Skip to content

Iaith Arwyddion Prydain

Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Mae cyfathrebu effeithiol a phriodol yn hanfodol i sicrhau bod gwasanaethau yn cael eu darparu mewn ffyrdd sy’n meithrin urddas a pharch. I bobl fyddar sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, mae cael y gefnogaeth briodol wrth gyfathrebu yn golygu eu bod yn teimlo’n fwy o ran o gymdeithas a'u bod yn cael mynediad at wasanaethau yn yr un modd â phawb arall. Gall hyn arwain at gyfleoedd y mae pobl sy'n clywed yn eu cymryd yn ganiataol, fel bod yn rhan o nosweithiau rhieni a digwyddiadau cymunedol, yn ogystal â chefnogi pobl i gael a chadw swyddi.

Ym mis Ionawr 2004, cydnabu'r Llywodraeth hon yn swyddogol fod Iaith Arwyddion Prydain yn iaith ynddi'i hun. Ers hynny, rydym wedi cefnogi hyfforddiant i gynyddu nifer y dehonglwyr cymwys yng Nghymru, ac wedi sicrhau bod deddfwriaeth, polisïau a rhaglenni ar draws Llywodraeth Cymru yn cydnabod pa mor bwysig yw cael gohebiaeth sy’n hygyrch i bawb. Mae cydraddoldeb a chynhwysiant yn cael eu hadlewyrchu yn ein hegwyddorion arweiniol ac, ynghyd â chynaliadwyedd a lles, maent yn sail i bopeth a wnawn.

Roedd cyflwyno Deddf Cydraddoldeb 2010, a'r dyletswyddau cydraddoldeb penodol i Gymru yn 2011, wedi cryfhau'r gofyniad ar awdurdodau lleol i ddileu gwahaniaethu a hybu cyfleoedd cyfartal i bawb. Mae dyletswydd gyfreithiol ar bawb sy'n darparu gwasanaeth i'r cyhoedd neu sy'n arfer swyddogaethau cyhoeddus i wneud yn siŵr bod addasiadau rhesymol yn cael eu gwneud i sicrhau bod pobl anabl yn cael eu trin yn gyfartal. Mae'r ddyletswydd hon yn gofyn ar i gyrff cyhoeddus fod yn rhagweithiol wrth wneud addasiadau i sicrhau bod anghenion o ran mynediad a chyfathrebu yn cael eu diwallu.

Er mwyn cyflawni hyn yn y gwasanaeth iechyd, cyflwynwyd Safonau Cymru Gyfan ar gyfer Darparu Gwybodaeth Hygyrch i Bobl Nam ar eu Synhwyrau a Chyfathrebu â Hwy a Chanllaw Cyfathrebu Cyn-ysbyty Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru. Nod Safonau Cymru Gyfan yw gosod safonau y dylai pobl sydd wedi colli'r defnydd o'u synhwyrau eu disgwyl wrth ddefnyddio gwasanaethau gofal iechyd yng Nghymru.  Datblygwyd y safonau gan Ganolfan Cydraddoldeb a Hawliau Dynol y GIG mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru, RNIB, Action on Hearing Loss Cymru (AoHL) a grŵp cyfeirio rhanddeiliaid. Yn rhan o'r Safonau mae'r gofyniad y dylai anghenion pob claf neu ddefnyddiwr gwasanaeth sydd angen cymorth wrth gyfathrebu, gael eu diwallu.

Mae AoHL Cymru ac RNIB Cymru hefyd wedi gweithio'n agos gyda Chanolfan Cydraddoldeb a Hawliau Dynol y GIG i ddatblygu hyfforddiant ar gyfer staff y GIG sy'n ymwneud yn benodol ag anghenion pobl sydd â nam ar eu synhwyrau. Mae Fy Nhrin yn Deg yn becyn e-ddysgu sydd wedi cael ei ddatblygu a'i dderbyn gan bob Bwrdd Iechyd Lleol fel hyfforddiant gorfodol statudol ar y cam ymsefydlu. Mae'n ymwneud â thrin pawb sy’n defnyddio gofal iechyd yn deg ac yn gyfartal, ac mae'n canolbwyntio'n fwy na dim ar gyfathrebu.

