Skip to content

Trychineb Tŵr Grenfell - cwestiynau cyffredin

Dolenni perthnasol

Mae Carl Sargeant wedi pwysleisio mai diogelwch a thawelwch meddwl trigolion sy'n byw mewn blociau o fflatiau sydd â chladin o ddefnydd alwminiwm cyfansawdd (ACM) yw ei flaenoriaeth.
Carl Sargeant, wedi cyhoeddi ei fod yn sefydlu grŵp arbenigol i ystyried yr holl wersi sy'n codi o ganlyniad i drychineb Tŵr Grenfell, a sut y maent yn berthnasol i Gymru.

Cwestiynau cyffredin am y sefyllfa yng Nghymru yn dilyn trychineb Tŵr Grenfell (Diweddarwyd ddiwethaf 17:00).

Y sefyllfa bresennol

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol, perchnogion adeiladau, rheolwyr ac eraill i sicrhau bod yna ddarlun llawn a chywir o adeiladau preswyl uchel ym mhob rhan o Gymru, ac yn enwedig y rhai â chladin Deunydd Cyfansawdd Alwminiwm (ACM).
Rydym ni wedi cael gwybod nad oes gan unrhyw adeiladau ysgol sy’n bodloni’r meini prawf, gladin ACM. Mae’r un peth yn wir am adeiladau preswyl yn ystâd GIG Cymru hefyd.

O ran addysg uwch, Mae CCAUC wedi coladu gwybodaeth gynhwysfawr am adeiladau o fewn y sector Addysg Uwch. Maent wedi bod wrthi’n ceisio cael gwybodaeth am yr holl adeiladau sy’n cael eu defnyddio gan brifysgolion neu eu myfyrwyr. Rydym ar hyn o bryd yn disgwyl canlyniadau profion ar samplau a gymerwyd oddi ar ddau adeilad.

Rydym ni’n dal i weithio gyda Llywodraeth y DU hefyd a byddwn yn sicrhau bod rhanddeiliaid yng Nghymru yn cael y newyddion diweddaraf pan fydd gwybodaeth newydd yn dod i law.

A fydd Rheoliadau Adeiladu yng Nghymru yn cael eu hadolygu?

Rydym ni’n cysylltu â Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau eraill ynghylch camau gweithredu yn dilyn trychineb Tŵr Grenfell. Mae’n glir bod yr hyn rydym ni’n ei wybod am y tân yn codi cwestiynau am reoliadau adeiladu i Lywodraethau Cymru a’r DU eu hystyried, gan fod rheoliadau adeiladu yn fater datganoledig.

Byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig eraill er mwyn cael dealltwriaeth well o’r hyn mae Llywodraeth y DU yn ei gynnig, sut y mae’n gysylltiedig â’r ymchwiliad cyhoeddus a pha gyfraniad y gallwn ni ei wneud.

Mae’n bwysig bod unrhyw adolygiad o reoliadau adeiladu yn cael ei lywio gan ganlyniad neu ganfyddiadau interim yr ymchwiliad cyhoeddus, ond mae’r cyhoedd yn disgwyl gweld camau gweithredu a chael tawelwch meddwl bod ein rheoliadau’n addas i’r diben ac mae’n briodol eu bod yn disgwyl hynny. Byddwn ni’n gweithio gyda Llywodraeth y DU i weld sut y gallwn ni gymryd camau cynnar mewn perthynas â rheoliadau adeiladu.

Mewn unrhyw adolygiad, bydd angen i ni ddod â’r ystod ehangaf o arbenigedd at ei gilydd.

Fyddwch chi'n ei gwneud yn orfodol i ôl-osod systemau chwistrellu / diwygio rheoliadau adeiladu / adolygu gwiriadau tân?

Bydd y Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch Tân yn ystyried y goblygiadau ehangach yn deillio o drychineb Tŵr Grenfell a'r ymholiadau a'r ymchwiliad dilynol.
Yng Nghymru, mae gosod chwistrellwyr eisoes yn ofynnol mewn eiddo preswyl newydd ac eiddo preswyl sy’n cael ei drawsnewid gan gynnwys blociau uchel dros 18m. Roedd Grenfell, fodd bynnag, yn adeilad oedd eisoes yn bodoli. Mae’n debygol y bydd gwersi i’w dysgu ar gyfer datblygiadau newydd ond yn bwysicach na hynny mae angen i ni ddysgu sut y gall adeiladau uchel gael eu hadnewyddu’n ddiogel.

