Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Y Prif Weinidog yn ymateb i gyhoeddiad y Weinyddiaeth Amddiffyn

Carwyn Jones y Prif Weinidog wedi ymateb i gyhoeddiad y Weinyddiaeth Amddiffyn ar y toriadau i’r Fyddin.
Dydd Iau 05 Gorffennaf 2012

"Bydd hyn yn newyddion hynod siomedig i aelodau’r Cymry Brenhinol.  

"Mae’r penderfyniad heddiw gan Lywodraeth Prydain yn golygu bod aelodau 2il Fataliwn y Cymry Brenhinol bellach yn wynebu’r posibilrwydd o golli eu swyddi.  Dwi eisoes wedi siarad â Brigadydd Napier, Pennaeth y Fyddin yng Nghymru, am y goblygiadau i’n milwyr, yn ddynion a merched.    

"Bydd colli’r Fataliwn yn ergyd galed i’r milwyr sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd a chyn-filwyr y gatrawd yma, a hefyd deuluoedd y rhai sydd wedi aberthu eu bywydau dros ein gwlad.  

"Mae’r Cymry Brenhinol wedi bod drwy broses uno fawr eisoes yn 2006, ac ni alla i ond dychmygu’r effaith a gaiff yr ergyd ddiweddaraf yma ar ysbryd y gatrawd gyfan, fu’n destun balchder erioed i ni ddinasyddion Cymru.  

"Dwi’n galw ar y Weinyddiaeth Amddiffyn i wneud yn siŵr ei bod yn gwneud popeth o fewn ei gallu i helpu’r rhai fydd yn dioddef o ganlyniad i’r penderfyniad yma, drwy naill ai eu trosglwyddo i unedau eraill neu helpu iddyn nhw baratoi ar gyfer bywyd fel dinasyddion.  

"Yn y misoedd nesaf, bydd angen inni weithio’n agos â’r Fyddin i drafod sut y gall Llywodraeth Cymru roi’r cymorth priodol i’r milwyr hynny - yn ddynion a merched - a’u teuluoedd, wrth iddyn nhw adael y fyddin."

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Prif Weinidog Cymru 05 Gorffennaf 2012 Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mehefin 2012
Ll M M I G S S
<< Mai   Gor >>
        1 2 3
4 5 6 7 8 9 10
11 12 13 14 15 16 17
18 19 20 21 22 23 24
25 26 27 28 29 30  
I'n dilyn ni trowch i