Skip to content

Datganiad Ysgrifenedig - Refferendwm yr UE

Y Gwir Anrh. Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru

Mae’r wlad wedi gwneud penderfyniad sylfaenol. Roedd y refferendwm hwn yn un na chredais erioed y dylid ei gynnal mor fuan ar ôl ein hetholiadau ni, ac rwy’n siomedig tu hwnt â’r canlyniad.

Nawr mae’n rhaid meddwl yn glir am ddyfodol Cymru. Fel y dywedais sawl gwaith ers yr etholiad, nid oes un blaid yn medru hawlio’r syniadau da i gyd, a nawr yn fwy nag erioed, rhaid i ni ddibynnu ar allu pob un.

Mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig wedi dweud y dylai Cymru gael ei chynnwys yn llawn yn y trafodaethau ynghylch telerau ymadawiad y DU a’n perthynas yn y dyfodol gydag Ewrop – ac fe fyddaf yn mynnu gweld Llywodraeth y DU yn cadw at ei gair.

Ein blaenoriaeth yw amddiffyn buddiannau Cymru. Mae gan Lywodraeth Cymru chwe blaenoriaeth allweddol yn sgil yr amgylchiadau newydd hyn.

Yn gyntaf, rhaid amddiffyn ein swyddi. Bydd Lywodraeth Cymru’n cydweithio’n agos gyda busnesau ac yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gynnal hyder a sefydlogrwydd economaidd.

Yn ail, rhaid i Lywodraeth Cymru chwarae rhan lawn mewn trafodaethau am amseriad a thelerau ymadawiad y DU o’r UE. Mae’n cyfranogaeth ni yn hanfodol, nid yn unig ar faterion sydd wedi’u datganoli’n uniongyrchol, ond hefyd ar yr holl faterion amrywiol sy’n effeithio ar fuddiannau pwysig Cymru.

Yn drydydd, mae’n hanfodol i’r Deyrnas Unedig gynnal trafodaethau i gadw mynediad at y 500 miliwn o gwsmeriaid yn y Farchnad Sengl.

Yn bedwerydd, rydym yn annog parhau i gymryd rhan ym mhrif raglenni’r UE fel y PAC a’r Cronfeydd Strwythurol, yn unol â’r telerau presennol, hyd at ddiwedd 2020. Bydd hyn yn helpu i sicrhau cysondeb i ddinasyddion, cymunedau, busnesau a buddsoddwyr tra bod trefniadau’n cael eu gwneud ar gyfer y tymor hir.

Yn bumed, mae Cymru’n elwa ar gannoedd o filiynau o bunnoedd oddi wrth yr UE. Mae achos aruthrol nawr dros ddiwygio Fformiwla Barnett yn sylweddol gan ystyried yr anghenion sy’n codi yn sgil gadael yr UE. Yn ystod yr ymgyrch, addawyd na fyddai Cymru’n colli ceiniog o gyllid yn sgil gadael – bydd Llywodraeth Cymru’n mynnu gweld yr ymrwymiad hwnnw’n cael ei anrhydeddu.

Yn chweched, ac yn olaf, mae gadael yr UE yn newid cyfansoddiadol enfawr i’r DU ac mae gan hynny oblygiadau yr un mor bellgyrhaeddol i’r setliad datganoli. Rhaid i’r berthynas rhwng y Gweinyddiaethau Datganoledig a Llywodraeth y DU nawr gael ei gosod ar sylfaen gwbl wahanol.

Bydd Llywodraeth Cymru’n ymladd dros bobl Cymru ym mhob un o’r meysydd hanfodol hyn. Byddwn hefyd yn ymdrechu i uno’r rhaniadau a amlygwyd gan y bleidlais hon, gan symud Cymru ymlaen gyda’n gilydd. Fe gododd y tymheredd yn ystod y drafodaeth hon. Nawr mae’n bryd ymateb yn bwyllog a thrafod yn ofalus ynghylch ein dyfodol.

Mae’r heriau oedd o’n blaen ddoe, o ran y GIG, yr economi ac addysg, yn dal i’n hwynebu heddiw. Ac mae’n rhaid i ni ymateb i’r heriau hynny, a chyflawni ar ran pobl Cymru. Rwy’n argyhoeddedig mai dyna mae ein cenedl eisiau ac angen ei weld.