i’r Cynulliad Cenedlaethol yn digwydd ar gylch pum mlynedd. Polisi Llywodraeth Cymru yw y dylai etholiadau lleol hefyd ddigwydd ar gylch pum mlynedd. Bwriedir felly y bydd cynghorwyr a etholir fis Mai nesa yn dal eu swyddi tan fis Mai 2022.

Mae’r Bil Cymru, sydd o flaen Senedd San Steffan ar hyn o bryd, yn cynnwys darpariaeth a fyddai’n galluogi’r Cynulliad i ddeddfu i bennu cyfnod swydd llywodraeth leol. Gan fod y Bil ar ffurf drafft ar hyn o bryd a phe bai’r ddarpariaeth hon yn peidio dod i rym am unrhyw reswm, gallai Llywodraeth Cymru ddefnyddio’r un pwerau o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 a ddefnyddiwyd gennym yn 2014 i ohirio’r etholiadau am flwyddyn. Mae’r datganiad hwn felly yn rhoi eglurder i lywodraeth leol ynghylch hyd swydd y rhai a etholir flwyddyn nesa.

Yng ngolau hyn, rwyf wedi ystyried y penderfyniad a wnaethpwyd y llynedd ynglŷn â threfniadau etholiadol rhai prif gynghorau. Penderfynwyd bryd hynny na ddylid gweithredu adolygiadau a gynhaliwyd gan y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru mewn perthynas â naw prif ardal, a derbyn mai’r bwriad oedd y byddai cynghorau a etholwyd yn 2017 dim ond yn gwasanaethu cyfnod byr cyn eu huno.

Fodd bynnag, er mai canlyniad yr etholiadau fis Mai y flwyddyn nesa fydd cyfnod llawn, oherwydd eu hagosrwydd, y trefniadau y byddai eu hangen a’r aflonyddu ar ymgeiswyr posib, nid wyf yn bwriadu gweithredu unrhyw newidiadau i’r trefniadau etholiadol presennol yn deillio o’r adolygiadau hynny cyn etholiadau 2017. Y cynghorau sir a effeithir yw Caerfyrddin, Ceredigion, Conwy, Dinbych, Gwynedd, Mynwy, Penfro, Powys a Thorfaen.

Mae’r penderfyniad y bydd cynghorau yn cael eu hethol am gyfnod llawn hefyd yn golygu y bydd y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol (y Comisiwn) yn dychwelyd i’w cylch arferol o adolygu trefniadau etholiadol bob deng mlynedd. Rwy’n disgwyl i’r Comisiwn gyhoeddi cyn gynted â phosib raglen newydd wedi’i blaenoriaethu sy’n cymryd i ystyriaeth oed y trefniadau presennol mewn rhai ardaloedd a maint y newid ers pan gynhaliwyd yr adolygiad diwethaf. Byddaf yn gofyn i’r Comisiwn, wrth gynllunio eu gwaith, i ddechrau drwy ddychwelyd at y naw adolygiad sydd heb eu gweithredu, gyda’r bwriad o gyflwyno adroddiadau o’r newydd ar y rhain ar gychwyn cyntaf eu rhaglen.  

Fy mwriad yw y bydd adolygiadau o drefniadau etholiadol y prif gynghorau yn cael eu cynnal yn erbyn set o feini prawf cyffredin i’w cytuno drwy’r Comisiwn. Rwyf hefyd yn disgwyl y bydd adolygiadau etholiadol ar gyfer y 22 awdurdod wedi’u cwblhau o fewn y tymor llywodraeth leol nesaf.

Mae’r trefniadau hyn yn rhoi eglurder i’r rhai sy’n ystyried sefyll yn etholiad 2017. Maent hefyd yn gosod gorwel cynllunio tymor hir i awdurdodau lleol a’u partneriaid yn y gwasanaethau cyhoeddus. Fodd bynnag, hoffwn ddweud yn ddiamheuol bod trafodaethau ag awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill ar yr agenda diwygio yn parhau. Byddaf yn cynnig ffordd ymlaen ar ddiwygio llywodraeth leol yn yr hydref.