Skip to content

Datganiad Ysgrifenedig - Confensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd (UNFCCC) Cynhadledd y Pleidiau (COP22), Marrakech

Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Roedd 2015 yn flwyddyn hollbwysig pan gafodd Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig eu mabwysiadu a hefyd fframwaith rhyngwladol ar gyfer mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd yng nghynhadledd COP21 ym Mharis. Cafodd Cytundeb hanesyddol Paris ynghylch y newid yn yr hinsawdd ei gadarnhau’r mis hwn a chroesawaf gyhoeddiad Llywodraeth y DU yr wythnos ddiwethaf yn nodi ei bod wedi cadarnhau’r Cytundeb a hefyd yn cadarnhau ei hymrwymiad i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi’r Cytundebau hyn o’r dechrau’n deg ac mae wedi bod yn frwd dros hyrwyddo’r agendâu byd eang hyn. Cynhaliwyd Cynhadledd Partïon i Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd (COP22) eleni yn Marrakech yr wythnos ddiwethaf a thema eleni oedd cyflawni ymrwymiadau Cytundeb Paris.

Mynychais y gynhadledd bwysig hon fel rhan o gynrychiolaeth y DU a phwysleisiais y ffaith bod Cymru’n barod i chwarae ei rhan, er mai gwlad fechan ydyw hi, a hefyd ein bod yn cydnabod ein cyfrifoldeb byd eang.  

Canolbwyntiais ar y canlynol yn ystod y Gynhadledd: 

  • Tynnu sylw at lwyddiannau Cymru o safbwynt ein deddfwriaeth a’n camau gweithredu arloesol mewn meysydd fel gwastraff, rheoli adnoddau naturiol a’n gwaith  o ran Cymru o Blaid Affrica. 
  • Hyrwyddo swyddogaeth Llywodraethau Gwladwriaethol a Llywodraethau Rhanbarthol o safbwynt mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd,  
  • Chwarae ein rhan o safbwynt mynd i’r afael â her byd eang y newid yn yr hinsawdd. 
Cymerais ran mewn nifer o ddigwyddiadau ffurfiol. Agorais weithdy ysbrydoledig ar gyfer y Sefydliad Addysg Amgylcheddol a ganolbwyntiodd ar swyddogaeth pobl ifanc fel llysgenhadon newid. Cyflwynais hefyd mewn sesiynau ffurfiol gyda chynrychiolwyr eraill, fel Prif Weinidog Quebec, Syr David King, Cennad Newid Hinsawdd Llywodraeth y DU a Gweinidogion o Wladwriaethau a Rhanbarthau eraill. Tynnais sylw yn ystod fy sgyrsiau at ein dull strategol a blaengar o gyflawni amcanion y Cenhedloedd Unedig ynghylch y newid yn yr hinsawdd, datblygu cynaliadwy ac amrywiaeth fiolegol drwy ein deddfwriaeth. Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) yn gosod sylfeini cadarn ar gyfer cyflawni Cytundeb Paris ac mae’n pennu targedau statudol clir a fframwaith cadarn ar gyfer monitro ac adrodd. Yn ystod y flwyddyn nesaf byddaf yn parhau i gydweithio ag aelodau eraill y Cabinet er mwyn datblygu ein targedau interim statudol, ein dwy gyllideb garbon gyntaf ynghyd â’r polisïau a’r cynigion ar draws y Llywodraeth a fydd yn ein cynorthwyo i gyflawni ein hymrwymiadau deddfwriaethol.

Mae cydweithredu’n gwbl allweddol ar gyfer wynebu her fyd eang mor fawr â’r newid yn yr hinsawdd. Gwnaeth cynhadledd COP22 ail-bwysleisio swyddogaeth hanesyddol a pharhaus gwladwriaethau a rhanbarthau o safbwynt mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd.  Cymru sy’n meddu ar Is Lywyddiaeth y Rhwydwaith Cenedlaethol o Lywodraethau Rhanbarthol ar gyfer Datblygu Cynaliadwy (nrg4SD) a hi oedd un o’r cyntaf i lofnodi cytundebau allweddol, er enghraifft Compact Grŵp yr Hinsawdd o Wladwriaethau a Rhanbarthau a Chronfa’r Dyfodol. Yn y Cynulliad Cyffredinol cyhoeddwyd y byddai Cymru’n aelod o Grŵp Llywio’r Gynghrair. Bydd gwaith y rhwydwaith hwn yn ein helpu i gyflawni ein hymrwymiadau ni ac ymrwymiadau rhyngwladol drwy rannu rhwng ein gilydd a dysgu o’n gilydd.  

