Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Prif Weinidog Cymru yn dymuno pob lwc i athletwyr Cymru ar drothwy seremoni agoriadol y Gemau Olympaidd

Ar drothwy seremoni agoriadol Gemau Olympaidd 2012, mae Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones wedi dymuno’n dda i aelodau Cymreig o Dîm GB wrth iddynt baratoi i gystadlu yn erbyn athletwyr gorau’r byd.
Dydd Gwener 27 Gorffennaf 2012

Mae 30 o athletwyr o Gymru wedi’u dewis ar gyfer Tîm GB, gan gynnwys Dai Greene, Helen Jenkins, Hannah Mills a Tom James.

Bydd y Prif Weinidog yn bresennol yn y seremoni. Dywedodd:

"Rwy’n dymuno pob lwc i bob un o athletwyr Cymru sydd wedi ennill lle yn Nhîm GB. Yn sicr bydd pawb yn falch ohonyn nhw wrth iddynt gynrychioli Cymru a’r DU yn y digwyddiad chwaraeon mwyaf gwych yn y byd.

"Bydd y cystadlu’n ben llanw ar flynyddoedd o waed, chwys a dagrau – a gobeithio’n fawr y byddant yn dod â medalau i Gymru. Roedd nifer y medalau a enillwyd yn Beijing yn eithriadol - byddai llwyddo i wneud cystal â hynny yn anhygoel – a byddai gwneud hyd yn oed yn well na hynny fel breuddwyd."

Ychwanegodd y Gweinidog Chwaraeon Huw Lewis, sydd wedi recordio neges fideo yn dymuno lwc i'r tim:

"Mae'r 30 o gystadleuwyr Cymraeg eisoes wedi gwneud Cymru yn hynod o falch. Rwy'n dymuno pob lwc i bob un ohnony nhw wrth iddynt geisio creu hanes ac rwy'n gobeithio bydd eu campau yn ysbrydoli cenhedlaeth gyfan o bobl i roi cynnig ar chwaraeon eu hunain."

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Prif Weinidog Cymru 27 Gorffennaf 2012 Gemau olympaidd 2012 Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Chwefror 2016
Ll M M I G S S
<< Ion    
1 2 3 4 5 6 7
8 9 10 11 12 13 14
15 16 17 18 19 20 21
22 23 24 25 26 27 28
29            
I'n dilyn ni trowch i