Skip to content

Datganiad Ysgrifenedig - Refferendwm yr UE -Trafodaethau ar gyfeiriad Polisi yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn y dyfodol  

Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Mae goblygiadau Refferendwm yr UE ym mis Mehefin yn enfawr i bob maes sydd o fewn fy mhortffolio.  Ym maes Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd, Bwyd, Iechyd Anifeiliaid, yr Hinsawdd a’r Amgylchedd, mae ein deddfwriaeth a’n cyllido yn perthyn yn agos iawn i fframwaith gweithredu’r UE.  Golyga hyn bod canlyniadau’r refferendwm nid yn unig yn dod â heriau sylweddol, ond ar yr un pryd yn cynnig cyfle i lunio ffordd newydd ymlaen i Gymru.

Yn dilyn y canlyniad, rwyf wedi dechrau proses gysylltu i sicrhau ein bod yn nodi'r goblygiadau llawn i’r sectorau a’r meysydd polisi o fewn fy Adran.  Wrth wneud hynny, rwyf wedi cynnal dau gyfarfod pwysig o amgylch y bwrdd ym mis Gorffennaf, ac ers hynny mae fy swyddogion wedi trefnu cyfres o bedwar gweithdy trawsbynciol gyda rhanddeiliaid ledled Cymru.  Roedd y gweithdai hynny’n gyfle hollbwysig i glywed pryderon ac uchelgeisiau pobl ac i edrych ar y materion cyffredin ar draws sectorau a’r rhai sy’n benodol i sectorau unigol.  Mae gweithdy arall wedi ei drefnu ar Hydref 3 i dynnu’r mewnbwn a gawsom ynghyd, Bydd cyfarfod nesaf y bwrdd crwn yn cael ei gynnal gennyf ar 21 Hydref.

Ymysg y materion amlwg a godwyd hyd yma, mae’r sesiynau gweithdy wedi cadarnhau llawer ar yr angen i’n busnesau barhau i gael mynediad heb gyfyngiad i Farchnad Sengl yr UE.  Hefyd, maent wedi pwysleisio, er mwyn gallu sicrhau'r canlyniad gorau i Gymru, mae’n hanfodol bod natur ddatganoledig y meysydd hyn yn cael eu parchu fel y gallwn sicrhau fod y polisïau, y cyfreithiau a’r cyllid sy’n dod yn lle rhai'r UE yn ymateb yn llawn i’n cyd-destun unigryw yng Nghymru.  Roedd y gweithdai hefyd yn pwysleisio'r datblygiad sylweddol a wnaethpwyd mewn meysydd megis ein hamgylchedd ac iechyd anifeiliaid a’r cysylltiad pwysig rhwng y safonau hyn a’n henw da am gynhyrchu nwyddau a gwasanaethau o safon uchel.  

Dros doriad yr haf cefais y cyfle i fynd i sawl sioe amaethyddol a mynd am ymweliadau ledled Cymru, ac roedd y pryder ynghylch y sefyllfa ariannol yn y dyfodol yn un o’r materion a godwyd fwyaf aml gyda mi.  Wrth gwrs rydym yn parhau i dderbyn cyllid gan yr UE, ac mae ein rhwymedigaethau mewn perthynas â hynny’n parhau, hyd nes y bydd y DU yn gadael yr UE yn ffurfiol.  Bydd holl gontractau'r Cynllun Datblygu Gwledig yn cael eu parchu. Hefyd, mae’r sicrwydd diweddar gan Drysorlys y DU yn golygu y bydd unrhyw gais sy’n cael ei gymeradwyo cyn Datganiad yr Hydref ar ddiwedd Tachwedd yn cael ei ariannu am oes.  Mae hyn yn adlewyrchu’r trefniant sydd hefyd yn bodoli ar gyfer Cronfeydd Strwythurol, Cydweithio Tiriogaethol Ewropeaidd a Chronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewropeaidd. Yn achos contractau amaeth-amgylcheddol Glastir Uwch y Cynllun Datblygu Gwledig, rydym yn barnu bod y gwarant hwn yn cynnwys cytundebau sy’n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd ac a fyddai’n cael eu llofnodi ym mis Ionawr 2017, a hynny’n unol ag amserlenni’r UE. Ar sail hynny rwyf wedi gofyn i’m swyddogion ailddechrau trafod telerau gyda’r ymgeiswyr.

