Skip to content

Adroddiad Blynyddol i Ysgolion - Blwyddyn Academaidd 2010-2011

Dolenni perthnasol

Os hoffech gael unrhyw ddogfennau sydd ar y dudalen hon mewn fformat gwahanol, rhowch wybod inni.
Rydym wedi llunio adroddiad blynyddol i ysgolion sy’n cynnwys dolenni ar y we i ddogfennau sydd wedi’u llunio ar gyfer ysgolion a’u cyrff llywodraethu yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf (2010-11). Nod yr adroddiad yw dwyn ynghyd yr holl ganllawiau yn un ddogfen hawdd ei defnyddio.

Cyflwyniad gan Chris Tweedale, Cyfarwyddwr y Grŵp Ysgolion a Phobl Ifanc

Annwyl Gyfaill,

Bu blwyddyn academaidd 2010-11 yn flwyddyn llawn heriau i ysgolion yng Nghymru. Ar lefel unigolion, ysgolion ac awdurdodau lleol, cafwyd llawer o lwyddiant. Yn anad dim, bydd hon yn siŵr o gael ei chofio fel y flwyddyn pan ddangosodd y dystiolaeth, a gafwyd yn adroddiad PISA y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, a’r tueddiadau sydd wedi parhau'n gyson o ran ein canlyniadau TGAU a Safon Uwch, nad yw safonau academaidd a’r sgiliau cysylltiedig yn codi mor gyflym yng Nghymru ag ydynt mewn gwledydd eraill.

Mae hon yn her i bob un ohonom sy’n gweithio mewn ysgolion ledled Cymru, a’r rheini sy’n gweithio gyda’r ysgolion hynny. Bydd ymateb i'r her honno yn galw am ymdrechion parhaus, ac ymdrechion o’r newydd, gan athrawon, staff cymorth a llywodraethwyr, yn ogystal â chydweithwyr sy’n gweithio mewn awdurdodau lleol / consortia, a ninnau sy’n gweithio i Lywodraeth Cymru, wrth gwrs.

Mae'r arweiniad a roddir gan benaethiaid yn hanfodol i'r gwelliannau yr ydym yn eu gwneud i’n system addysg yng Nghymru. Nid oes amheuaeth bod perfformiad wedi gwella yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, rydym oll yn ymwybodol o'r heriau sy'n ein hwynebu: lefelau llythrennedd isel, diffyg uchelgais a disgwyliadau isel mewn rhai parthau, a gormod o amrywioldeb yn ein hysgolion a rhyngddynt. Rydym yn sylweddoli bod angen i ni berfformio'n well er mwyn gallu cymharu â'r gorau yn y byd. Serch hynny, mae ymroddiad ac arbenigedd y staff rwy’n cyfarfod â hwy mewn ysgolion ledled Cymru yn dal i fy ysbrydoli i. Mae dyfodol ein plant yn ein dwylo ni, ac mae’r cyfrifoldeb hwnnw a’r fraint honno yn agos at ein calonnau.

Ym mis Chwefror, cyflwynodd y Gweinidog Addysg raglen i ddiwygio ysgolion sy'n uchelgeisiol ac yn cynnig cryn her. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae Llywodraeth Cymru a’i phartneriaid wedi bod yn cydweithio i drawsnewid a ffurfio’r gwasanaeth addysg ar gyfer y dyfodol.

Wrth fwrw ati i wella’r system addysg yng Nghymru, rydym yn canolbwyntio ar dair blaenoriaeth sy’n gysylltiedig â’i gilydd:

  • gwella lefelau llythrennedd
  • gwella lefelau rhifedd 
  • lleihau'r effaith y mae tlodi yn ei chael ar gyrhaeddiad addysgol.

Rydym yn gweithio ar draws Cymru i sicrhau bod ein hysgolion, ein hawdurdodau lleol a’r Adran Addysg a Sgiliau yn sefydliadau cadarn a fydd yn gallu ymateb i’r heriau o wella deilliannau, codi safonau a defnyddio’r adnoddau sydd ar gael yn y ffordd orau posibl. Lle y bo angen gwneud hynny, rydym yn dod â sefydliadau ynghyd i wella’r dysgu, er enghraifft drwy ffederasiynau o ysgolion, trefniadau i ysgolion a sefydliadau Addysg Bellach gydweithio'n agosach, a thrwy sicrhau bod awdurdodau lleol yn cydweithio.

