Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Datganiad Prif Weinidog Cymru am yr ymosodiadau terfysgol ar Barcelona a Cambrils

Dydd Gwener 18 Awst 2017

“Mae pob un o’r rhai yr effeithiwyd arnynt yn yr ymosodiadau terfysgol ddoe ar Barcelona a Cambrils yn ein meddyliau heddiw. Mae’n ddychrynllyd meddwl bod pobl gyffredin a oedd yn ymlacio ac yn mwynhau eu hunain yn medru cael eu targedu mewn ffordd mor filain.

 

“Mae Barcelona yn ddinas hardd sy’n croesawu ymwelwyr rhyngwladol â breichiau agored, gan gynnwys nifer o Gymru - ac wrth gwrs mae gennym gysylltiad â’r ddinas drwy Faes Awyr Caerdydd. Rwy’n annog unrhyw un sy’n ymweld â’r ardal ar hyn o bryd i ddilyn cyngor yr awdurdodau lleol a chadw llygad ar gyfrif trydar a gwefan y swyddfa dramor i gael rhagor o wybodaeth.

 

“Wrth gwrs, mae hefyd nifer o gysylltiadau hanesyddol a diwylliannol rhwng Cymru a Chatalwnia, ac fe hoffwn gloi drwy fynegi fy nghydymdeimlad dwysaf ar ran pobl Cymru. Rydym yn sefyll yn gadarn wrth eich ochr ar yr adeg anodd hon.”  

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Prif Weinidog Cymru 18 Awst 2017 Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Tachwedd 2017
Ll M M I G S S
<< Hyd    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30      
I'n dilyn ni trowch i