Skip to content

Adnabod ceffylau a sefyllfa merlod lled-wyllt Cymru

Dolenni perthnasol

Os gwelwch air neu derm nad ydych yn ei ddeall, edrychwch ar yr eirfa yma am esboniad.

Bydd y rhanddirymiad hwn yn llacio’r rheol fel bod merlod gwyllt a lled-wyllt penodol yn cael aros mewn ardaloedd penodedig heb fod ganddynt na phasbort na microsglodyn.

Fodd bynnag, rhaid adnabod yr anifeiliaid hyn yn unol â rheoliad y Comisiwn cyn eu symud o’r tir hwnnw. Yn ogystal, mae’r rhanddirymiad yn caniatáu i anifeiliaid o’r ardaloedd penodedig hyn gael eu symud yn syth i ladd-dy cyn belled â bod dull diogel ar waith i warantu adnabod anifail.  

Pa gymdeithasau sydd wedi cael rhanddirymiad?

  • Cymdeithas Merlod y Carneddau - ar gyfer merlod y Carneddau yng Ngogledd Eryri
  • Cymdeithas Gwella Merlod Mynydd Cymru sydd â 26 o Gymdeithasau Gwella Merlod ar draws 23 o ardaloedd mynydd a thir comin yn y De a’r Canolbarth yn aelodau ohoni. Mae rhestr o’r cymdeithasau unigol a’u hardaloedd ar ddiwedd y ddogfen hon.

Mae’r rhanddirymiad yn berthnasol dim ond ar gyfer y merlod sy’n cael eu rheoli gan y cymdeithasau uchod. Rhaid cadw’r holl ferlod eraill sy’n pori ar dir comin yn unol â gofynion Rheoliadau Adnabod Ceffylau (Cymru) 2009.

A gaiff unrhyw un sy’n cadw ceffylau/merlod lled-wyllt ar diroedd comin yng Nghymru wneud cais am randdirymiad?

Caiff, mewn theori, ond byddai’n rhaid iddo ddarbwyllo Llywodraeth Cymru fod ganddo drefniadau manwl ar gyfer rheoli’r merlod dan sylw, a’i fod yn gallu dangos bod y trefniadau hynny ar waith. Byddai unrhyw gais araill am randdirymiad ond yn cael ei ganiatáu pe bai’r cymdeithasau sy’n gyfrifol am y tiroedd comin dan sylw yn gallu rhoi’r un gwarantau i Lywodraeth Cymru ag a fyddai eu hangen i brofi i’r Comisiwn Ewropeaidd fod gofynion y Reoliad o ran adnabod ac olrhain y merlod yn cael eu bodloni. Hefyd byddai’n rhaid i Lywodraeth Cymru gael gymeradwyaeth y Comisiwn Ewropeaidd cyn iddi gael rhoi rhanddirymiadau eraill.    

Pam cafodd y cymdeithasau hyn randdirymiad?

Mae Cymdeithas Merlod y Carneddau a Chymdeithas Gwella Merlod Mynydd Cymru wedi cyflwyno dadleuon i Lywodraeth Cymru yn gofyn am randdirymiad mewn perthynas â’u merlod. Mae llawer o bobl yn edrych ar ferlod lled-wyllt fel rhan o dirwedd, diwylliant a threftadaeth Cymru ac mae’r merlod eu hunain yn helpu i warchod yr amgylchedd lle maen nhw’n byw trwy gynnal ei ecoleg. Mae gwytnwch y brid hwn yn cael ei feithrin gan amgylchedd naturiol y merlod hyn. Dadleuwyd fod llawer o’r merlod, yn enwedig ebolion gwrywaidd, yn werth gyn lleied o arian fel nad yw’n gwneud synnwyr economaidd i roi pasbort a microsglodyn i’r anifeiliaid hyn. Mae angen ar berchnogion reoli eu merlod, ac mae hynny’n cynnwys cael gwared ar y stoc sydd dros ben. Mae’r rhanddirymiad yn caniatáu i berchnogion symud yr anifeiliaid sydd dros ben o’r tiroedd comin / y mynyddoedd heb iddynt orfod talu am roi microsglodion, sef cost a allai yn aml fod yn uwch na’r swm a fyddai’n cael ei gynnig am yr ebolion hyn mewn arwerthiant.