Faint o flociau uchel o dai cymdeithasol sydd yng Nghymru?

Mae landlordiaid cymdeithasol (Awdurdodau Lleol neu Gymdeithasau Tai) yng Nghymru yn berchen ar 38 bloc tŵr o saith llawr neu fwy.

A yw pob bloc tai cymdeithasol yng Nghymru wedi anfon samplau ar gyfer eu profi?

Ni fydd angen i bob bloc anfon samplau ar gyfer eu profi.

Nid oes gan unrhyw adeilad uchel yng Nghymru yr un math o gladin a ddefnyddiwyd yn Nhŵr Grenfell h.y. Reynobond PE.

Fodd bynnag dylai'r rhai gyda brandiau eraill o Gladin Cyfansawdd Alwminiwm (ACM) neu le na fedrir profi'n ddigamsyniol nad yw cladin yn ACM anfon samplau at BRE i gael eu profi yn ddi-oed.

Dynodwyd fod gan gyfanswm o 7 bloc uchel tai cymdeithasol gladin ACM a chafodd y samplau eu hanfon i'w profi.

Mae rhai landlordiaid cymdeithasol yn anfon samplau nad ydynt yn cynnwys ACM, ar gyfer profion yn llwyr fel mesur rhag ofn.

Canlyniadau profion ar flociau tai cymdeithasol

Mae Cyngor Abertawe wedi cadarnhau fod profion yn ymwneud â phedwar bloc tŵr yn y ddinas wedi methu'r profion. Fel landlordiaid, mae'r Cyngor yn cyfathrebu'n rheolaidd gyda'u tenantiaid ac maent, fel mater o flaenoriaeth, yn sicrhau eu bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf ar ddatblygiadau cyn gynted ag sy'n bosibl.

Mae Abertawe hefyd wedi cadarnhau wrthym y cafodd yr holl fesurau dros dro ar ddiogelwch tân a argymhellwyd yng nghyngor yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol (DCLG) ar 22 Mehefin eu gweithredu. Mae'r gwasanaeth tân wedi archwilio ac wedi adrodd fod mesurau diogelwch tân yn dda.
Byddwn yn parhau i weithio'n agos gydag Abertawe yn dilyn canlyniadau'r profion hyn i roi ffordd ystyriol a chymesur ymlaen sydd â diogelwch preswylwyr yn ganolog.

Mae Cartrefi Dinas Casnewydd (NCH) wedi cadarnhau fod profion yn ymwneud â thri bloc tŵr yng Nghasnewydd wedi methu’r profion. Mae NCH fel landlordiaid yn cyfathrebu'n rheolaidd gyda'u tenantiaid ac yn sicrhau eu bod yn cael yr wybodaeth lawn ar ddatblygiadau.
Mae NCH wedi rhoi sicrwydd i denantiaid fod nifer o fesurau diogelwch tân yn eu lle. Mae hyn yn cynnwys larymau mwg a thân ym mhob cartref ac ardaloedd cymunol, paent gwrthsefyll tân a drysau tân. Mae gan y blociau hefyd ddau risiau ac, yn dilyn archwiliad, mae'r gwasanaeth tân lleol wedi cadarnhau ei fod yn fodlon gyda'r mesurau hynny.

Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda Chartrefi Dinas Casnewydd a chawn ein llywio gan gyngor gan Banel Arbenigwyr y DCLG.

Lle dylai tenantiaid sy'n bryderus am eu hadeilad ofyn am wybodaeth?

Pwynt cyswllt cyntaf tenantiaid ddylai fod eu landlord neu reolwr adeiladu fydd yn y sefyllfa orau i roi sicrwydd a gwybodaeth ar eu hadeilad penodol.

Beth am wiriadau ar adeiladau uchel eraill?

