Skip to content

Datganiad Ysgrifenedig - Trefniadau ar gyfer cynlluniau gostyngiadau’r dreth gyngor yng Nghymru yn y dyfodol.

Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Heddiw, mae’n dda gennyf gadarnhau bod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i barhau i amddiffyn aelwydydd sydd mewn sefyllfa fregus ac ar incwm isel drwy barhau â’r hawliau llawn i gael budd-daliadau o dan Gynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor hyd at ddiwedd blwyddyn 2017-18. Bydd y trefniadau tymor hir ar gyfer 2018-19 ymlaen yn cael eu penderfynu fel rhan o broses ystyried ehangach ynghylch sut i wneud y dreth gyngor yn decach.

Yn Adolygiad Gwariant 2010, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai’n diddymu Budd-dal y Dreth Gyngor gan roi’r cyfrifoldeb dros ddatblygu unrhyw drefniadau i’w ddisodli i awdurdodau lleol yn Lloegr. Ar yr un pryd, cyhoeddodd y byddai cyllid yn cael ei drosglwyddo i’r Gweinyddiaethau Datganoledig yng Nghymru a’r Alban, yn cael ei leihau 10% a’i drosglwyddo i gyllidebau sefydlog yn hytrach na chyllidebau sy’n seiliedig ar alw.  

Er gwaethaf y diffyg yn y cyllid, mae Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol yng Nghymru wedi cydweithio i gynnal yr hawliau llawn i gael budd-daliadau o dan Gynlluniau  Gostyngiadau’r Dreth Gyngor drwy weithredu un fframwaith cenedlaethol. Cefnogir y fframwaith gan ddarpariaeth flynyddol o £244m a roddir i awdurdodau lleol yn y setliad llywodraeth leol.  Bydd y trefniadau hyn yn parhau am flwyddyn arall hyd at ddiwedd 2017-18.  

Bydd y penderfyniad hwn yn sicrhau bod tua 300,000 o aelwydydd sydd mewn sefyllfa fregus ac ar incwm isel yng Nghymru yn parhau i gael eu hamddiffyn rhag unrhyw gynnydd o ran y dreth gyngor y maent yn atebol i’w thalu. Bydd 220,000 o’r rhain yn parhau heb fod yn atebol i dalu unrhyw dreth gyngor o gwbl. Rydym yn gwybod bod llawer o’r aelwydydd hyn eisoes yn ei chael yn anodd iawn ymdopi ag effeithiau’r diwygiadau lles a gafodd eu cyflwyno gan Lywodraeth y DU, a bydd parhau â’n trefniadau ni ar gyfer y Cynlluniau Gostyngiadau yn helpu i leddfu rhai o effeithiau gwaethaf y diwygiadau hynny.
Mae ein polisi ni yn cyferbynnu’n llwyr â’r sefyllfa yn Lloegr, lle gadawyd i awdurdodau lleol greu eu cynlluniau eu hunain a rheoli unrhyw ddiffyg yn y cyllid. O ganlyniad, mae’r dreth gyngor y mae aelwydydd yn atebol i’w talu yn amrywio o un awdurdod lleol i’r llall; mae llu o wahanol gynlluniau ar waith; ac mae dros ddwy filiwn o aelwydydd incwm isel bellach yn gorfod talu cyfran fwy o’u bil treth gyngor. Mae teuluoedd incwm isel yn Lloegr bellach yn talu £169 y flwyddyn ar gyfartaledd yn rhagor nag y byddent wedi ei dalu pe bai Budd-dal y Dreth Gyngor yn dal ar gael.  
Bydd awdurdodau yng Nghymru yn parhau i gael eu diogelu rhag y risgiau a’r costau y mae cynghorau yn Lloegr yn eu hwynebu wrth iddynt fynd ati i geisio casglu’r dreth gyngor oddi wrth aelwydydd am y tro cyntaf.  Roedd yr adolygiad annibynnol o gynlluniau cymorth y dreth gyngor yng Nghymru a Lloegr, a gynhaliwyd gan Eric Ollerenshaw, yn gefnogol iawn i’r dull gweithredu hwn, gan gydnabod ei fod wedi amddiffyn aelwydydd sydd mewn sefyllfa fregus, ac wedi achub awdurdodau lleol rhag gorfod ymdopi â chynnydd yn eu baich gweinyddol.

Rwy’n ddiolchgar i awdurdodau lleol am y cymorth y maent yn parhau i’w roi o ran gweithredu Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a’r cymorth ariannol hanfodol y maent yn ei roi i aelwydydd cymwys.