Pa geffylau yng Nghymru sy’n dod o dan y rhadddirymiad?

Merlod y Carneddau

Mae’r merlod hyn o deip Merlod Mynydd Cymreig, ond gan nad yw eu pedigri’n hysbys nid oes llyfr gre ar eu cyfer. Mae’r merlod yn eiddo i aelodau Cymdeithas Merlod y Carneddau sydd â hawliau pori tir comin Aber, Llanfairfechan a Llanllechid. Mae’r corff cyhoeddi pasbortau, Pet ID, sy’n darparu ID yn unig, yn ymdrin â’r merlod hyn a bydd yn cyhoeddi pasbortau ac yn goruchwylio’r gwaith o roi microsglodyn i’r anifeiliaid sy’n gadael yr ardaloedd penodedig.  

Mae’r trefniadau rheoli sydd ar waith yn caniatáu i’r ceffylau hyn aros ar y Carneddau heb pasbortau na microglodion nes iddynt gael eu symud o’r ardal sy’n dod o dan y rhanddirymiad. Mae’r rhanddirymiad yn caniatáu i Gymdeithas Merlod y Carneddau redeg marchnad flynyddol yn Abergwyngregyn.

Nid oes yn rhaid i’r merlod sy’n cael eu cadw gan aelodau Cymdeithas Merlod y Carneddau ar gyfer bridio yn y dyfodol gael na phasbort na microsglodyn cyn belled â’u bod yn cael eu cofnodi yn un o restrau’r Gymdeithas. Bydd perchennog sydd am gael pasbort ar gyfer merlyn yn gorfod rhoi microsglodyn wrth wneud cais am y pasbort hwnnw.  

Cymdeithas Gwella Merlod Mynydd Cymru

Mae’r merlod sy’n cael eu rheoli gan y Cymdeithasau Gwella Merlod Mynydd yn ferlod mynydd Cymreig pur ac felly’n gymwys i’w cofrestru’n llawn fel Merlod Mynydd Cymreig lled-wyllt gyda Chymdeithas y Merlod a’r Cobiau Cymreig. Rhaid cadw’r merlod dan sylw yn yr ardaloedd penodedig; rhaid eu bod yn eiddo i aelodau un o’r Cymdeithasau Gwella Merlod Mynydd sydd â hawliau pori ar y tiroedd comin a’r mynyddoedd; a rhaid mai meirch premiwm sydd wedi’u cenhedlu.    

Mae trefniadau rheoli ar waith i ganiatáu i’r merlod hyn gael eu symud o’u tiroedd comin / mynyddoedd unigol, heb fod ganddynt basbortau na microsglodion, i’w gwerthu yn y farchnad arbenigol ar gyfer merlod lled-wyllt sy’n cael ei chynnal yn flynyddol ym Marchnad Aberhonddu.  

Bydd yn rhaid i aelodau’r Cymdeithasau Gwella Merlod Mynydd Cymru roi microsglodyn yn y merlod y maen nhw am eu cadw ar gyfer bridio yn y dyfodol, a hynny ar yr un pryd â gwneud cais am basbort.  

Beth yw proses werthu’r merlod hyn?

Ceir symud ebolion lled-wyllt o eiddo aelodau Cymdeithas Merlod Mynydd y Carneddau i farchnad yn Abergwyngregyn a cheir symud yr ebolion o eiddo aelodau’r Cymdeithasau Gwella Merlod Mynydd i farchnad Aberhonddu, a hynny drwy lenwi ffurflen gais am basbort a rhoi sticer unigryw ar grwmp yr ebolion.  

Mae’r ddwy gymdeithas yn trefnu marchnadoedd arbenigol ar gyfer y merlod lled-wyllt hyn. Pe bai’r perchnogion am eu gwerthu mewn marchnad arall, byddai’n rhaid iddynt gael pasbort ar gyfer pob merlyn a rhoi microsglodyn ynddo cyn iddo allu ei symud i farchnad arall.

