Skip to content

Datganiad Ysgrifenedig - Sail cais y Cwnsler Cyffredinol i gyfrannu at achos apêl Erthygl 50 gerbron y Goruchaf Lys

Mick Antoniw  AC, Y Cwnsler Cyffredinol

Yn dilyn cadarnhad y Goruchaf Lys bod fy nghais i gymryd rhan yn achos apêl y mater uchod wedi'i ganiatáu, rwy'n cyhoeddi ar ba sail yr oeddwn yn gwneud y cais hwnnw.

Gan fod y mater yn parhau i fod yn destun ymgyfreitha, ni fyddaf yn rhoi rhagor o fanylion ynghylch y dystiolaeth a gyflwynwyd gennyf ar hyn o bryd. Bydd rhagor o fanylion ynghylch y dogfennau a gyflwynwyd yn cael eu rhyddhau yn nes at ddyddiad y gwrandawiad.

Roedd y sail dros fy nghais fel a ganlyn:

Mae'r cais yn enw Cwnsler Cyffredinol Cymru, sydd wedi'i benodi gan Ei Mawrhydi ac sy'n aelod o Lywodraeth Cymru (gweler adran 49 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ("Deddf 2006")).Mae o'r farn bod yr apêl hon yn codi materion cyfansoddiadol pwysig tu hwnt ynghylch y fframwaith cyfreithiol ar gyfer datganoli yng Nghymru a'r Deyrnas Unedig, ac fe fydd yn dadlau y dylai dyfarniad y Llys Adrannol sefyll. Anfonodd y Cwnsler Cyffredinol gwnsleriaid iau ac arweiniol i'r tridiau o wrandawiad gerbron y Llys Adrannol ar friff gwylio swyddogol. Fe gafodd eu presenoldeb ei gydnabod gan y Llys ym mharagraff 7 y dyfarniad. Ymddangosodd prif gwnsler Llywodraeth yr Alban gerbron y Llys Adrannol yn yr un modd.

Mae gan y Cwnsler Cyffredinol fuddiant uniongyrchol yn yr apêl, gan ei fod yn codi cwestiynau ynghylch a ellir defnyddio'r Uchelfraint i gymryd camau sy'n effeithio ar gymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, pwerau Gweinidogion Cymru, a pherthynas gyfansoddiadol gyffredinol y Cynulliad a Llywodraeth Cymru gyda Senedd San Steffan a Llywodraeth y DU yn eu tro.
Ym mharagraff 102 y dyfarniad, nododd y Llys Adrannol bod y Partïon â Buddiant wedi cynnig dadleuon ynghylch effaith rhoi rhybudd dan Erthygl 50 Cytuniad yr Undeb Ewropeaidd ar y statudau datganoli. Fodd bynnag, nid oedd y Llys o'r farn bod angen ystyried y dadleuon hyn gan iddo ddod i'r casgliad na ellid defnyddio'r Uchelfraint i ddiddymu hawliau yn codi dan adran 2(1) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (ibid).

Felly mae'r Cwnsler Cyffredinol am gyflwyno tystiolaeth lafar ac ysgrifenedig ynghylch defnyddio'r Uchelfraint i roi rhybudd i adael yr Undeb Ewropeaidd dan Erthygl 50 Cytuniad yr Undeb Ewropeaidd, gan ddiystyru rhai o ddarpariaethau Deddf 2006 ac addasu pwerau'r Cynulliad Cenedlaethol a Gweinidogion Cymru.  Ar ben hynny, mae'r Cwnsler Cyffredinol am gyflwyno tystiolaeth ynghylch cyfyngiadau pŵer yr Uchelfraint i effeithio ar statudau sydd â statws "cyfansoddiadol" megis Deddf 2006 (fel y cyfeiriwyd ati gan y Llys Adrannol ym mharagraffau 43-44, 82 ac 88 y dyfarniad), a'r defnydd o'r Uchelfraint i ddiystyru egwyddorion cyfansoddiadol sy'n sail i ddatganoli yn y Deyrnas Unedig. Edrychodd y Llys Adrannol ar bwysigrwydd yr egwyddorion cyfansoddiadol ym mharagraffau 82-84 y dyfarniad.

Mae'r Cwnsler Cyffredinol hefyd yn gofyn am ganiatâd i gyflwyno datganiad tystiolaeth byr gan un o'r prif academyddion cyfansoddiadol, Dr Andrew Blick, sy'n rhoi safbwynt hanesyddol a chyfansoddiadol ynghylch priodoldeb defnyddio'r Uchelfraint i sicrhau newidiadau sylfaenol, yn arbennig i'r fframwaith datganoli.

Yn olaf, deallwn fod cais cyfatebol Gogledd Iwerddon (Re McCord’s Application [2016] NIQB 85) yn mynd i gael ei uno â'r apêl hon. Bydd Twrnai Cyffredinol Gogledd Iwerddon yn ymddangos gerbron y Llys hwn gan ei fod yn rhan o'r cais hwnnw. Dan yr amgylchiadau, mae'n amlwg yn briodol i'r holl weinyddiaethau datganoledig gael eu cynrychioli gerbron y Llys, gan gofio fod yr apêl yn codi materion mor bwysig i'r fframwaith datganoli yn y Deyrnas Unedig yn gyfan.