Mae'r sector cyhoeddus yng Nghymru yn parhau i ddatblygu ac addasu er mwyn diwallu anghenion y bobl a'r busnesau y mae'n eu gwasanaethu. Mae technoleg ddigidol yn chwarae rhan gynyddol yn y broses gyflenwi honno. Eleni, rydym wedi buddsoddi mewn prosiect gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf i dreialu gwasanaeth dehongli Iaith Arwyddion Prydain ar-lein mewn lleoliadau gofal sylfaenol a gofal eilaidd. Y nod yw sicrhau bod pobl fyddar yn cael gwell mynediad at ofal a gwell profiad fel cleifion, wrth wneud defnydd gwell o amser y dehonglwr. Mae'r prosiect hwn yn cyd-fynd â Safonau Cymru Gyfan, ac mae ei bartneriaeth â Gwasanaeth Dehongli a Chyfieithu Cymru yn golygu y bydd y dull hwn, os y bydd yn llwyddiannus, yn gallu cael ei gyflwyno ar draws sefydliadau iechyd eraill yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ymrwymo i ddiwallu anghenion addysgol dysgwyr byddar er mwyn iddynt wireddu eu llawn botensial. Fel rhan o'n Rhaglen Trawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol, byddwn yn cyflwyno deddfwriaeth yn fuan. Bydd Bil Drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru), y mae Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes yn bwriadu ei gyflwyno cyn y Nadolig, yn gwella’r system ar gyfer plant sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol. Mae tegwch a chydraddoldeb yn ganolog i'r Bil, a'i nod yw sicrhau bod pob dysgwr yn cael cymorth i wireddu eu llawn botensial.

Bydd dwy Ddeddf ddiweddar gan Lywodraeth Cymru yn cyfrannu at drawsnewid y ffordd y caiff gwasanaethau cyhoeddus eu darparu ac helpu i sicrhau bod pawb yn gallu rheoli eu sefyllfa eu hunain a'r canlyniadau sy'n bwysig iddynt. O dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, caiff anghenion cyfathrebu unigolion eu casglu yn ystod y broses asesu, fel bod anghenion cyfathrebu defnyddwyr gwasanaeth yn gallu cael eu diwallu mewn modd effeithiol. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod cyfrifoldeb ar gyrff cyhoeddus penodol i osod amcanion llesiant, a gweithio tuag atynt; amcanion a fydd yn cyfrannu at bob un o'r nodau llesiant. Un o'r nodau hynny yw creu Cymru sy'n fwy cyfartal, gyda chymdeithas sy'n galluogi pobl i wireddu eu potensial waeth beth fo'u cefndir na'u hamgylchiadau.

Dros y tair blynedd ddiwethaf, rydym wedi bod yn ariannu Action on Hearing Loss Cymru, ac wedi bod yn gweithio gydag RNIB Cymru, i hyfforddi a helpu pobl sydd wedi colli defnydd o'u synhwyrau i rannu eu profiadau personol gyda darparwyr gwasanaethau, yn bennaf ym maes iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a'r sector tai. Yn ogystal â rhoi cyfle i ddweud wrth ddarparwyr gwasanaethau'n uniongyrchol am y rhwystrau sydd o'u blaen, bydd y prosiect yn casglu straeon y rhai sy'n defnyddio gwasanaethau ac yn llunio adroddiad i'w ddosbarthu ymhellach. Bydd canllawiau hygyrch a dwyieithog yn cael eu creu i helpu mudiadau i ymateb yn well i anghenion pobl sydd wedi colli defnydd o'u synhwyrau, gan gynnwys y rheini sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain.

Rwy’n gobeithio bod y datganiad hwn yn dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i hybu Iaith Arwyddion Prydain fel un o'r dulliau cyfathrebu sydd eu hangen i sicrhau bod pobl sydd wedi colli defnydd o'u synhwyrau yn defnyddio gwasanaethau mewn modd llawn a chyfartal yng Nghymru. Byddwn yn parhau i annog y rheini sy'n darparu gwasanaethau a'r rheini sy'n eu defnyddio i gydweithio er mwyn sicrhau bod gwasanaethau yn ymateb i anghenion pawb sy'n byw yng Nghymru.