Ym Marchnadoedd Abergwyngregyn ac Aberhonddu, ceir gwerthu ebolion cyn belled â bod ffurflen gais am basbort wedi’i llenwi ar eu cyfer. Rhaid i’r ffurflen gais gynnwys gwybodaeth am yr ebol, y sawl sydd wedi’i fridio/ei berchennog, silwét, disgrifiad manwl ohono a rhif y sticer adnabod unigryw sy’n cysylltu’r ebol, y sticer a’r ffurflen gais â’i gilydd. Cyfrifoldeb y perchennog yw sicrhau bod y ffurflen gais wedi’i llenwi’n gywir, bod ffi’r pasbort wedi’i gynnwys, a bod y sticer unigryw wedi’i lynu’n gywir ar grwmp yr ebol. Bydd unrhyw ebol sy'n cyrraedd y farchnad heb fod mewn cyflwr digon da neu sydd heb gael ei adnabod yn gywir yn cael ei wahardd o’r farchnad. Rhaid i’r sticer unigryw ar ei crwmp, sy’n cael ei gyhoeddi ar y cyd â’r farchnad a’r corff cyhoedd pasbortau cymeradwy, ddangos dyddiad glynu’r sticer wrth yr anifail (y dyddiad gwerthu) yn ogystal â’r rhif adnabod unigryw.  

Rhaid i filfeddyg roi microsglodion yn unrhyw ebol sy’n cael ei werthu i gartref preifat (h.y. nad yw’n mynd i’r lladd-dy), cyn iddo adael y farchnad. Cyfrifoldeb y prynwr (y perchennog newydd) fydd talu am roi’r microsglodyn hwn. Bydd rhif y microsglodyn yn ei gysylltu â’r ffurflen gais berthnasol, a bydd copi o’r ffurflen yn cael ei roi i’r prynwr, er mwyn iddo gael symud yr ebol i’r daliad newydd.  Bydd y corff cyhoeddi pasbortau yn prosesu’r ffurflen gais, ac yn anfon y pasbort at y prynwr cyn pen 30 diwrnod ar ôl iddo’i brynu. Mae’n drosedd symud anifail o ddaliad newydd heb fod pasbort ganddo.

Mae’r ebolion (dan flwydd oed) sy’n cael eu gwerthu yn y farchnad i fynd i’r lladd-dy yn cael teithio i’r lladd-dy hwnnw drwy’r ffurflen gais am basbort a’r sticer ar eu crwmp. Rhaid lladd yr ebol o fewn saith niwrnod i lynu’r sticer ar ei grwmp. Mae’n drosedd lladd ebol ar ôl i’r cyfnod o saith niwrnod ddod i ben. Mae gofyn ar y lladd-dy i ddychwelyd y sticer hon i’r corff cyhoeddi pasbortau er mwyn i hwnnw allu cwblhau’i gofnodion.

Rhanddirymiad ar gyfer symud merlod o’r daliad lle cawsant eu geni i’r lladd-dy.

Ceir symud merlod lled-wyllt dan flwydd oed yn syth i’r lladd-dy o’r ardal benodedig heb fod angen na phasbort na microsglodyn ar eu cyfer, cyn belled â bod ganddynt sticer unigryw gan gorff cyhoeddi pasbortau cymeradwy. Rhaid i’r sticer ddangos y dyddiad y cafodd y sticer ei glynu wrth yr anifail a rhaid ei bod yn dangos rhif adnabod unigryw. Rhaid lladd yr ebol o fewn saith niwrnod i lynu’r sticer ar ei grwmp. Mae’n drosedd lladd ebol ar ôl y cyfnod saith niwrnod. Mae gofyn ar y lladd-dy i ddychwelyd y sticer hon i’r corff cyhoeddi pasbortau er mwyn i hwnnw allu cwblhau’i gofnodion.

