Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Cymru yn Sioe Twristiaeth a Theithio Prydain

Bydd Croeso Cymru a phartneriaid yn arddangos y gorau sydd gan y wlad i’w gynnig yn ystod Blwyddyn y Môr yng Nghymru yn Sioe Twristiaeth a Theithio Prydain sy’n digwydd yr wythnos hon yn yr NEC, Birmingham (21-22 Mawrth)
Dydd Mercher 21 Mawrth 2018
Cymru yn Sioe Twristiaeth a Theithio Prydain
Cymru yn Sioe Twristiaeth a Theithio Prydain

Y sioe deithio yw prif ddigwyddiad y diwydiant teithio ar gyfer twristiaeth ddomestig ym Mhrydain.  Mae disgwyl dros 250 o arddangoswyr a dros 3000 o ymwelwyr – y rhai sy’n gwneud penderfyniadau pwysig ac arddangoswyr o’r diwydiant – yn ystod y ddau ddiwrnod.  

Meddai’r Gweinidog Twristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas:

“Mae bod yn bresennol mewn sioeau teithio pwysig yn rhan o ymgyrch farchnata Croeso Cymru yn y Gwanwyn i hyrwyddo Cymru yn ystod Blwyddyn y Môr.  Yn yr wythnosau diwethaf mae Croeso Cymru wedi bod yn brysur yn gwerthu Cymru yng Nghonfensiwn UKinbound, ExploreGB ac ITB Berlin, i gynulleidfa ryngwladol.  Mae’r sioe hon yn gyfle i drafod, yn enwedig â phrynwyr ar y lefel uchaf, gan gynnwys Cwmnïau Teithio Grŵp, Cwmnïau Coetsus a Chwmnïau Teithio yn bennaf ar gyfer y farchnad ddomestig.    

“Yn ystod y digwyddiad, bydd Croeso Cymru a phartneriaid ar y stondin yn hyrwyddo ein cynnyrch, gweithgareddau, digwyddiadau a phrofiadau o safon ryngwladol yn ystod Blwyddyn y Môr.  Mae Ras Cefnfor Volvo ar ein gwarthau, a dyma un o’r prif ddigwyddiadau ar gyfer 2018 – pan fydd llygaid y byd ar Gymru unwaith yn rhagor.  Bydd hwn yn gyfle gwerthfawr inni hyrwyddo Cymru fel un o’r prif gyrchfannau arfordirol yn yr 21ain Ganrif ac i ddathlu ein Prifddinas a’n cymunedau arfordirol.

“Menter allweddol arall ar gyfer y flwyddyn hon yw Ffordd Cymru – y tri llwybr newydd sy’n croesi rhai o dirweddau prydferthaf ein gwlad, fel ffordd o arddangos hanes, arfordir ac atyniadau gwych Cymru – a rhoi yr hyder a’r wybodaeth i ymwelwyr tramor grwydro mwy yng Nghymru.”

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Diwylliant, twristiaeth a chwaraeon 21 Mawrth 2018 Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Ebrill 2018
Ll M M I G S S
<< Maw    
            1
2 3 4 5 6 7 8
9 10 11 12 13 14 15
16 17 18 19 20 21 22
23 24 25 26 27 28 29
30            
I'n dilyn ni trowch i