Skip to content

Datganiad Ysgrifenedig - Ymateb Llywodraeth Cymru i Ddatganiad yr Hydref Canghellor y Trysorlys 2016

Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd Datganiad yr Hydref heddiw gan Ganghellor y Trysorlys ynghylch y rhagolygon i’r economi a chynlluniau treth a gwariant Llywodraeth y DU. 

Dyma Gyllideb gyntaf y DU i'w chyhoeddi yn dilyn y refferendwm Ewropeaidd ym mis Mehefin a'r penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd.
Mewn bron i 10 mlynedd o bolisïau cyni gan Lywodraeth y DU, gwantan iawn yw'r twf a welwyd yn economi’r DU ac ychydig iawn o dwf fu mewn cynhyrchiant. Yn y cyfamser, mae'r gyllideb yn parhau i fod mewn diffyg, a dyled y llywodraeth wedi cynyddu'n aruthrol. 

Wrth edrych tua'r dyfodol, mae polisïau’r llywodraeth yn addo cyflawni dim mwy na mân welliannau i safonau byw a chyllideb a fydd yn parhau i fod mewn diffyg nes i'r Senedd hon ddod i ben.

Mae’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi adolygu ei rhagolygon ar gyfer twf economaidd heddiw, ac maent yn dangos gostyngiad sylweddol. Gwelir gostyngiad sydyn o ran twf cynhyrchiant hefyd, a rhagwelir y bydd chwyddiant yn uwch. O ganlyniad, disgwylir i incwm gwario aelwydydd dyfu ar raddfa cryn dipyn yn arafach na'r disgwyl yng Nghyllideb mis Mawrth.   Bydd dyled Llywodraeth y DU tua £200 biliwn yn uwch yn 2020-21 na'r hyn a ragwelwyd yn flaenorol.

Yn y cyfnod ansicr sydd ohoni, mae'n hynod bwysig ein bod yn creu’r amodau ar gyfer economi gref a chadarn. Cyn Datganiad yr Hydref, galwodd Llywodraeth Cymru ar Lywodraeth y DU i roi hwb i fuddsoddiad mewn seilwaith ac i droi cefn ar y polisi o gyni sy'n creu cymaint o niwed.

Mae Datganiad yr Hydref heddiw yn cynnwys rhai camau i’r cyfeiriad cywir. Yn gyffredinol, mae Cymru’n cael gwerth £442 miliwn o gyllid cyfalaf ychwanegol rhwng 2016-17 a 2020-21.  Mae hyn yn gwneud rhywfaint i adfer y toriadau y mae Llywodraeth y DU wedi eu gwneud i’n cyllideb cyfalaf yn y blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, bydd ein cyllideb cyfalaf yn parhau i fod 21% yn is mewn termau real yn 2019-20 nag ydoedd yn 2009-10.  

Byddwn nawr yn ystyried beth yw’r ffordd orau o ddefnyddio’r cyllid cyfalaf hwn i gael yr effaith fwyaf bosibl yn unol â’n blaenoriaethau o ran buddsoddi, sydd wedi eu pennu yn Symud Cymru Ymlaen.
Mae’n siomedig nad yw Llywodraeth y DU wedi cymryd y cyfle hwn i roi diwedd ar gyni. Nid yw’r newidiadau i’n cyllideb refeniw, sef  £35.8 miliwn yn ychwanegol rhwng 2016-17 a 2019-20 yn sylweddol o gwbl ac nid ydynt yn dod yn agos at wneud iawn am y toriadau mawr i wariant cyhoeddus ers dechrau’r degawd hwn.  Erbyn diwedd y degawd, bydd ein DEL refeniw wedi gostwng 8% mewn termau real – sy’n gyfwerth â thuag £1 biliwn yn llai ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus hanfodol yng Nghymru.
Ar ben hynny, mae £3.5biliwn o doriadau yn dal i ddod yn 2019-20, a allai olygu rhagor o doriadau i gyllideb Cymru. Mae hyn yn creu rhagor o ansicrwydd ar adeg pan fo darparu sefydlogrwydd a sicrwydd yn bwysicach nag erioed. 

Yn fy llythyr at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys cyn Datganiad yr Hydref, pwysleisiais y materion sy’n bwysig o safbwynt strategol i Gymru, gan gynnwys gwneud cynnydd o ran Bargen Dinas-ranbarth Bae Abertawe a Bargen Dwf ar gyfer y Gogledd. Rwy’n falch fod y ddwy fargen bwysig hon wedi cael eu cydnabod heddiw ac edrychaf ymlaen at gydweithio â Llywodraeth y DU i sicrhau, fel mater o flaenoriaeth, fod y bargenion hyn yn dwyn ffrwyth. 

Mae cyfleoedd wedi cael eu colli ar sawl ystyr yn Natganiad yr Hydref.  Soniodd y Canghellor am economi sy’n gweithio i bawb.  Mae Llywodraeth Cymru wedi galw droeon i’r Doll Teithwyr Awyr gael ei datganoli ac i dollau Pont Hafren gael eu diddymu ar ddiwedd y gostyngiad presennol.  Byddai’r ddau fesur hyn yn ysgogi economi’r DU ar yr adeg ansicr hon.  Byddwn yn parhau i bwyso am gyflwyno’r mesurau hyn.
Mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau nad oes unrhyw gynlluniau i wneud  arbedion pellach i les yn ystod y Senedd hon, y tu hwnt i’r rhai sydd eisoes wedi cael eu cyhoeddi - rydym yn croesawu’r cadarnhad hwn. Rydym yn cydnabod hefyd fod Llywodraeth y DU wedi ceisio lliniaru effaith y toriadau a gyhoeddwyd gynt trwy leihau gostyngiad graddedig Credyd Cynhwysol o Ebrill 2017. Dyma’r gyfradd a ddefnyddir i dynnu Credyd Cynhwysol yn ôl i gymryd enillion i ystyriaeth, a bydd yn golygu y bydd unigolion yn cadw mwy o’r hyn y maent yn ei ennill. Er hynny, caiff hyn ei wrthbwyso i raddau helaeth gan y colledion yn sgil y  toriadau a gyhoeddwyd gynt i lwfans gwaith Credyd Cynhwysol  - y swm y gall derbynwyr ei gael cyn i’w budd-daliadau ddechrau cael eu tynnu’n ôl.

Ceir toriadau sylweddol eraill i les sydd wedi cael eu rhoi ar waith yn ddiweddar neu sy’n mynd i gael eu rhoi ar waith dros yr ychydig flynyddoedd nesaf ac rydym yn pryderu am effaith y rhain. Er enghraifft er nad yw rhewi arian parod yn achos budd-daliadau oedran gweithio wedi cael unrhyw effaith eleni, mae’r rhagolygon ar gyfer chwyddiant yn golygu y bydd yr esgid yn gwasgu’n galetach byth.

Mae Llywodraeth Cymru wedi mynd ati mewn ffordd wahanol i ystyried cyni. Nodwyd ffrwyth ein hystyriaeth yn ein Cyllideb ddrafft y mis diwethaf. Mae ein Cyllideb yn darparu sefydlogrwydd yn y tymor byr ar gyfer ein gwasanaethau craidd, ac yn cymryd camau gweithredu'r un pryd i wireddu’r uchelgeisiau a nodir yn Symud Cymru Ymlaen. Mae Datganiad yr Hydref yn golygu y byddwn yn  parhau i wynebu dewisiadau anodd yn y blynyddoedd i ddod wrth inni geisio amddiffyn gwasanaethau cyhoeddus tra bo’r economi’n dal yn ansicr.