Skip to content

Datganiad Ysgrifenedig - Rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol

Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Mae’r datganiad hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am raglen rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol ac yn disgrifio’r buddsoddiad sydd ei angen yn y dyfodol i barhau’n gryf i wrthsefyll llifogydd yn y dyfodol.

Rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yw un o brif flaenoriaethau’r Llywodraeth hon o hyd. Ers 2012, rydyn ni wedi buddsoddi dros £240 miliwn, ynghyd â £47 miliwn o gyllid Ewrop, i leihau’r perygl o lifogydd ac erydu arfordirol i ragor na 12,000 eiddo, gan gynnwys dros 10,700 o gartrefi trwy gynlluniau ar draws Cymru gan gynnwys yn Abertawe, Bae Colwyn, y Borth, Rhydyfelin, y Rhyl a’r Trallwng.

Daeth buddiannau ychwanegol yn sgil y cynlluniau hyn, fel gwelliannau hamdden, manteision i fioamrywiaeth a chyfleoedd twristiaeth ac adfywio.

Mae Cymru wedi profi rhai o’r cyfnodau gwlypaf erioed, yn enwedig dros y gaeaf diwethaf sydd newydd fynd heibio pan ddioddefwyd llifogydd ledled Cymru, gan gynnwys yn Llanrwst, Tal-y-bont yng Ngwynedd a’r Bontnewydd. Dros dymor y Llywodraeth ddiwethaf, bu’n rhaid delio â llifogydd mawr yn Llanelwy, Tal-y-bont yng Ngheredigion, Dwyrain y Rhyl ac Aberystwyth. Bu’n rhaid i’r awdurdodau rheoli risg ddygymod ag amgylchiadau anodd; er hynny gwnaethant ymateb yn dda, gan weithio gyda’i gilydd i wella’r sefyllfa.

Byddwn yn dal i ddysgu gwersi ynghylch sut i baratoi’n well yn y dyfodol, gan y bydd digwyddiadau o’r fath yn siŵr o ddigwydd eto. Cynhalion ni adolygiad o’r llifogydd arfordirol a chynnig 47 o argymhellion ar sut i’w gwrthsefyll yn well. Mae awdurdodau rheoli risg wedi bod yn gweithio’n galed dros y flwyddyn ddiwethaf arnyn nhw a daw’r adroddiad terfynol yn llawn i’m llaw gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ym mis Gorffennaf. Rhaid inni barhau i ymgryfhau rhag llifogydd ac erydu arfordirol ac ymateb yn well i ddigwyddiadau o’r fath.

Rydyn ni’n parhau i gynnal lefelau buddsoddi i reoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol, gan wario dros £55 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon ar leihau’r peryglon a chynnal asedau. Bydd hynny’n cynnwys dechrau ar waith newydd mawr yn Llanelwy, y Rhath, Trebefered, Casnewydd, Porthcawl a’r A55 yn Nhal-y-bont, Gwynedd. Mae’r gwaith ar yr A55, a gaewyd gan lifogydd ddydd Gŵyl San Steffan, eisoes wedi dechrau a bydd wedi’i gwblhau erbyn mis Hydref. Ar ôl eu cwblhau, bydd y cynlluniau hyn yn lleihau’r perygl o lifogydd i ragor na 3500 eiddo.

Gwnaethon ni hefyd roi cefnogaeth i Awdurdodau Lleol i gynnal cynlluniau llai ac i drwsio seilwaith atal llifogydd gafodd ei ddifrodi gan stormydd y gaeaf yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, gan ddarparu £1.8 miliwn ac rydyn ni wrthi’n gweithio gydag Awdurdodau Lleol ar gynlluniau bach eraill a fydd yn cael eu cwblhau yn y flwyddyn ariannol hon. Mae prosiectau llai yn gwneud gwahaniaeth go iawn i gymunedau lleol ac yr un mor bwysig â chynlluniau mawr.