Triniaeth filfeddygol

Os bydd unrhyw foddion milfeddygol yn cael ei roi i anifail lled-wyllt sydd heb ei adnabod (h.y. sydd heb basbort na microsglodyn), rhaid sicrhau bod yr anifail hwnnw yn cael ei adnabod cyn pen 30 niwrnod ar ôl y driniaeth. Rhaid i filfeddyg sy’n trin merlyn sy’n cael ei gadw mewn ardal benodedig roi moddion iddo yn unol â’i statws fel anifail a all fynd i’r cadwyn fwyd.


Mae Cymdeithas Gwella Merlod Mynydd Cymru yn cwmpasu’r Cymdeithasau Gwella unigo a’r tiroedd comin canlynol.

  • Cymdeithas Gwella Merlod y Mynydd Du, sy'n cwmpasu Tir Comin y Mynydd Du
  • Cymdeithas Gwella Merlod Blaenafon, sy'n cwmpasu'r Blorens
  • Cymdeithas Gwella Merlod Bannau Brycheiniog, sy'n cwmpasu Tir Comin Bannau Brycheiniog
  • Cymdeithas Gwella Merlod Cefn Bryn, sy'n cwmpasu Tir Comin Cefn bryn
  • Cymdeithas Gwella Merlod Cefn Edmwnt, sy'n cwmpasu Tir Comin Buckland Manor
  • Cymdeithas Gwella Merlod Cenydd Gwyr, sy'n cwmpasu Tir Comin Cenydd Gŵyr
  • Cymdeithas Gwella Merlod Pontlotyn, sy'n gweithredu ar Dir Comin Gelligaer a Merthyr
  • Cymdeithas Gwella Merlod Twyn-y-Waun, sy'n gweithredu ar Dir Comin Gelligaer a Merthyr
  • Cymdeithas Gwella Merlod Mountain Hare, sy'n gweithredu ar Dir Comin Gelligaer a Merthyr
  • Cymdeithas Gwella Merlod Dowlais, sy'n gweithredu ar Dir Comin Gelligaer a Merthyr
  • Cymdeithas Gwella Merlod Drum, sy'n cwmpasu Mynydd y Drum a Bryn Llwyn Madog
  • Cymdeithas Gwella Merlod Epynt, sy'n cwmpasu Tir Comin Epynt, Mynydd Epynt a'r Epynt
  • Cymdeithas Gwella Merlod Gŵyr, sy'n cwmpasu Rhossili Down
  • Cymdeithas Gwella Merlod Hergest, sy'n cwmpasu Crib Hergest a Bryn Hanter
  • Cymdeithas Gwella Merlod Llanafan a Llanwrthwl, sy'n cwmpasu Bryn Abergwesyn, Drygarn Fawr, Tir Comin Penygenhill, Bryn Rhydd, Bryn Llwyn Madog, Bryn Llysdinam, Tir Comin Llanwrthwl a Thir Comin Llanfihangel Brynpabuan
  • Cymdeithas Gwella Merlod Llandefalle, sy'n cwmpasu Bryn Llandefalle
  • Cymdeithas Gwella Merlod Llandeilo Graban a Rhiwlen
  • Cymdeithas Gwella Merlod Llangoed, sy'n cwmpasu Tir Comin Llangoed
  • Cymdeithas Gwella Merlod Llan-gors, sy'n cwmpasu Mynydd Llan-gors, Cefn Moel, Cathedin Coedcae a Phen Tir
  • Cymdeithas Gwella Merlod Llanrhidian, sy'n cwmpasu Cors Llanrhidian (Whitford Burrows i benrhyn Crofty)
  • Cymdeithas Gwella Merlod Llynfan (Gwynfe), sy'n cwmpasu'r Mynydd Du
  • Cymdeithas Gwella Merlod Mynydd Trefil Ddu a Las, syn cwmpasu Tir Comin Trefil Ddu
  • Cymdeithas Gwella Merlod Penderyn, sy'n cwmpasu Tir Comin Manor Mawr
  • Cymdeithas Gwella Merlod Trefil, sy'n cwmpasu Trefil Las
  • Cymdeithas Gwella Merlod Troed, sy'n cwmpasu Tir Comin Mynydd Troed
  • a Chymdeithas Gwella Merlod y Faenor, sy'n cwmpasu Tir Comin Ffrithwaun.