Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Cyhoeddi Canlyniadau arolwg o’r ffordd y mae pobl yn defnyddio’r Gymraeg

Cyhoeddwyd y datganiad i’r wasg hwn dan lywodraeth Cymru 2011 - 2016

Heddiw cyhoeddodd Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg ganlyniadau Arolwg ‘Y defnydd o’r Gymraeg yng Nghymru 2013-15’.
Dydd Iau 26 Tachwedd 2015

Mae’r arolwg yn rhoi darlun cynhwysfawr o’r defnydd y mae siaradwyr Cymraeg yn ei wneud o’r iaith.
Comisiynwyd yr arolwg ar y cyd er mwyn deall beth yw lefelau gallu pobl yn yr iaith, pa mor aml y maent yn ei ddefnyddio ac ym mha gyd-destunau.
Prif ganlyniadau’r arolwg yw:

  • Mae canran a nifer y siaradwyr Cymraeg rhugl yn eithaf cyson â’r ganran a’r nifer yn Arolygon Defnydd Iaith 2004-06, ond mae 131,000 yn fwy o bobl yn dweud eu bod yn siarad ychydig o Gymraeg erbyn hyn
  • Nid yw’r ganran o boblogaeth Cymru sydd yn siarad Cymraeg bob dydd wedi newid o’i gymharu ag Arolygon Defnydd Iaith 2004-06, ac mae cyswllt clir rhwng rhuglder ac amlder defnydd o’r Gymraeg
  • Yn yr ardaloedd lle mae’r crynodiad uchaf o siaradwyr Cymraeg (Gwynedd, Ynys Môn, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin) y gwelwyd y gostyngiad mwyaf ers 2004-06 o ran y nifer sydd yn siarad Cymraeg bob dydd. Mae hyn yn adlewyrchu’r lleihad a welwyd yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn yr ardaloedd hyn yn ôl Cyfrifiad 2011
  • Gwelwyd y cynnydd mwyaf yn nifer y siaradwyr Cymraeg rhugl ers 2004-06 yng Nghaerdydd a Rhondda Cynon Taf, gyda thros 7,000 yn fwy o siaradwyr Cymraeg rhugl yng Nghaerdydd a thros 5,000 yn Rhondda Cynon Taf.
  • Mae siaradwyr Cymraeg ifanc yn fwy tebygol o fod wedi dysgu siarad Cymraeg yn yr ysgol nag yn unrhyw le arall, gyda siaradwyr Cymraeg hŷn yn fwy tebygol o fod wedi dysgu’r Gymraeg gartref fel plentyn ifanc
  • Mae dros hanner siaradwyr Cymraeg yn ceisio defnyddio’r Gymraeg, yn achlysurol man lleiaf, wrth ddelio â sefydliadau cyhoeddus

Dywedodd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru:

"Mae'r arolwg yma yn rhoi darlun amserol a defnyddiol iawn o'r defnydd a wneir o'r iaith ar draws Cymru. Mae llawer o bethau cadarnhaol yng nghanfyddiadau'r adroddiad – gyda  chynydd yn y nifer sy’n siarad ychydig o Gymraeg a gydag ardaloedd fel Caerdydd yn dangos cynnydd sylweddol yn y defnydd o'r iaith.

“Mae'n adeg hollbwysig i'r iaith ac rydym, fel Llywodraeth, yn parhau'n benderfynol o fynd i'r afael â'r heriau hyn a sicrhau bod gan yr iaith ddyfodol ffyniannus a diogel.

"Mae annog pobl i ddefnyddio'r iaith yn eu bywydau bob dydd wrth wraidd Bwrw Mlaen, ein gweledigaeth ar gyfer dyfodol yr iaith. Mae’r Safonau newydd hefyd yn garreg filltir bwysig gan greu hawliau cyfreithiol clir.

"Mae'n hanfodol bod pobl yn cael cyfle i ymarfer eu Cymraeg a magu hyder, a hynny mewn addysg, yn y gweithle neu'n gymdeithasol. Mae llawer iawn o waith da eisoes yn mynd rhagddo ar draws Cymru sy'n atgyfnerthu ein gweledigaeth o ganolbwyntio ar gynyddu'r defnydd o'r iaith a nifer y siaradwyr Cymraeg. Drwy gydweithio gallwn adeiladu ar hyn a sicrhau iaith fyw, heddiw ac ar gyfer y dyfodol."

Dywedodd Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg;

"Mae canfyddiadau’r arolwg yn ddefnyddiol er mwyn deall pa mor dda y gall pobl Cymru siarad Cymraeg a pha mor aml, pryd ac â phwy y maent yn defnyddio’r iaith. Mae’r wybodaeth honno’n cyfoethogi ein dealltwriaeth am sefyllfa’r Gymraeg a'r defnydd o wasanaethau cyfrwng Cymraeg sydd ar gael.

"Bydd yr arolwg hwn yn darparu'r sail dystiolaeth ar gyfer yr adroddiad 5 mlynedd gyntaf y Comisiynydd y Gymraeg ar sefyllfa'r iaith Gymraeg a fydd yn cael ei gyhoeddi yn 2016. Drwy hyrwyddo ein dealltwriaeth o sut mae pobl yn defnyddio'r iaith Gymraeg, bydd yr arolwg yn cyfrannu tuag at fy ngweledigaeth ehangach ar gyfer yr iaith Gymraeg i fod yn ganolog i fywyd bob dydd yng Nghymru, yn ogystal â chynnig sylfaen gref ar gyfer cynllunio ieithyddol yng Nghymru ar gyfer y blynyddoedd i ddod.

"Mae'r canfyddiadau yn tynnu sylw at rai o'r heriau sy'n parhau o ran gallu pobl i ddefnyddio'r Gymraeg ar draws Cymru. Bydd y gwaith ar y Safonau newydd a'n rhaglen barhaus gyda dros 200 o sefydliadau yn chwarae rhan wrth fynd i'r afael gyda'r anghysondebau hyn. Hyderaf y bydd y wybodaeth yn ddefnyddiol i’r ystod o sefydliadau, gan gynnwys Comisiynydd y Gymraeg a Llywodraeth Cymru, ac unigolion eraill sy’n gyfrifol am gynllunio a gweithredu ar gyfer y Gymraeg."

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Arolwg defnydd iaith

Tagiau

Y Gymraeg 26 Tachwedd 2015 Y Gymraeg Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Medi 2017
Ll M M I G S S
<< Aws    
        1 2 3
4 5 6 7 8 9 10
11 12 13 14 15 16 17
18 19 20 21 22 23 24
25 26 27 28 29 30  
I'n dilyn ni trowch i