Skip to content

Datganiad Ysgrifenedig - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: y diweddaraf am y mesurau arbennig

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd , Llesiant a Chwaraeon

Yn gynharach y mis hwn, cyflwynodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ei adroddiad ar gynnydd o ran cerrig milltir a disgwyliadau cam un y fframwaith gwella o dan y mesurau arbennig. Trafodwyd yr adroddiad ar 8 Mehefin mewn cyfarfod rhwng uwch swyddogion o Lywodraeth Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC).
Yn y cyfarfod, nodwyd y cynnydd a wnaed mewn nifer o feysydd a thynnwyd sylw at y meysydd y mae angen canolbwyntio arnynt yn y camau nesaf, i  sicrhau gwelliant sylweddol a chynaliadwy.

Rwyf wedi ymweld â’r Gogledd yn rheolaidd yn ystod y 12 mis diwethaf i gwrdd â staff, cleifion a phartneriaid. Roeddwn yn Ysbyty Gwynedd yr wythnos diwethaf ac, unwaith yn rhagor, mae ymdrech ac ymroddiad y staff yno wedi creu argraff dda arnaf. Maent yn cydnabod bod angen gwneud newidiadau ac maent wedi mynd i'r afael â'r heriau y mae'r mesurau arbennig wedi'u gosod. 

Nododd y grŵp fod cynnydd sylweddol wedi'i wneud mewn rhai meysydd, gan gynnwys gwasanaethau mamolaeth, gofal sylfaenol a gwasanaethau y tu allan i oriau. 

O ran gwasanaethau mamolaeth, mae'r bwrdd iechyd wedi sefydlogi'r gwasanaeth drwy lwyddo i recriwtio staff meddygol a staff bydwreigiaeth er mwyn gostwng y gyfradd swyddi gwag a gwneud y gwasanaeth yn fwy cydnerth. Yn ogystal, mae wedi penodi meddyg ymgynghorol bydwreigiaeth i arwain gwaith ar normalrwydd mewn genedigaeth. Darparodd y broses ymgynghori cyhoeddus a gynhaliwyd yr haf diwethaf adroddiad cynhwysfawr ar farn a phryderon y cyhoedd a rhanddeilaid. Bu'r adroddiad o gymorth i'r Bwrdd wrth iddo benderfynu ym mis Rhagfyr sut i gynnal gwasanaethau mamolaeth diogel yn y tri phrif safle ysbyty. Dyfarnwyd Tystysgrif Arfer Orau y Sefydliad Ymgynghori am y ffordd y cynhaliwyd yr ymgynghoriad cyhoeddus pwysig hwn. Mae'r achos busnes amlinellol dros y Ganolfan Is-ranbarthol ar gyfer Gofal Dwys i'r Newydd-anedig, sef uned o'r radd flaenaf i ofalu am fabanod sâl a babanod sydd wedi cael eu geni'n gynnar, wedi cael ei gymeradwyo.  Bydd achos busnes llawn yn cael ei gyflwyno i'r Bwrdd ym mis Gorffennaf yn unol â'r amserlen. Bydd hyn yn helpu i ddarparu gofal o'r safon uchaf a'r canlyniadau clinigol gorau i famau a babanod ledled y Gogledd. Fodd bynnag, fel rhan o'i gynlluniau ar gyfer cam dau, bydd angen i'r bwrdd ganolbwyntio ar wella arweinyddiaeth ddiwylliannol a chlinigol o fewn gwasanaethau mamolaeth, fel a nodwyd yn y meini prawf ar gyfer gwella.
Mae cynnydd da wedi'i wneud o ran y cerrig milltir ar gyfer gofal sylfaenol a gwasanaethau y tu allan i oriau. Nodwyd y pryderon penodol ynghylch gwasanaethau y tu allan i oriau. Mae trefniadau newydd ar waith ar gyfer gwella'r ffordd y mae gwasanaethau y tu allan i oriau'n gweithredu. Ceir ffocws cryf ar recriwtio, ac mae gwasanaethau y tu allan i oriau wedi bod yn fwy cydnerth ac wedi perfformio'n well dros y gaeaf diwethaf. Yn y Gogledd-ddwyrain, mae 10 o feddygon teulu a dau ymarferydd nyrsio wedi cael eu recriwtio ac mae cyfradd llenwi'r rota bellach yn 90% o gymharu â 60-70% yn flaenorol. Mae model newydd, arloesol o ofal sylfaenol yn cael ei weithredu ym Mhrestatyn. Hyd yma, mae'r adborth gan gleifion a staff wedi bod yn gadarnhaol. Yn y cam nesaf, bydd angen i'r bwrdd iechyd adeiladu ar y gwaith hwn, gan ddatblygu ei glystyrau gofal sylfaenol a dod o hyd i ffyrdd newydd o gadw a recriwtio meddygon teulu a gweithwyr gofal sylfaenol eraill. Bydd hefyd angen defnyddio eu hamser a'u harbenigedd yn y ffordd orau bosibl er mwyn darparu gwasanaethau cynaliadwy a hygyrch yn lleol. 

O edrych ar y meini prawf ar gyfer arweinyddiaeth a llywodraethu, mae tystiolaeth o gynnydd yma hefyd. Mae'r gwaith recriwtio i'r uwch dîm yn ddiweddar wedi dangos bod y bwrdd iechyd yn denu unigolion profiadol sydd â hanes gyrfa da. Chychwynnodd y Prif Weithredwr newydd, Gary Doherty, yn ei swydd ar 29 Chwefror; mae'r Cyfarwyddwr Iechyd Meddwl newydd, Andy Roach, wedi cychwyn yn ei swydd y mis hwn ac fe gwrddais ag ef yr wythnos diwethaf; bydd y Cyfarwyddwr Nyrsio newydd, Ms Gill Harris, yn cychwyn yn yr wythnosau nesaf; a bydd Dr Evan Moore y Cyfarwyddwr Meddygol newydd yn cychwyn yn ei swydd ddechrau mis Medi. Bydd hyn yn dod â gallu ac adnoddau ychwanegol i'r tîm arweinyddiaeth, gan adeiladu ar gynnydd a wnaed a threfniadau'r Cyfarwyddwr Ardal.

