GOV.WALES uses cookies which are essential for the site to work. Non-essential cookies are also used to tailor and improve services. By continuing to use this site, you agree to our use of cookies.
Context: Mae sawl astudiaeth wedi cymharu'r modd y mae plentyn a'i fam yn rhyngweithio drwy ddarllen llyfrau â'r hyn sy'n digwydd wrth chwarae â theganau. Mae’r astudiaethau’n dangos bod mamau’n siarad mwy ym mhob uned amser wrth ddarllen llyfrau, bod strwythur iaith mamau wrth ddarllen yn fwy cymhleth a’u bod yn yn defnyddio geirfa ehangach (Weizman a Snow, 2001). Wrth ddarllen llyfrau, mae mwy o gyfle i labelu gwrthrychau ac i labelu'n benodol (ee 'teigr yw hwn') o gymharu â chwarae â theganau (Hoff, 2003c).
Context: Dylai holl ymarferwyr gofal plant Dechrau'n Deg fod yn darparu amgylchedd dysgu cyfoethog sy'n rhoi cyfleoedd iaith a chyfathrebu i bob plentyn, gan gynnwys y rheini sydd ag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu cynnar. Mae gwaith ymchwil yn dangos bod modd cael canlyniadau positif drwy strategaethau penodol i ddysgu geirfa a thrwy ddefnyddio adnoddau amlgyfrwng.