Mae angen i’n cynlluniau buddsoddi ddatblygu prosiectau rheoli perygl llifogydd sy’n mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd a’r codiad yn lefel y môr. Dyna’n union y mae’r Rhaglen Rheoli Perygl i’r Arfordir yn ei wneud, hynny trwy Gynlluniau Rheoli Traethlin sy’n pennu’n cyfeiriad o ran yr arfordir dros y 100 mlynedd nesaf, ac yn dechrau cynllunio a buddsoddi nawr. Caiff £150 miliwn ei fuddsoddi yn y rhaglen hon rhwng 2018 a 2022, trwy law Awdurdodau Lleol i leihau’r risg i arfordir cyfan Cymru. Mae’r gwaith o gynllunio a dadansoddi risg y prosiectau hyn eisoes wedi dechrau. Mae £5 miliwn wrthi’n cael ei neilltuo ar gyfer y gwaith hwn y flwyddyn ariannol hon trwy’r Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru ac mae’n dda gennyf gadarnhau bod 15 o Awdurdodau Lleol arfordirol wedi derbyn arian grant gwerth 100% er mwyn i waith paratoi ar 39 o gynlluniau allu dechrau.

Rydyn ni’n gweithio i sicrhau bod ein buddsoddiad yn creu lleoedd gwell yn ogystal â lleihau’r peryglon. Bydd gwelliannau i’r rhaglen yn arwain at adolygu’r canllawiau ar gyfer arfarnu prosiectau perygl llifogydd ac erydu arfordirol yn y dyfodol er mwyn sicrhau bod cynlluniau’n ategu’r nodau llesiant ac yn ystyried y buddiannau ehangach y gellid eu cyflawni yr un pryd â rheoli’r perygl rhag llifogydd.

O ran prosiectau i reoli peryglon llifogydd yn y dyfodol, mae angen inni ystyried pob opsiwn i leihau risg, nid dim ond yr amddiffynfeydd caled traddodiadol, ond hefyd addysg, codi ymwybyddiaeth a’r cyfleoedd y gellid eu gwireddu trwy reolaeth naturiol ar lifogydd, gan gynnwys ardaloedd storio llifogydd a phlannu coed i ddal dŵr yn ôl a lleihau llif y dŵr ffo ym mlaenau afonydd neu addasu ardaloedd arfordirol fel bod ein tywod a’n twyni yn hytrach na’n cymunedau a’n seilwaith yn amsugno effaith stormydd. Mae’r mathau hyn o gynlluniau yn gallu cynnig buddiannau ehangach a dylid eu hannog yn lle cynlluniau traddodiadol neu ar y cyd â nhw.

Mae angen inni barhau i weithio’n glos â chymunedau sydd mewn perygl o lifogydd ac erydu arfordirol i wneud yn siŵr eu bod yn deall y peryglon sy’n eu hwynebu a beth allan nhw ei wneud i amddiffyn eu hunain. Mae gwaith Ymwybyddiaeth Llifogydd Cymru yn hanfodol i godi ymwybyddiaeth. I’w helpu, mae CNC wrthi’n gwella mapiau llifogydd i ddangos yr ardaloedd sydd mewn perygl, er mwyn inni allu penderfynu ble i fuddsoddi ac i osgoi datblygu mewn ardaloedd sydd mewn perygl.

Bydd gwelliannau pellach i’r rhaglen yn sicrhau bod gennym restr o fentrau rheoli perygl llifogydd wedi’u blaenoriaethu ar gyfer y dyfodol. Rydyn ni hefyd yn rhoi newidiadau ar waith gan ddefnyddio deddfwriaeth ddiweddar gan gynnwys gwelliannau i Fyrddau Draenio Mewnol, cysoni polisïau a rhaglenni â Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol a chyflwyno pwyllgor llifogydd newydd. Mae gwaith rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yn cyd-fynd yn hwylus hefyd â llawer o nodau llesiant ac egwyddorion datblygu cynaliadwy, yn enwedig o safbwynt cryfhau i wrthsefyll llifogydd yn y dyfodol ac effeithiau’r newid yn yr hinsawdd.

Er mwyn helpu i sbarduno integreiddio a chydweithio wrth reoli perygl llifogydd yng Nghymru, byddwn yn sefydlu Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol yn ddiweddarach eleni o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru). Bydd y pwyllgor yn rhannu’r cyngor a roddir gan bob awdurdod rheoli risg ar lifogydd ac erydu arfordirol.

Mae rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yn bwnc sy’n rhychwantu Adrannau a phortffolios gwahanol y Llywodraeth. Rhaid inni barhau i arwain trwy esiampl trwy gydweithio. Gall ei hymyriadau ddod â manteision ehangach ar draws feysydd gwahanol gan gynnwys iechyd, twristiaeth, adfywio a thrafnidiaeth. Trwy weithio a buddsoddi gyda’n gilydd, gwireddir buddiannau ehangach a darparu mwy er lles pobl Cymru.