Mae aelodau annibynnol newydd wedi ymuno â'r Bwrdd hefyd ac mae rhaglen datblygu'r bwrdd yn parhau i fynd rhagddi gyda chyngor gan Ann Lloyd, un o brif Weithredwyr blaenorol GIG Cymru. Mae'r Bwrdd wedi cymeradwyo strategaeth rheoli risg ddiwygiedig, ac wedi adolygu'r strwythur pwyllgorau a rhoi'r strwythur newydd ar waith. Caiff effeithiolrwydd y trefniadau newydd hyn ei fonitro yng ngham dau. Rwy’n disgwyl rhagor o welliant yn y maes pwysig hwn.  

Mae camau cychwynnol cadarnhaol wedi eu cymryd i adfer cysylltiadau gyda'r cyhoedd. Mae'r bwrdd iechyd wedi gweithio'n galed i drefnu a mynychu digwyddiadau i gynnwys a chysylltu â staff, partneriaid a'r cyhoedd. Mae ei strategaeth ymgysylltu, a'r ffordd mae'n cydweithio â rhanddeiliaid a phartneriaid lleol o fewn y timau ardal yn dangos addewid. Fodd bynnag, mae angen inni weld mwy o wahaniaeth o ran canlyniadau a manteision y gweithredoedd hyn. Rwyf eisiau gweld rhagor o gynnydd o ran datblygu'r weledigaeth a'r strategaeth ar gyfer iechyd i bobl y Gogledd. Rwyf hefyd angen sicrwydd fod y dull o weithio mewn partneriaeth ranbarthol gyda rhanddeiliaid yn gynaliadwy, yn enwedig o ran y gwaith ar y strategaeth iechyd meddwl. Mae rhagor o welliannau i’r ffordd y caiff pryderon a chwynion eu rheoli yn bwysig er mwyn gwella ffydd y cyhoedd yng ngwaith y bwrdd. Rwy'n disgwyl gweld datblygiad mwy sylweddol yn y meysydd hyn erbyn yr hydref. 

Yn eu trafodaethau, roedd y grŵp yn cydnabod graddfa fawr y gwasanaethau iechyd meddwl yn y Gogledd a'r ymdrech y bydd ei hangen i'w gwella. Mae'n bwysig nodi'r camau cynnar a gymerwyd yn ystod y misoedd diwethaf, gyda chymorth Helen Bennett, i ddatblygu trefniadau llywodraethu newydd ac i wella cydymffurfiaeth â'r mesur iechyd meddwl. Mae penodiad y Cyfarwyddwr Iechyd Meddwl newydd, sy'n ateb yn uniongyrchol i'r Prif Weithredwr, yn allweddol. Rwy'n disgwyl gweld cynnydd o ran trawsnewid y gwasanaeth yn y 6-12 mis nesaf, yn enwedig o ran datblygu strategaeth tymor hir. Rwyf hefyd eisiau sicrwydd y bydd yr argymhellion yn adroddiadau AGIC, gan gynnwys dysgu ar y cyd ledled y Gogledd, yn cael eu rhoi ar waith. 

Mae'r Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol (HASCAS) yn parhau â'r gwaith i sicrhau ymchwiliad llawn a thrwyadl i ofal cleifion unigol ar ward Tawel Fan. Ochr yn ochr â hyn, mae Donna Ockenden yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o'r trefniadau llywodraethu yn ystod y cyfnod cyn i Tawel Fan gau. Mae'r bwrdd iechyd wedi ymrwymo i gynnal trafodaethau gyda theuluoedd Tawel Fan a chynnig cymorth iddynt. Mae'r Cadeirydd a'r Prif Weithredwr yn parhau i gwrdd â grŵp yn fisol. 

Fis Hydref diwethaf, cadarnheais y byddai'r bwrdd yn parhau o dan fesurau arbennig am ddwy flynedd. Fel sy’n ddisgwyliedig ar y pwynt hwn o'r daith, mae'r cyngor a gafwyd yn cefnogi'r farn hon. Mae'r fframwaith gwella a gyhoeddais ym mis Ionawr yn pennu'r disgwyliadau a'r cerrig milltir ar gyfer Cam Dau - sef y chwe mis nesaf hyd at ddiwedd mis Hydref 2016, ac ar gyfer Cam Tri - sef hyd at fis Hydref 2017. Mae'r bwrdd iechyd wedi gwneud cynnydd mewn sawl maes ond mae ganddo waith i'w wneud o hyd, yn enwedig o ran trawsnewid gwasanaethau iechyd meddwl a datblygu strategaeth glinigol ar gyfer y dyfodol sy'n gynaliadwy a fforddiadwy. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gydweithio â’r bwrdd iechyd a chynnig cymorth iddo er mwyn cyflawni'r gwelliannau a ddisgwylir.
Mae'n hanfodol fod gan bobl y Gogledd ffydd yn y ffordd y caiff eu gwasanaethau iechyd eu darparu. Fel llywodraeth, rydym wedi ymrwymo i drafod dyfodol y gwasanaeth iechyd yn y rhanbarth gyda phobl yn y Gogledd, er mwyn sicrhau ei fod yn cyflawni canlyniadau gwell.