Skip to content

Datganiad Ysgrifenedig - Y newyddion diweddaraf ar Drethi Cymreig a diwygio cyllidol

Jane Hutt AC, Y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth

Ddoe pasiodd y Cynulliad Fil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) - y darn cyntaf erioed o ddeddfwriaeth ar drethi Cymreig. Roedd hyn yn garreg filltir sylweddol arall o ran bwrw ymlaen â datganoli trethi Cymreig ac fel y cyfryw, credaf ei bod yn amser priodol i bwyso a mesur y cynnydd ehangach yr ydym wedi’i wneud tuag at roi trethi datganoledig ar waith a sicrhau ariannu teg i Gymru, a hefyd i edrych ymlaen at yr hyn sydd ar y gorwel wrth inni symud tuag at drefniant cyllidol cynaliadwy i Gymru.

Mae Bil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) yn darparu ar gyfer Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) ac yn rhoi’r pwerau hanfodol iddo fynd ati i gasglu a rheoli trethi.  ACC fydd conglfaen ein pwerau trethi datganoledig newydd, yn ogystal â’r Adran Anweinidogol gyntaf i gael ei sefydlu gan y Cynulliad. Bydd ar wahân i Weinidogion Cymru a'r Cynulliad Cenedlaethol ond yn atebol iddynt. Ond mae’n bwysig nodi na fydd Gweinidogion Cymru yn ymwneud â materion trethi unigolion - bydd ACC yn gweithredu yn annibynnol ar faterion o'r fath.

Rwyf yn ddiolchgar i'r Cynulliad hwn ac i’r Pwyllgor Cyllid yn enwedig am ei  waith wrth graffu ar Fil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru). Yn ystod y broses hon, rhoddwyd cryn sylw i’r angen i ACC ddarparu gwasanaeth o ansawdd; gosod safonau gwasanaeth, darparu gwasanaethau yn Gymraeg a Saesneg a meddu ar Siarter Drethdalwyr i gefnogi perthynas adeiladol rhwng y corff newydd a threthdalwyr a'u hasiantau. Heb os nac oni bai mae’n bwysig sefydlu ACC ar y sail iawn o'r cychwyn cyntaf, ac roeddwn yn falch o ymateb i awgrymiadau a oedd wedi'u hanelu at wella’r darpariaethau ym Mil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru). Mae'r Bil yn gosod dyletswyddau amrywiol ar ACC er mwyn iddo ddarparu gwasanaethau sy'n gweddu i  awdurdod refeniw, sef helpu trethdalwyr i dalu eu trethi a helpu'r cyhoedd ehangach drwy ddiogelu refeniw trethi ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus Cymru.

Rydym bellach yn disgwyl sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru ei hun, gan ei alluogi i gasglu’r trethi sy'n ddyledus er mwyn ariannu gwasanaethau cyhoeddus mewn modd effeithlon ac effeithiol. Mae penodi Dyfed Alsop, a fydd yn ymuno â Llywodraeth Cymru o Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn Lloegr yn Haf 2016 fel  Cyfarwyddwr Gweithredu Awdurdod Cyllid Cymru, yn allweddol yn hyn o beth.

Yr wyf wedi lansio rhaglen ymgysylltu sef  "Trethi Cymru : Sgwrs" i ddechrau ymgysylltu â’n rhanddeiliaid a threthdalwyr ledled Cymru yn y gwaith o ddatblygu Awdurdod Cyllid Cymru a’r trethi Cymreig datganoledig. Mae hyn yn ceisio ymestyn allan i’r bobl hynny y bydd y newidiadau mewn trethi sydd o’n blaenau’n effeithio arnynt. Cynhwysir e-arolwg ynghylch agweddau allweddol ar Awdurdod Cyllid Cymru yn y sgwrs. Mae’r arolwg eisoes yn cael ei gwblhau gyda phobl yn cyfrannu eu safbwyntiau ar yr hyn y dylai gweledigaeth a gwerthoedd ACC ei gynnwys a sut beth fyddai Siarter Drethdalwyr i Gymru a threfniadau ar gyfer unioni camweddau. Hyd yn hyn mae dros 40 o gyfraniadau wedi cael eu cofnodi ar safle’r e-arolwg. Bydd yr adborth a roddir drwy'r ymarfer hwn yn helpu i lywio’r ACC a Siarter Drethdalwyr i Gymru yn y dyfodol.

Mae hwn yn gam sylweddol tuag at ddatganoli trethi, gan alluogi pobl Cymru i ymwneud yn fwy â’r dreth sy’n ariannu ein gwasanaethau cyhoeddus, a sicrhau bod y trethi Cymreig datganoledig newydd yn diwallu anghenion a blaenoriaethau pobl Cymru. Mater i Lywodraeth nesaf Cymru fydd cyflwyno Treth Trafodiadau Tir a Threth Gwarediadau Tirlenwi, a rhagwelaf y bydd y ddeddfwriaeth hon - y trethi Cymreig cyntaf ers 800 o flynyddoedd  - yn cael ei chyflwyno ar ddechrau tymor nesaf y Cynulliad.

