Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Grŵp Llandrillo Menai yn cael £6.75 miliwn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer canolfan beirianneg newydd sbon yng Ngholeg Menai

Heddiw (6 October) cyhoeddodd Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, fod Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £6.75 miliwn mewn canolfan beirianneg newydd sbon ar gyfer myfyrwyr addysg bellach ar Gampws Grŵp Llandrillo Menai, Llangefni. Mae hyn yn rhan o’r Rhaglen i Sicrhau Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21fed Ganrif. Mae’r buddsoddiad cyfan yn y ganolfan werth £13.5 miliwn.
Dydd Gwener 06 Hydref 2017

Bydd y ganolfan yn caniatáu i’r coleg gynnig nifer o leoedd ychwanegol i fyfyrwyr sy’n astudio ar gyfer cymwysterau galwedigaethol a thechnegol.

Bydd y ganolfan newydd ar yr un campws a’r Ganolfan Ynni a’r Ganolfan Adeiladwaith presennol a bydd y canolfannau hyn yn help i fyfyrwyr datblygu eu sgiliau peirianneg ac adeiladwaith  i gefnogi datblygiad Wylfa Newydd.
 
Dywedodd Kirsty Williams,

“Bydd y prosiect hwn o fudd i’r myfyrwyr hynny sydd am gryfhau eu sgiliau peirianneg yn sicr, ond bydd hefyd yn llesol i’r economi leol gan y bydd peirianwyr hynod grefftus yn gallu byw a gweithio mewn ardal sy’n gartref i ddatblygiad Wylfa Newydd, a fydd yn cael buddsoddiad sylweddol.
 
“Bydd y ganolfan hefyd yn gyfle i fyfyrwyr hŷn a dysgwyr eraill i ddatblygu ac ehangu eu sgiliau, gan wella’u cyfleoedd i gael gwaith yn gyffredinol.”

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Addysg a sgiliau 06 Hydref 2017 Y Gogledd
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Hydref 2017
Ll M M I G S S
<< Med    
            1
2 3 4 5 6 7 8
9 10 11 12 13 14 15
16 17 18 19 20 21 22
23 24 25 26 27 28 29
30 31          
I'n dilyn ni trowch i