Mae polisïau Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar godi safonau. Mae sicrhau ansawdd a chysondeb yr addysgu yn hanfodol i wella deilliannau disgyblion. Rydym yn canolbwyntio ar wella ansawdd yr addysgu a'r dysgu ledled Cymru drwy'r diwygiadau a nodir yn yr adroddiad hwn. Mae cyflwyno system fandio ysgolion, yr ydych eisoes wedi derbyn gwybodaeth amdani yn ddiweddar, yn elfen bwysig o'r diwygiadau hyn.

Yn achos ysgolion arbennig, rydym yn canolbwyntio ar hyn o bryd ar ddatblygu fframwaith asesu a fydd yn fodd i sicrhau cysondeb wrth fesur cynnydd pob disgybl yn y sector Addysg Arbennig. Nid ydym yn ystyried cynnwys ysgolion arbennig yn y system fandio genedlaethol ar hyn o bryd, nes y bydd y gwaith hwnnw wedi'i gwblhau.

Rydym yn sicrhau bod mwy o atebolrwydd ar draws ysgolion Cymru; gan wneud yr hyn y mae'r ysgolion a’r awdurdodau gorau yng Nghymru wedi bod yn ei wneud erioed, sef defnyddio data'n effeithiol i dargedu adnoddau, herio a chefnogi, gwella'r mecanweithiau ar gyfer rhannu arfer da, a gosod y safon hon i bawb:

  • Bydd y profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol newydd yn cyd-fynd â'r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol. Mae adroddiad Estyn ar rifedd yn tynnu sylw at feysydd sydd angen sylw. Ewch i wefan Estyn am fwy o wybodaeth.
  • Yr her sy’n ein hwynebu o hyd yw perfformio’n well o ran datblygu sgiliau ein dysgwyr i gymhwyso a defnyddio gwybodaeth mewn amrywiol amgylchiadau. 
  • Rhaid i ni ystyried sut yr ydym yn cefnogi ein holl ddysgwyr ond rhaid inni hefyd fyfyrio ar adroddiad Estyn ar gefnogi dysgwyr sy’n fwy abl a thalentog yn ein hysgolion cynradd. Ewch i wefan Estyn am fwy o wybodaeth.
  • Bydd Proffil Asesu Sylfaenol y Cyfnod Sylfaen i Gymru Gyfan yn cael ei gyflwyno o fis Medi. Mae'n anorfod y bydd y newid hwn yn cael effaith ar ysgolion ond bydd hefyd o gymorth i ni wrth ddatblygu dysgu yn y modd mwyaf symbiotig a phriodol, sy'n cyd-fynd ag anghenion y dysgwr. Bydd hi’n bwysig inni werthuso pa mor effeithiol yw’r broses asesu sylfaenol hon a gwneud unrhyw newidiadau sy’n briodol.
  • O dymor yr Hydref, rydym yn disgwyl i gymunedau dysgu proffesiynol ym mhob ysgol ganolbwyntio ar lythrennedd, rhifedd ac ar leihau’r effaith y mae tlodi yn ei chael ar gyrhaeddiad addysgol.

Yn y rhagair i'r adroddiad hwn y llynedd, gofynnais i chi anfon adborth atom ar sut y gellid gwella eto ar yr adroddiad blynyddol a sut y gallwn gyfathrebu’n well yn gyffredinol â chydweithwyr sy’n gweithio ar draws ein cymunedau ysgol yng Nghymru. Roeddwn wrth fy modd bod cynifer ohonoch wedi ymateb drwy anfon eich sylwadau atom. Mae croeso i chi anfon adborth atom unwaith eto, a gallaf eich sicrhau y byddwn yn ymateb i’ch adborth ac yn ystyried eich sylwadau wrth i’r flwyddyn academaidd hon fynd rhagddi.

Yn gywir,

Chris Tweedale
Cyfarwyddwr y Grŵp Ysgolion a Phobl Ifanc