Ein blaenoriaeth gyntaf yw dynodi problemau posibl gydag adeiladau preswyl dros 18m o uchder (saith llawr neu fwy). Mae Prif Gynghorydd ac Arolygydd Tân ac Achub Cymru wedi cadarnhau mai dyma'r flaenoriaeth briodol.Bu'r ffocws dechreuol ar yr adeiladau preswyl hynny yn y sector tai cymdeithasol.
Rydym yn awr yn gweithio i ddynodi adeiladau preswyl eraill i sicrhau fod y rhai sy'n byw mewn adeiladau uchel yn y sector preifat yn cael eu diogelu yn yr un modd rhag unrhyw risg diangen.

Beth am wiriadau ar adeiladau preswyl o chwe llawr neu lai?

Mae safonau yn wahanol ar gyfer adeiladau uchel oherwydd y risg cynyddol o amserau dianc hirach - sef pam fod ein blaenoriaeth ar adeiladau preswyl uchel.

Bydd landlordiaid pob adeilad preswyl angen rhoi sicrwydd i'w hunain a'u tenantiaid fod pob mesur diogelwch tân perthnasol yn eu lle a bod asesiadau risg yn gyfredol. Gallant ddefnyddio cyngor a gyhoeddwyd gan y DCLG (dolen allanol) ar ragofalon ychwanegol os dymunant.

Byddwn yn parhau i fonitro cyngor y Panel Arbenigol a chael cyngor gan y Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch Tân yng nghyswllt adeiladau eraill maes o law ond mae'n iawn fod ein blaenoriaeth ar hyn o bryd ar adeiladau uchel.

A ddylid tynnu cladin o adeiladau sy'n methu prawf BRE?

Rydym yn dilyn cyngor panel arbenigol y DCLG a awgrymodd y dylid, wrth benderfynu p’un ai i dynnu cladin ACM ai peidio, ystyried effaith tynnu’r cladin ar elfennau eraill y wal, yn enwedig yr insiwleiddio, ac felly ar ddiogelwch yr adeilad cyfan o ran tân a gofynion Rheoliadau Adeiladu eraill.

Ar 30 Mehefin cadarnhaodd Panel Arbenigol Llywodraeth y Deyrnas Unedig y byddai'n ystyried p'un ai a fyddai'n ddiogel defnyddio’r paneli ACM sy'n cael eu profi ar hyn o bryd fel rhan o system wal allanol adeilad ehangach, ac y gallai felly aros ar yr adeilad mewn rhai amgylchiadau a gymeradwywyd. Mae’r Panel wedi cyhoeddi ers hynny y bydd yn comisiynu nifer o brofion ‘system gyfan’ er mwyn bod yn sail i drafodaethau pellach.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer perchenogion adeiladau sy’n ystyried ailgladio adeiladau uchel.

A fydd profion system gyfan?

Rydyn ni’n croesawu cyhoeddiad Panel Arbenigol Llywodraeth y Deyrnas Unedig (dolen allanol) ar 6 Gorffennaf y cynhelir profion system gyfan. Bydd profion hyn a fydd yn dechrau cyn hir ar raddfa fawr a byddant yn helpu i sefydlu sut mae gwahanol fathau o baneli ACM mewn cyfuniad gyda gwahanol fathau o insiwleiddiad yn ymddwyn mewn tân.

Bydd canlyniadau'r profion hyn yn helpu landlordiaid i wneud penderfyniadau ar unrhyw fesurau pellach y gall fod eu hangen i wneud eu hadeiladau'n ddiogel yn dilyn tân Tŵr Grenfell. Y BRE fydd yn cynnal y profion hyn ac ni fydd angen unrhyw samplau newydd o adeiladau arnynt.

Maes o law, bydd angen i landlordiaid ystyried yr holl wybodaeth a’r cyngor arbenigol sydd ar gael iddynt er mwyn dod i farn ynghylch gallu eu hadeiladau i wrthsefyll tân yn ei gyfanrwydd. Byddem yn cynghori landlordiaid i fonitro cyhoeddiadau pellach gan y Grŵp Arbenigol a hefyd Grŵp Cynghori Diogelwch Tân Cymru yn y dyfodol wrth gymryd camau pellach.

A fedrir gorfodi sefydliadau preifat i gael profion ar eu hadeiladau?