Pleser oedd croesawu 29 o aelodau eraill i’r rhwydwaith mewn perthynas â’r Memorandwm Dealltwriaeth ar Arweinyddiaeth Hinsawdd Byd Eang Is-genedlaethol (a adwaenir hefyd fel yr Under 2 MoU). Tystia hyn i’r ffaith bod y cydweithio mor gadarn o fewn rhanbarthau diwydiannol iawn a hefyd ar draws economïau datblygiedig ac economïau datblygol. Cymru oedd un o’r gwledydd cyntaf i ymrwymo i’r Under 2 MoU , sy’n ymrwymiad gan lywodraethau is-genedlaethol i leihau allyriadau o leiaf 80%. Mae’r gwledydd sydd newydd lofnodi’n cynnwys Prif Diriogaeth Awstralia, De Sumatra, a thaleithiau Tabasco a Michoacán ym Mecsico. Yn ogystal â’r rhain, mae 23 o ddinasoedd sy’n aelodau o Gynghrair y dinasoedd arloesi, gan gynnwys Beijing, wedi cymeradwyo’r cydweithio. Mae 33 o wledydd dros chwe chyfandir bellach yn rhan o’r rhwydwaith ac ar y cyd maent yn cynrychioli gwerth mwy na US$22 triliwn o gynnyrch domestig gros. Mae hyn gyfwerth â mwy na chwarter o economi’r byd ac yn tystio i’r ffaith y gall Cymru, ar y cyd â gwledydd eraill, wneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Yn y Gynhadledd gwnaeth Cymru hefyd ymrwymo i fod yn un o’r gwledydd cyntaf i lofnodi Platfform Llwybrau 2050 er mwyn cefnogi taleithiau, rhanbarthau, dinasoedd, cenhedloedd a busnesau i ddatblygu modelau cynllunio hirdymor erbyn 2050. Bydd pennu nodau a strategaethau tymor byr a hirdymor ar gyfer datgarboneiddio yn allweddol ar gyfer cyflawni ein targed erbyn 2050 a nodau Cytundeb Paris. Bydd y platfform yn ein cynorthwyo ni ac eraill i ddatblygu’r sylfaen o dystiolaeth a rhannu dysgu. Y nod yw sicrhau bod hyn oll yn arwain at lwybr cynaliadwy a hirdymor a fydd yn llawn cyfleoedd amrywiol.

Cynhaliais yn ogystal gyfres o gyfarfodydd dwyochrog gyda Thaleithiau a Rhanbarthau gan gynnwys California, De Awstralia, British Columbia, Yr Alban, Rhone Alpes ac Oslo. Fy nod oedd atgyfnerthu partneriaethau a rhannu profiadau dysgu ynghylch sut y mae pob un ohonom yn cymryd camau gweithredu. Gwnaeth y modd y mae gweinyddiaethau eraill yn cynllunio ar gyfer y dyfodol ac yn elwa ar y cyfleoedd sydd ynghlwm wrth gymdeithas carbon isel greu cryn argraff arnaf, ac yn arbennig mewn meysydd fel trafnidiaeth, ynni ac adeiladau. Byddaf yn trafod yr hyn yr wyf wedi’i ddysgu gydag aelodau eraill y Cabinet.  

Nid yw camau gweithredu gan y Llywodraeth, ynddynt eu hunain, yn ddigon ar gyfer mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, fodd bynnag. Cefais fy ysbrydoli wrth wrando ar y gwaith sy’n mynd rhagddo mewn dinasoedd, o fewn llywodraeth leol a chymunedau er mwyn ceisio mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd. Mae’r Cyfamod Byd Eang o Feiri ar gyfer yr Hinsawdd ac Ynni’n cynrychioli 605 o ddinasoedd a 445,581,500 o bobl ar draws y byd.

Mae’n creu platfform cyffredin ar gyfer casglu effaith camau gweithredu dinasoedd drwy fesur yn yr un modd allyriadau a risg i’r hinsawdd. Mae hefyd yn sicrhau bod eu hymdrechion yn cael eu cofnodi yn yr un modd. Hoffwn weld dinasoedd a hefyd llywodraeth leol yng Nghymru’n mynd i’r afael â’r her hon a dysgu gan bobl eraill.  

Er mai gwlad fach yw Cymru mae ein hymrwymiad i gamau gweithredu ar lefel rhyngwladol ynghylch y newid yn yr hinsawdd yn ymrwymiad hirdymor. Mae’n hollbwysig fod taleithiau a rhanbarthau o fewn economïau datblygiedig ac economïau datblygol yn cymryd camau.

Mae Cymru’n cydnabod yn llwyr ei chyfrifoldeb byd eang ac mae wedi cyfrannu $20,000 i Gronfa’r Dyfodol. Bwriedir canolbwyntio ar economïau datblygol ac economïau datblygedig sydd eisoes mewn sefyllfa fregus ac y mae’r newid yn yr hinsawdd yn effeithio arnynt.

Mae’r math yma o weithgarwch yn adeiladu ar ein Rhaglen Cymru o Blaid Affrica sy’n dathlu 10 mlynedd eleni. Tra roeddwn yn Marrakech bues i’n ddigon ffodus i gwrdd â rheolwr prosiect ein Rhaglen 10 Miliwn o Goed yn Mbale. Soniodd am yr holl waith y mae’n ei wneud. Mae’r cyllid y mae Cymru’n ei gyfrannu’n darparu coed ar gyfer cymunedau, sy’n helpu i greu ffynhonnell o fwyd ac yn sefydlogi’r pridd fel nad yw’n llifo i ffwrdd ac yn achosi tirlithriadau. Gwnaeth y gwaith rhagorol y mae’r Rhaglen yn ei wneud greu cryn argraff arnaf a gwych oedd gweld ffrwyth yr holl gydweithio rhwng y gwledydd.  

Yn fyr, gwnaeth y bobl y gwnes gyfarfod â hwy yn ystod y Gynhadledd a hefyd y camau y mae llawer ohonynt yn eu cymryd i drawsnewid eu heconomïau yn wyneb yr her fyd eang hon fy ysbrydoli’n fawr. Rwy’n edrych ymlaen at gydweithio ag aelodau eraill y Cabinet er mwyn cyflawni ein hymrwymiadau deddfwriaethol a rhyngwladol, gan sicrhau bod gan Gymru gymdeithas carbon isel sy’n gwbl gadarn ar gyfer y dyfodol.