Skip to content

Iaith fyw: iaith byw - Strategaeth y Gymraeg 2012 - 2017

Dolenni perthnasol

Cyfle i fod yn rhan o'r drafodaeth am ddyfodol yr iaith Gymraeg.
Os hoffech gael unrhyw ddogfennau sydd ar y dudalen hon mewn fformat gwahanol, rhowch wybod inni.

Strategaeth ar gyfer hybu a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg ym mywyd bob dydd.

Roedd y strategaeth hon i fod i ddod i ben ar 31 Mawrth 2017, ar 6 Ebrilll 2017 cyhoeddodd Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, fod y gwaith o lunio strategaeth hir-dymor i wireddu ein gweledigaeth yn parhau a’r bwriad yw cyhoeddi yn ystod haf 2017. Mae’r strategaeth ddrafft newydd yn gosod ein gweledigaeth hir-dymor sy’n ymestyn dros gyfnod rhwng 2017 a 2050 gyda’r uchelgais o weld miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Yn y cyfamser, bydd y Strategaeth gyfredol – Iaith fyw: iaith byw a’r cynllun gweithredu cyfredol yn parhau yn weithredol.

Iaith fyw: iaith byw - Strategaeth y Gymraeg 2012 - 2017

Gweld y Gymraeg yn ffynnu yng Nghymru yw ein gweledigaeth. Rydym am weld cynnydd yn nifer y bobl sy’n gallu siarad yr iaith, ac sy'n ei defnyddio. Ein chwe nod yw:

  • annog a chefnogi'r defnydd o'r Gymraeg o fewn teuluoedd
  • cynyddu'r ddarpariaeth o weithgareddau Cymraeg ar gyfer plant a  phobl ifanc a chynyddu eu hymwybyddiaeth o werth yr iaith
  • cryfhau safle'r Gymraeg o fewn y gymuned
  • cynyddu cyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg yn y gweithle
  • cynyddu a gwella gwasanaethau Cymraeg i ddinasyddion
  • cryfhau'r seilwaith ar gyfer yr iaith, gan gynnwys technoleg digidol.

Mae'r strategaeth hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg Llywodraeth Cymru fel elfen hanfodol wrth greu siaradwyr Cymraeg y dyfodol - ar y cyd ag annog y defnydd o'r iaith o fewn teuluoedd.

Iaith fyw: iaith byw - Bwrw mlaen: 2014-2017

Bwriad y datganiad polisi hwn oedd i osod ein ffocws dros y dair blynedd olaf o’r strategaeth. Ystyriwyd y datganiad hwn nifer o ddatblygiadau ers i gyhoeddiad y  strategaeth yn 2012, gan cynnwys y canlynol:

  • Canlyniadau Cyfrifiad 2011 ar y Gymraeg a gyhoeddwyd yn raddol ers mis Rhagfyr 2012.
  • Y sgwrs genedlaethol a gynhaliwyd ar y Gymraeg, Y Gynhadledd Fawr, a ymgymerwyd gan y Prif Weinidog yn ystod haf 2013 mewn ymateb i ganlyniadau’r Cyfrifiad.
  • Cyhoeddi adroddiadau gan grwpiau amrywiol a sefydlwyd i gynnal adolygiadau polisi ar gymunedau Cymraeg, datblygiad economaidd a’r iaith Gymraeg, dysgu’r Gymraeg fel ail iaith, Cymraeg i oedolion a’r Eisteddfod Genedlaethol.
  • Yr adroddiad allanol a gomisiynwyd yn ymchwilio i ddefnydd iaith siaradwyr Cymraeg yn eu bywydau bob dydd.
  • Yr adolygiad allanol a gomisiynwyd o waith y Mentrau Iaith, Cynlluniau Gweithredu Iaith a Chynllun Hybu’r Gymraeg Aman-Tawe.

Yng ngoleuni’r uchod, adnabuwyd pedair thema i ganolbwyntio arnynt:

  1. Yr angen i gryfhau’r cysylltiadau rhwng yr economi a’r Gymraeg.
  2. Yr angen am gynllunio strategol gwell ar gyfer y Gymraeg.
  3. Y defnydd o’r Gymraeg yn y gymuned.
  4. Yr her o newid ymddygiad ieithyddol.

Lawrlwytho Dogfen

PDF Document (MFS)
Iaith fyw: iaith byw (Maint ffeil: 800KB)