Skip to content

Datganiad Ysgrifenedig - Cyllido Gwasanaethau Fferylliaeth Gymunedol yng Nghymru yn y Dyfodol

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd , Llesiant a Chwaraeon

Heddiw cyhoeddodd Llywodraeth y DU gynlluniau i dorri’r cyllid sydd ar gael i fferyllfeydd cymunedol yn Lloegr o 1 Rhagfyr 2016.  Golyga’r toriadau ostyngiad o 4% i’r sector yn Lloegr yn 2016-17 a thros 7% yn 2017-18. 

Yn sgil y cyhoeddiad, dymunaf egluro’r sefyllfa yng Nghymru.

Gadewch imi fod yn glir, mae’r sector fferylliaeth gymunedol yn rhan sylfaenol o wasanaeth gofal sylfaenol cryf.  Dyma pam mae’r rhaglen y lluniodd y llywodraeth hon yn Symud Cymru Ymlaen yn ymrwymo i fuddsoddi mewn fferyllfeydd cymunedol er mwyn tynnu’r pwysau oddi ar ein gwasanaethau meddygon teulu, lleihau apwyntiadau diangen a sicrhau bod pobl yn gallu gweld y gweithiwr proffesiynol cywir yn y lleoliad cywir ar yr adeg iawn.

Yn brawf o’n hymrwymiad i fuddsoddi mewn gwireddu buddion y rhwydwaith fferyllfeydd cymunedol, yn gynharach y mis hwn dechreuasom ddarparu’r system TG Dewis Fferyllfa yn raddol i fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru.  Gan gychwyn â phob fferyllfa ym myrddau iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr a Chwm Taf, caiff Dewis Fferyllfa ei ddarparu’n raddol i dros hanner fferyllfeydd Cymru erbyn mis Mawrth 2018 ac bydd yn integreiddio fferylliaeth gymunedol â meddygon teulu ac ysbytai yn llwyr.  Bydd yn darparu fferyllwyr â mynediad i gofnodion iechyd unigol pobl, galluogi gwybodaeth am ryddhau cleifion i gael ei throsglwyddo o ysbytai i’r fferyllfa gymunedol a enwyd gan glaf a hwyluso comisiynu’r gwasanaeth mân anhwylderau gan fyrddau iechyd.  

Fodd bynnag, fe wyddoch y cytunwyd Fframwaith Contractiol Fferylliaeth Gymunedol ar sail Cymru a Lloegr ers 2005.  Rwy’n deall felly fod y toriadau yn Lloegr yn achos pryder i fferyllwyr ar gontract yng Nghymru.  Gadewch imi eich sicrhau, nid yw’r gyllideb iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol na’r nesaf yn cynnwys dim cynigion i leihau’r buddsoddi mewn fferylliaeth gymunedol. 

Wedi dweud hynny mae’r newidiadau yn rhoi cyfle i ystyried a yw’r buddsoddiad sylweddol a wnawn yn y sector ar hyn o bryd yn darparu gwasanaeth fferylliaeth gymunedol a fydd yn bodloni anghenion pobl yng Nghymru yn y dyfodol.

Yn y tymor hwy, bydd cynnal y lefel fuddsoddi bresennol yn amodol ar drefniadau newydd i fferyllfeydd cymunedol.  Mae’n rhaid i drefniadau newydd sicrhau bod fferyllfeydd cymunedol: yn darparu rhychwant mwy o wasanaethau â ffocws clinigol; yn dangos ymrwymiad i wella ansawdd y gwasanaeth; yn cyfrannu at leihau gwastraffu meddyginiaethau; yn defnyddio’r cymysgedd sgiliau ac awtomeiddio yn fwy effeithiol i ryddhau amser i fferyllwyr ddarparu gofal fferyllol, y tu mewn i ac y tu allan i’r fferyllfa fel ei gilydd, ac i ymrwymo i ddatblygu’r gweithlu a gwella’r seilwaith TG.

Rwyf wedi gofyn i fy swyddogion ymgynghori â Fferylliaeth Gymunedol Cymru ar sut y darperir y blaenoriaethau hyn a sut y bydd fferyllfeydd yng Nghymru yn dechrau symud tuag at wasanaeth â mwy o ffocws clinigol o fis Ebrill 2017.  Gwnaf ddatganiad arall i Aelodau’r Cynulliad unwaith bod yr ymgynghoriad wedi dod i ben.