Skip to content

Datganiad Ysgrifenedig - Casglu a Rheoli Trethi Datganoledig

Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Heddiw, rwy'n cyhoeddi mwy o fanylion y trefniadau casglu a rheoli ar gyfer trethi sydd wedi'u datganoli i Gymru o fis Ebrill 2018.

Ar 8 Mawrth, cytunodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unfrydol ar Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 a chafodd y Ddeddf Gydsyniad Brenhinol ym mis Ebrill 2016. Mae'r Ddeddf yn gosod sylfeini ein cyfundrefn ar gyfer trethi datganoledig, gan gynnwys sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru. Mae'r pwerau yn y Ddeddf yn rhoi'r hyblygrwydd i Awdurdod Cyllid Cymru, fel awdurdod trethi newydd, i dynnu ar allu cyrff eraill drwy ddirprwyo ei swyddogaethau casglu a rheoli trethi.

Ym mis Mehefin 2015, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai Awdurdod Cyllid Cymru yn cydweithio â Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM) i gasglu a rheoli'r Dreth Trafodiadau Tir. Byddai CThEM yn ymgymryd â'r swyddogaethau yn ymwneud â thrafodiadau a’r swyddogaethau cydymffurfio rheolaidd, a byddai Awdurdod Cyllid Cymru yn ymgymryd â gwaith cymhleth yn gysylltiedig â chydymffurfio, osgoi trethi a gorfodi mewn perthynas â’r Dreth Trafodiadau Tir.

Byddai Awdurdod Cyllid Cymru hefyd yn ymgymryd â'r rhan fwyaf o swyddogaethau casglu a rheoli mewn perthynas â’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi, a byddai'n dirprwyo swyddogaethau cydymffurfio a gorfodi i Cyfoeth Naturiol Cymru.

Cyhoeddwyd hefyd y bydd trafodaethau pellach yn cael eu cynnal â CThEM ynglŷn â'r swyddogaethau casglu a rheoli mewn perthynas â’r Dreth Trafodiadau Tir, a chyda Cyfoeth Naturiol Cymru ar y swyddogaethau cydymffurfio a gorfodi mewn perthynas â’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi. Ym mhob achos lle bydd swyddogaethau'n cael eu dirprwyo, bydd Awdurdod Cyllid Cymru yn cadw'r cyfrifoldeb cyfreithiol amdanynt a bydd yn parhau i ddal y pwerau cyfreithiol i'w harfer. Bydd polisi a strategaeth yn ymwneud â threthi yn cael eu gosod gan Weinidogion Cymru.

Ers hynny, rydym wedi gwneud llawer o waith gyda CThEM i ddeall yn well sut mae Treth Dir y Dreth Stamp a Threth Dirlenwi bresennol y DU yn gweithredu. Rydym hefyd wedi adolygu'n ofalus y mathau o systemau a gweithrediadau y gallai CThEM a Cyfoeth Naturiol Cymru eu cynnig, ac rydym wedi gwneud gwaith manwl gyda'r ddau sefydliad i gael mwy o eglurder ynghylch sut y byddent yn gallu darparu gwasanaethau i drethdalwyr Cymru.

Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i CThEM a Cyfoeth Naturiol Cymru am eu hymrwymiad ac am gadw mewn cysylltiad â Llywodraeth Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf i benderfynu ar y ffordd orau ymlaen ar gyfer casglu a rheoli trethi datganoledig. Mae gan y ddau sefydliad dipyn o arbenigedd perthnasol a bydd Awdurdod Cyllid Cymru yn parhau i weithio'n agos â hwy i adeiladu awdurdod trethi yng Nghymru sy’n gallu diwallu anghenion trethdalwyr Cymru. Hoffwn ddiolch hefyd i Lywodraeth yr Alban a Revenue Scotland sydd wedi rhoi cyngor a chefnogaeth cwbl amhrisiadwy inni.

Rwy'n cadarnhau heddiw mai Awdurdod Cyllid Cymru fydd yn ymgymryd â’r holl swyddogaethau casglu mewn perthynas â’r Dreth Trafodiadau Tir (a CThEM fydd yn darparu'r arbenigedd a'r wybodaeth drwy roi benthyg aelodau o staff, a secondiad i eraill, i ddatblygu a gwella arbenigedd Awdurdod Cyllid Cymru o ran materion cydymffurfio â’r Dreth Trafodiadau Tir). Bydd Awdurdod Cyllid Cymru yn ymgymryd â'r rhan fwyaf o'r swyddogaethau casglu a rheoli mewn perthynas â’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi, a bydd yn gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ar y swyddogaethau cydymffurfio a gorfodi mewn perthynas â’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi.

Byddwn yn parhau i gydweithio'n agos â CThEM i adeiladu ar arbenigedd a phrofiad y sefydliad hwn mewn casglu trethi, cydymffurfio a gorfodi. Bydd y trefniant hwn yn helpu i sicrhau bod gan Awdurdod Cyllid Cymru y gallu sydd arno ei angen fel corff i ymgymryd â'r gwaith. Rwyf hefyd yn falch o gael parhau i weithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru sydd â phrofiad unigryw a sgiliau penodol i dirlenwi ac maent wedi meithrin perthynas â gweithredwyr safleoedd tirlenwi.

Mae hwn yn gyfle cyffrous i Gymru ac mae'n gam pwysig ar hyd y llwybr i ddatganoli. Rwy'n hyderus y gall Awdurdod Cyllid Cymru ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel ar gyfer casglu a rheoli'r Dreth Trafodiadau Tir a'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi, ill dwy. Mae gan Awdurdod Cyllid Cymru gyfle i roi prosesau treth o ansawdd uchel ar waith. Gall wella safonau gwasanaethau i gwsmeriaid drwy gynnig gwasanaethau digidol sy'n gyson ag anghenion a blaenoriaethau Cymru, a datblygu platfform sy'n ddigon hyblyg i reoli a chasglu trethi y dyfodol os oes angen. Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda'n rhanddeiliaid ar bob lefel.

Mae'n hanfodol bod Awdurdod Cyllid Cymru yn cael ei sefydlu ac yn gweithredu yn y modd mwyaf cost-effeithiol. Ym mis Tachwedd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru amcangyfrifon o gostau sefydlu a gweithredu Awdurdod Cyllid Cymru. Ar y pryd, amcangyfrifwyd y byddai’n costio £4.8m i £6.3m i sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru rhwng 2016 a 2017 a 2018 a 2019 a byddai'r costau gweithredu tua £2.8m i £4.3m yn flynyddol, o 2018-19 ymlaen. Rwy’n disgwyl i'r costau sefydlu a gweithredu fod yn gyson â’r amrediad a gyhoeddwyd eisoes.

Byddwn yn dechrau ar y broses ar gyfer penodi cadeirydd cyntaf Awdurdod Cyllid Cymru yn yr hydref. Byddaf yn chwilio am amrywiaeth eang o ymgeiswyr ar gyfer y rôl allweddol hon i adlewyrchu'r bobl y bydd Awdurdod Cyllid Cymru yn eu gwasanaethu. Rwy'n disgwyl i'r cadeirydd fod yn ei swydd erbyn dechrau 2017 er mwyn iddo neu iddi allu recriwtio aelodau i'r bwrdd a fydd yn gallu cynrychioli buddiannau pobl Cymru orau.