Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Cymru yw’r lle i fuddsoddi, meddai Carwyn Jones

Mae Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones wedi agor Swyddfa Llundain Llywodraeth Cymru yn swyddogol, gan ddweud mai Cymru yw’r lle i fuddsoddi.
Dydd Iau 12 Gorffennaf 2012

Bydd y swyddfa newydd ar Victoria Street yn gartref parhaol â ffocws cryfach i Lywodraeth Cymru ac yn galluogi Gweinidogion i barhau i feithrin cysylltiadau gyda busnesau, llysgenadaethau ac adrannau Llywodraeth y DU. 

Dywedodd y Prif Weinidog:

"Mewn ychydig wythnosau, bydd llygaid y byd ar Lundain ar gyfer y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd, felly mae hwn yn gyfle delfrydol i ni agor ein swyddfa newydd yn Llundain.

"Bydd y swyddfa yn ganolfan bwysig i Lywodraeth Cymru a busnesau Cymru er mwyn dylanwadu ar benderfynwyr yn y ganolfan ariannol a masnachol fwyaf blaenllaw yn y byd. Rydyn ni’n wynebu marchnad anodd a chystadleuol, ond rydyn ni’n benderfynol o wneud popeth yn ein gallu i gyfleu’r neges mai Cymru yw’r lle i fuddsoddi.

"Mae’n hanfodol o ystyried cythrwfl yr economi fyd-eang. Mae mwy na 1,000 o gwmnïau tramor yn gweithio yng Nghymru, gan gyflogi tua 140,000 o bobl. Rydyn ni am adeiladu ar hyn a pharhau i ddenu cwmnïau tramor i Gymru.

"Bydd swyddfa yng nghanol Llundain yn ein helpu i hyrwyddo Cymru i’r byd er mwyn hybu economi Cymru."

Mae agoriad Swyddfa Llundain yn dilyn cyfres o ymweliadau tramor a theithiau masnach dan arweiniad y Prif Weinidog i India, Tsieina a’r Unol Daleithiau. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi trefnu rhaglen helaeth o deithiau masnach tramor – gan gynnwys y Dwyrain Canol, Gogledd America a Gwladwriaethau’r Gwlff – i annog cwmnïau o Gymru i fanteisio ar gyfleoedd tramor.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Prif Weinidog Cymru 12 Gorffennaf 2012 Yr economi Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Chwefror 2016
Ll M M I G S S
<< Ion    
1 2 3 4 5 6 7
8 9 10 11 12 13 14
15 16 17 18 19 20 21
22 23 24 25 26 27 28
29            
I'n dilyn ni trowch i