Mae Deddf Cymru 2014 hefyd yn cynnwys darpariaethau i’r Cynulliad Cenedlaethol gyflwyno Cyfraddau Treth Incwm yng Nghymru yn y dyfodol i ddisodli gwerth 10c o gyfraddau presennol y DU, a phwerau i gyflwyno trethi datganoledig ychwanegol yn y dyfodol. Gallai effaith gyffredinol y pwerau  trethi newydd olygu y byddai dros £4 biliwn o wariant datganoledig yng Nghymru yn dibynnu ar dderbyniadau o drethi datganoledig – rhyw 20% o wariant Llywodraeth Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi ei dull gweithredu neilltuol ein hunan o ran datblygu polisi yn y dyfodol drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015. Bydd y dull gweithredu hwn yn llywio sut yr ydym yn defnyddio pwerau trethu newydd ac mae Llywodraeth Cymru’n datblygu strategaeth ar gyfer polisi trethi i reoli ffrydiau refeniw’r trethi hynny yn gydlynol, gan gydnabod  beichiau ariannol cymharol a blaenoriaethau polisi yng Nghymru.

Mae angen inni ystyried y tymor hwy, a datblygu cyfundrefn drethi yng Nghymru sydd nid yn unig yn cydnabod ei statws o fewn cyd-destun ehangach trethi’r DU ond sydd hefyd yn ceisio bod yn sail i’n blaenoriaethau polisi i ddiwallu anghenion pobl Cymru.  Mae angen inni sicrhau hefyd ein bod yn cynnig cyfle i bobl yng Nghymru gymryd rhan yn y ddadl ar lefelau a graddau trethiant, fel y gwnânt eisoes yn achos gwariant.  Byddwn yn cynnwys ein rhanddeiliaid a threthdalwyr i ddatblygu system fwy effeithlon a blaengar ar gyfer trethi sy'n diwallu anghenion dinasyddion Cymru yn well.

Ochr yn ochr â datblygu ein strategaeth ar gyfer polisi trethi, byddwn yn parhau i negodi ar gyfer fframwaith cyllidol hirdymor â Llywodraeth y DU.  Mae fy Natganiad Ysgrifenedig diweddar yn nodi barn Llywodraeth Cymru. Er bod cynnydd wedi’i wneud, ni fyddwn yn bwrw ymlaen os bydd yn glir y bydd datganoli trethi’n cydymffurfio â’r egwyddor ‘no detriment’ ac na fydd yn effeithio’n annheg ar ddyfodol cyllido yng Nghymru. Mewn perthynas â chyllid gwaelodol, er enghraifft, mae angen gwaith pellach yn awr i benderfynu yn union sut y bydd y cyllid  newydd yn gweithio, gan gynnwys y broses "ailosod" arfaethedig ymhen pum mlynedd. Mae angen ystyried y mater hwn yng nghyd-destun ehangach cytuno ar wrthbwysiad teg i’r grant bloc, sy'n cymryd i ystyriaeth priodoleddau ein sylfeini treth a maint ein cyfrifoldebau datganoledig, ac nad yw’n peri risgiau sydd y tu allan i'n rheolaeth yn achos cyllideb Llywodraeth Cymru. Byddwn hefyd yn mynd ati i sicrhau cytundeb ar y fframwaith benthyca a fydd yn bodoli ochr yn ochr â’n pwerau cyllidol newydd. Fel rhan o’r cytundeb diweddar ar Fframwaith Cyllidol yr Alban, mae proses adolygu annibynnol wedi cael ei hymgorffori er mwyn ystyried yr Addasiadau i'r Grant Bloc cyn diwedd 2021 ac i sicrhau eu bod yn cael eu cyfrifo a’u cymhwyso’n deg. Rhaid defnyddio’r un mesur o annibyniaeth hefyd ar gyfer ein Fframwaith Cyllidol ein hunain yn y dyfodol.

Mae’r cynnydd yr ydym wedi’i wneud ar ddatganoli trethi wedi cael ei helpu gan ein rhanddeiliaid - unigolion a busnesau sydd wedi rhoi o'u hamser a'u syniadau – gan gynnwys y Grŵp Cynghori Trethi a Fforwm Trethi Llywodraeth Cymru

Mae hyn wedi cyfrannu at y dull gweithredu cyffredinol yr wyf wedi’i arddel er mwyn sicrhau a chadw consensws trawsbleidiol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.  Seilir hyn ar ymrwymiad ar y cyd i gyflawni argymhellion Adroddiad Cyntaf Comisiwn Silk i sicrhau arian teg, dulliau cadarn o gasglu a rheoli trethi a Fframwaith Cyllido i Gymru sy’n gallu cynnig y manteision a’r atebolrwydd gorau posibl er mwyn datblygu economi Cymru a’n gwasanaethau cyhoeddus.