Mae Trysorlys y DU hefyd wedi rhoi sicrwydd ynghylch ariannu elfen taliadau uniongyrchol y PAC tan 2020. Mae’n bwysig fod y ffermwyr sy’n derbyn y taliadau hynny hefyd yn deall bod yr holl ofynion presennol o ran rheoleiddio yn parhau i fod yn berthnasol tra’u bod yn derbyn cyllid o’r fath.  Er fy mod yn croesawu’r datblygiadau sy’n cael eu hadlewyrchu yn y sicrwydd a gafwyd gan Drysorlys y DU, byddaf yn parhau i bwyso ar Lywodraeth Prydain i gadarnhau y bydd y cyllid i Gymru yn parhau ar y raddfa bresennol, am oes y rhaglenni presennol a thu hwnt i hynny. Bydd gwybodaeth fwy manwl am ein gwahanol gynlluniau a gyllidir gan yr UE ar gael yn fuan ar adrannau perthnasol ein gwefan.

Ni fydd sefyllfa ariannol deg a chlir yn unig yn adeiladu dyfodol cynaliadwy i Gymru.  Rwyf felly wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn parhau i gysylltu a chydweithio i ddatblygu’r ffordd orau ymlaen i Gymru. Mae’r gwaith yr ydym wedi ei wneud eisoes drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Deddf yr Amgylchedd, y ddau ohonynt yn tynnu ar gytundebau'r Cenhedloedd Unedig, yn rhoi sylfaen gref inni i adeiladu arno ac mae’n ein rhoi mewn sefyllfa well nag unrhyw un o wledydd eraill y DU.  Trwy ein hadnoddau naturiol, mae gennym hefyd gyfle enfawr i wella ein ffyniant a’n cadernid yn y dyfodol a sicrhau fod Cymru yn sicrhau llesiant y cenedlaethau presennol a chenedlaethau’r dyfodol.  Fel y cam allweddol cyntaf o dan Ddeddf yr Amgylchedd, bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cyhoeddi'r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol cyntaf.  Bydd yr adroddiad yn sylfaen dystiolaeth werthfawr a daw ar amser da wrth inni geisio adeiladu dyfodol Cymru, ac yn benodol, bydd yn helpu i ddatblygu'r Polisi Cyfoeth Naturiol statudol cyntaf fyddaf yn ymgynghori yn ei gylch yn ddiweddarach eleni.

Mae datganoli ar waith ers dros 17 o flynyddoedd erbyn hyn ac mae’r meysydd sy’n rhan o’m portffolio wedi’u datganoli’n llwyr yn ystod y cyfnod hwn. Mae ein trafodaethau cychwynnol a manwl gyda rhanddeiliaid dros yr haf wedi bod yn hynod bositif ac nid oes amheuaeth gennyf y byddwn yn gallu cydweithio’n effeithiol er mwyn mynd i’r afael â’r heriau, gwireddu’r cyfleoedd a llunio ffordd newydd ymlaen i Gymru ar gyfer y dyfodol.  
O ran y trafodaethau ynghylch gadael yr UE a’r cysylltiadau masnachu newydd a fydd yn deillio o hynny, y manylion fydd yn anodd, a dyna pam ei bod yn hanfodol ein bod yn edrych yn fanwl ar effaith unrhyw un o’r opsiynau ar bob rhan o’r DU, gan gynnwys ein cyd-destun unigryw yng Nghymru.  O ystyried y perygl o gael effaith ar fywydau a bywoliaeth pobl yn ddiarwybod mae’n hanfodol bod gan Gymru nid yn unig le o amgylch y byrdd trafod, ond bod hyn hefyd yn golygu bod fframwaith diwygiedig ar gyfer llywodraethiant i’r Deyrnas Unedig. Fel cam cyntaf, rwyf wedi gwahodd Gweinidogion o bortffolios tebyg i fy un i ledled y Deyrnas Unedig i gyfarfod yma yng Nghaerdydd yn ystod yr hydref.