Skip to content

Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru

Dolenni perthnasol

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am yr amgylchedd, datblygu ac adfywio gwledig, ffermio, iechyd anifeiliaid, coedwigaeth, pysgodfeydd a chynhyrchu bwyd.
Teulu yn yr Ardd Fotaneg yn yr haf
Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yw un o'r prosiectau mwyaf yng Nghymru ar gyfer dathlu'r Mileniwm.

Nod yr Ardd yw ysbrydoli, addysgu a gwarchod. O fewn yr ardd ceir sawl gwahanol fath o ficrohinsawdd lle y gall planhigion ac anifeiliaid ffynnu. Yn eu mysg ceir gerddi; llynnoedd; coetiroedd; bryniau tonnog; a dolydd blodau gwyllt. Yn 2010 creodd yr Ardd gyfleoedd i 17,000 o bobl ddysgu am yr amgylchedd drwy ei rhaglenni gwyddoniaeth a'i rhaglenni addysg.

Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru wedi'i lleoli ar dir hen ystâd Middleton, parcdir o gyfnod y Rhaglywiaeth yn Sir Gaerfyrddin. Mae'n estyn dros fwy na 500 erw o gefn gwlad prydferth sy'n rhydd o lygredd, sy'n cynnwys Gwarchodfa Natur Waun Las. Mae'r Ardd wedi ennill sawl anrhydedd, gan gynnwys:

  • y trydydd safle yn y gystadleuaeth genedlaethol 'Best British Gardens to Visit'
  • y safle cyntaf ym mhol piniwn darllenwyr y Western Mail o Saith Rhyfeddod Modern Cymru.

Tŷ Gwydr

Blodau Tŷ Gwydr Mawr

Cafodd y Tŷ Gwydr ei gynllunio gan Norman Foster, a dyma'r un mwyaf yn y byd. Mae'r Tŷ Gwydr mawr yn gartref i rai o'r planhigion mwyaf prin ar y ddaear o chwe rhanbarth hinsoddol gwahanol gan gynnwys Gorllewin Awstralia ac Affrica. Mae'n fodd i ddiogelu'r hyn sy'n cael ei gyfrif ymhlith y casgliad gorau o'i fath yn y byd.

Tŷ Gwydr Trofannol

Mae'r Tŷ Gwydr yn gartref i gasgliad unigryw o 1,000 o degeirianau.

Ty Gwydr Trofannol

Mae'r strwythur yn fwy na 30 metr o hyd ac wedi'i leoli yn yr ardd unigryw a hanesyddol sydd â muriau o’i chwmpas.

Cafodd y Tŷ Gwydr Trofannol ei gynllunio gan y pensaer John Belle a aned yng Nghymru ond sydd bellach yn fyd enwog. Mae ei waith blaenorol yn cynnwys yr Orsaf Drenau Ganolog yn Efrog Newydd a Gardd Fotaneg Efrog Newydd.

Yn ogystal â'r Tŷ Gwydr ei hun ceir y canlynol ar y safle hefyd:

  • gardd unigryw a hanesyddol â muriau o’i chwmpas  
  • gardd gyda chors
  • gardd wenyn
  • gardd apothecari
  • gardd Siapaneaidd.

Cymorth gan Lywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn rhanddeiliad allweddol ac yn un o brif noddwyr yr Ardd.

Ym mis Chwefror 2011, fe wnaethom gyhoeddi cyllid gwerth £700,000 ar gyfer blwyddyn ariannol 2011-12. Daeth hyn yn sgil adolygiad annibynnol o’r dull o gyllido’r Ardd. Tynnodd yr adolygiad sylw at werth yr Ardd i’r economi leol a’i chyfraniad at dwristiaeth, gwyddoniaeth ac addysg. 

Rhagor o wybodaeth

Ceir rhagor o wybodaeth am yr Ardd, sydd ar agor 364 diwrnod y flwyddyn, ar ei gwefan.

Ewch i: Gwefan Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru (dolen allanol, Saesneg yn unig)