Skip to content

Ymwybyddiaeth o’r etholiad cynghorau tref a chymuned 2017

Dolenni perthnasol

Y Cynghorau Tref a Chymuned yw llais llywodraeth leol ar lawr gwlad yng Nghymru.
Cwestiynau cyffredin ynghylch cynghorau cymuned a thref, gan gynnwys sut y gallwch gyfrannu at eu gwaith.
Os hoffech gael unrhyw ddogfennau sydd ar y dudalen hon mewn fformat gwahanol, rhowch wybod inni.

Gwybodaeth am sefyll mewn etholiad fel cynghorydd tref neu gymuned.

Pobl  

Beth yw cynghorau cymuned a thref ?

Cynghorau tref a chymuned yw’r lefel lywodraeth fwyaf lleol yng Nghymru, gan fodoli mewn 735 o gymunedau mewn rhannau gwledig, trefi bach, maestrefol a threfol o’r wlad. Maent yn awdurdodau statudol gyda phwerau wedi eu diffinio mewn deddfwriaeth i ddarparu rhai gwasanaethau ac amwynderau lleol, a hefyd gyda'r hawl i ymgynghori ar rai pethau fel cynllunio gwlad a thref. Mae gan gynghorau tref a chymuned yr hawl i godi praesept, ac maent yn gyrff etholedig gydag aelodau sy’n atebol i’r cyhoedd drwy’r blwch pleidleisio. Gyda’i gilydd, mae cynghorau tref a chymuned yng Nghymru'n dibynnu ar tua wyth mil o unigolion i fod yn gynghorwyr gwirfoddol, ac yn gyfrifol am reoli cyllideb flynyddol gyfunol o dros £40 miliwn.

Strwythur, nifer a dosbarthiad daearyddol y cynghorau cymuned a thref ?

Ers diwedd Medi 2013, mae 735 o gynghorau tref a chymuned yng Nghymru, sydd gyda’i gilydd yn ymestyn dros 96% o dir y wlad a thua 70% o'i phoblogaeth. Fel y trafodwn ymhellach isod, mae maint a nifer ein cynghorau tref a chymuned wedi aros fwy neu lai’r un fath dros y chwarter canrif ddiwethaf. Mae cryn amrywiaeth o ran maint a lleoliad cynghorau tref a chymuned. Mae'r boblogaeth a wasanaethir gan gynghorau tref a chymuned yn amrywio rhwng 179 (Ganllwyd, Gwynedd) a 45,145 (Barri, Bro Morgannwg). Mae gan fwy na dwy ran o dair o gynghorau tref a chymuned boblogaeth o lai na 2,500 o bobl, yn ôl Cyfrifiad 2011.

Ble mae cynghorau Cymuned a Thref yn cael eu cyllid ac incwm o?

Mae cynghorau tref a chymuned yng Nghymru’n gyfrifol am wario dros £40 miliwn o arian cyhoeddus bob blwyddyn (ac o hwn mae £30 miliwn yn cael ei godi drwy'r praesept),41 cynnydd o tua £15 miliwn ar y sefyllfa dybiedig yn 2002.42 Maent yn wahanol i grwpiau a phartneriaethau cymunedol eraill oherwydd medrant godi arian o drethi drwy braesept i dreth y cyngor. Mae’r capasiti hwn yn cynnwys bod yn gyfrifol am reolaeth gadarn ac atebol o gyllid. 

Daw prif ffynhonnell gyllid y cynghorau cymuned oddi wrth y praesept. Mae cyfanswm y praesept a osodwyd gan gynghorau cymuned yn 2013/14 yn fwy na £30 miliwn, ond llyncir y rhan fwyaf o hwn gan y praeseptau uwch a godir gan gynghorau cymuned mwy. (Y ffigwr diweddaraf ar gyfer 2016/17 yw £36.1 miliwn (Casgliad Data BR1).

Pa wasanaethau mae cynghorau cymuned a thref yn darparu?

Mae pob cyngor tref a chymuned yn darparu gwasanaeth neu amwynder i gymunedau lleol i raddau, ond mae natur, maint ac ystod y gwasanaethau a’r amwynderau hyn yn amrywio yn ôl maint a lleoliad y cynghorau. Yr amwynderau a ddarperir amlaf yn ôl Arolwg Cynghorau Tref a Chymuned 2010 yw hysbysfyrddau; meinciau a llochesau; caeau chwarae, parciau a mannau agored; neuaddau pentref neu ganolfannau cymunedol, cofebion rhyfel; mynwentydd; a goleuadau stryd, sydd i gyd yn cael eu darparu gan fwy na chwarter y cynghorau cymuned.80 Mae’r ffigurau yma fwy neu lai yn atgyfnerthu darganfyddiadau Adroddiad Aberystwyth yn 2002, er bod rhai amrywiadau sy'n adlewyrchu gwahaniaethau mewn sut gafodd yr holiaduron eu geirio a’r data ei gategoreiddio.

Dim ond arwyddion a hysbysfyrddau sy’n cael eu darparu gan fwyafrif o’r cynghorau o bob maint. Mae’r rhan fwyaf o’r cynghorau gyda phoblogaeth o fwy na mil hefyd yn darparu meinciau a llochesau, tra darperir caeau chwarae a meysydd chwarae gan y rhan fwyaf sydd â phoblogaeth o rhwng 2,500 a 5,000, ond nid poblogaeth uwch (efallai'n awgrymu bod meysydd a chaeau chwarae mewn aneddiadau mwy'n cael eu darparu fel rheol gan y prif awdurdodau). Mae’r rhan fwyaf o gynghorau tref a chymuned mawr gyda phoblogaeth o fwy na 20,000 yn rhedeg canolfannau cymunedol. Mae’r cynghorau cymuned mwy hefyd yn tueddu i ddarparu ystod ehangach o wasanaethau ac amwynderau.

Canllawiau i Gynghorau Tref a Chymuned

Mae canllawiau i gynghorau tref a chymuned ac mwy o wybodaeth ar rôl cynghorydd tref a chymuned ar gael ar wefan Un Llais Cymru (dolen allanol).

Lawrlwytho Dogfen