Nid oes gennym bwerau cyfreithiol i orfodi perchnogion preifat i wirio adeiladau neu brofi cladin, ond ni allwn ragweld sefyllfa lle na fyddai perchennog adeilad yn dymuno sicrhau diogelwch eu hadeilad a thenantiaid.

Mae gan rhai awdurdodau lleol rai pwerau ymyriad a gorfodaeth mewn amgylchiadau lle mae perygl penodol.

Beth am adeiladau eraill (ysbytai, ysgolion ac yn y blaen)?

Rydym yn gweithio ar draws holl adrannau'r Llywodraeth i ddynodi unrhyw adeiladau uchel a all fod mewn perygl. Ni chawsom wybod am unrhyw adeilad ar hyn o bryd sy’n bodloni’r meini prawf presennol â blaenoriaeth ond byddwn yn parhau i weithio gyda’n partneriaid i ddatblygu darlun cyflawn a manwl gywir.

Beth am adeiladau preswyl uchel yn y sector preifat?

Rydym yn gweithio gyda llywodraeth leol i ddynodi'r holl adeiladau preswyl uchel preifat yng Nghymru a chasglu data ar rydd-ddeiliaid neu asiantau rheoli'r adeilad fel y medrir eu hysbysu am ganllawiau, gofynion profi a rhagofalon.

Dylai rhydd-ddeiliaid neu asiantau rheoli adeiladau uchel sicrhau eu bod yn dod o hyd i unrhyw ddeunyddiau cladin ACM sydd wedi’u defnyddio ar eu hadeiladau, neu unrhyw gladin y mae amheuaeth ei fod yn cynnwys ACM, ac yna yn eu hanfon i’w profi. Byddant hefyd am edrych ar ganllawiau’r DCLG ynghylch rhagofalon pellach i’w cymryd ac adolygu eu hasesiadau risg, eu prosesau a’u gweithdrefnau cyffredinol mewn perthynas â diogelwch rhag tân.
Mae cyngor a chanllawiau pellach yn cael eu rhoi hefyd gan y cyrff sy’n cynrychioli’r asiantau rheoli gan gynnwys Cymdeithas Asiantau Rheoli Preswyl (ARMA) a Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) (dolenni isod). Byddwn yn ysgrifennu at bob landlord preifat sy’n wybyddus i ni o wythnos yma ymlaen i ‘w diweddaru a’u cynghori ynghylch unrhyw gamau angenrheidiol i’w cymryd.

Beth yw’r Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch Tân Cymru?

Mae’r Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch Tân yn cyfarfod o dan gadeiryddiaeth Des Tidbury, Prif Gynghorydd Tân ac Achub Llywodraeth Cymru, ac mae’r grŵp yn cynnwys yr aelodau canlynol: Steve Thomas - Prif Weithredwr CLlLC, Ruth Marks - Prif Weithredwr CGGC, Huw Jakeway - Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, David Wilton - Prif Weithredwr Gwasanaeth Ymgynghorol Cyfranogiad Tenantiaid Cymru, Stuart Ropke - Prif Weithredwr Cartrefi Cymunedol Cymru a Douglas Haig, Is-gadeirydd Cymdeithas Landlordiaid Preswyl Cymru.

Yn dilyn y cyfarfod cychwynnol a gynhaliwyd ddydd Iau 6 Gorffennaf, cynhaliwyd cyfarfod arall o’r Grŵp Cynghori ddydd Llun 10 Gorffennaf i ddatblygu’r cylch gorchwyl arfaethedig ar gyfer ei waith. Mae’r Grŵp yn cwrdd yn wythnosol ar hyn o bryd.

Dolenni defnyddiol

Llythyr gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn nodi gofynion diogelwch ychwanegol (dolen allanol)

Nodyn esboniadol Llywodraeth y deyrnas Unedig ar wiriadau a phrofion diogelwch (dolen allanol)

Tai Cymunedol Cymru (corff cynrychioliadol ar gyfer cymdeithasau tai dielw a chwmnïau cydfuddiannol yng Nghymru) (dolen allanol) 

Cartrefi Dinas Casnewydd - gwybodaeth diogelwch blociau tŵr ar gyfer preswylwyr (dolen allanol)

Cymdeithas Asiantau Rheoli Preswyl (dolen allanol)

Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (dolen allanol)