Skip to content

Datganiad Ysgrifenedig - Economi mwy cylchol i Gymru

Carl Sargeant, Gweinidog Cyfoeth Naturiol

Ar 2 Rhagfyr, mabwysiadodd y Comisiwn Ewropeaidd Gynllun Gweithredu yr UE ar gyfer  economi gylchol i hybu cystadleuaeth fyd-eang, meithrin twf economaidd cynaliadwy a chreu swyddi newydd.  Mae’r datganiad hwn, ar gyfer Aelodau’r Cynulliad a’r cyhoedd yn ehangach, yn pennu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu economi mwy cylchol yng Nghymru.  Yn y datganiad hwn, byddaf yn egluro pam y mae’n bwysig i Gymru symud tuag at economi mwy cylchol, a’r manteision a ddaw gyda hyn i fusnesau a chymdeithas yn gyffredinol, yn enwedig mewn perthynas â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.  Byddaf yn egluro’n fyr pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymeryd i symud Cymru tuag at economi mwy cylchol.  

Mae defnyddio adnoddau naturiol drwy gynhyrchu, defnyddio a gwaredu nwyddau sydd yn cael eu prynu gan y cyhoedd, busnesau a’r sector cyhoeddus yn arwain at ganlyniadau economaidd, cymdeithaol ac amgylcheddol mawr.  Dywed gwyddoniaeth wrthym bod gor-ddefnydddio adnoddau naturiol yn cael effaith sylweddol ar fioamrywiaeth byd-eang a chynhesu byd-eang. Mae cost a diogelwch y cyflenwad o adnoddau naturiol, sy’n cael eu defnyddio fel deunydd crai ar gyfer gweithgynhyrchu, yn golygu y bydd cyfyngu sylweddol ar ba mor gadarn fydd ein heconomi yn y dyfodol.  Gall cost bwyd ac eitemau eraill hefyd fod yn anhawster i’r rhai hynny sy’n ei chael hi’n anodd i gael dau ben llinyn ynghyd.  Mae cael gwared ar wastraff yn gost i fusnesau a chymdeithas, o ran gwerth y deunydd a waredir a chostau rheoli gwastraff yn ddiogel.  

Ein dull traddodiadol o reoli deunyddiau yw dull ‘llinellol’ y gellid ei ddisgrifio fel ‘cymeryd, gwneud, defnyddio a cholli’.  Mae gan ormod o lawer o ddeunyddiau oes fer, ac fe gollir eu gwerth o’r economi drwy eu gwaredu ar safleoedd tirlenwi.  Mae angen inni fod yn llawer mwy effeithiol yn ein defnydd o adnoddau a datblygu dull mwy cylchol o ddefnyddio deunyddiau yng Nghymru.  Mae economi gylchol yn golygu y gellir defnyddio deunyddiau’n gynhyrchiol eto ac eto ac felly greu mwy o werth a gyda hynny sawl mantais.  

Mae Tuag at Ddyfodol Diwastraff, ein strategaeth wastraff a gyhoeddwyd yn 2010, yn rhoi Cymru ar lwybr tuag at economi mwy cylchol.  Mae’n ail-bwysleisio’r nod o ddefnyddio yr hyn sy’n cyfateb â gwerth un blaned o adnoddau’r erbyn 2050. Roedd yn sefydlu targedau uchelgeisiol ar gyfer atal gwastraff ac ailgylchu i helpu i gyrraedd y nod o ddefnyddio gwerth un blaned o adnoddau.    

Mae astudiaethau sy’n amcangyfrif y manteision i Gymru o gael economi mwy cylchol yn cynnwys astudiaeth Sefydliad Ellen MacArthur/WRAP sy’n nodi arbedion economaidd posibl o hyd at 30,000 o swyddi newydd.  Bydd sicrhau economi mwy cylchol yn dod â nifer o fanteision eraill sy’n gysylltiedig ag amcanion llesiant, gan gynnwys:  

  • ‘Cymru Mwy Cadarn’ – helpu i leihau neu wyrdroi colldedion bioamrywiaeth drwy leihau y camddefnydd o adnoddau naturiol a lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr gyda’r gostyngiad yn y cynefinoedd sy’n cael eu colli o ganlyniad i hynny;   
  • ‘Cymru Iachach’ – diogelu a gwella iechyd drwy leihau allyriadau sy’n gysylltiedig â gwastraff a rheoli gwastraff;  
  • ‘Cymru Fwy Cyfartal’ – darparu swyddi, hyfforddiant, sgiliau ar draws ystod amrywiol o’r boblogaeth ac arbed arian drwy wastraffu llai o fwyd; 
  • ‘Cymru o Gymunedau Cydlynus’ – cynnwys a sicrhau bod cymunedau yn gysylltiedig â rheoli gwastraff yn gynaliadwy, gan gynnwys ailddefnyddio ac ail-ddosbarthu bwyd sydd ar ôl;   
  • ‘Cymru â Diwylliant Bywiog lle mae’r Gymraeg yn Ffynnu’ – cynnwys ymddygiadau a diwylliant datblygu cynaliadwy o fewn cymdeithas, gan ddefnddio’r celfyddydau fel y bo’n briodol i helpu i godi ymwybyddiaeth a newid ymddygiad, a defnyddio’r Gymraeg wrth gyfathrebu; a 
  • ‘Cymru sy’n Gyfrifol yn Fyd-eang’ – gwneud cyfraniad pwysig i’r nod o ddefnyddio adnoddau un blaned a helpu i leihau neu ddad-wneud colli bioamrywiaeth byd-eang.      

Mae cwestiynau wedi’u holi ynghylch pa mor realistig yw i Gymru fod yn wirioneddol gylchol, neu mewn geiriau eraill yn hunan-gynhaliol, yn ei defnydd o adnoddau naturiol.  Wrth gwrs, nid yw Cymru’n cynhyrchu na gweithgynhyrchu yr holl fwyd a’r cynnyrch arall y mae’n ei defnyddio – mae’n dibynnu ar fwyd a chynnyrch (neu wasanaethau) sy’n cael eu cynhyrchu, eu gweithgynhyrchu a’u prynu yn fyd-eang.  Nid yw’n hunan-gynhaliol chwaith yn yr adnoddau naturiol y mae ei phreswylwyr a’i busnesau yn eu defnyddio.  Felly, ar gyfer y dyfodol agos, ni all Gymru fod 100% yn gylchol.  Bydd ein nod o sicrhau ein bod yn defnyddio adnodd un blaned yn dibynu ar wledydd eraill hefyd yn cymeryd camau i fynd i’r afael â defnyddio adnoddau yn effeithiol a chreu eu dull eu hunain o fynd yn gylchol.  Ond gall Gymru fod yn llawer mwy cylchol a gall wneud llawer mwy i ddatblygu’r agwedd hon.  

O ran defnyddio adnoddau a’r cynnyrch sy’n cael eu gwerthu gan fanwerthwyr yng Nghymru, mae cylchoedd perthnasol neu gylchoedd ar wahanol lefelau daearyddol.  Mae rhai cynnyrch yn cael eu prynu a’u defnyddio yng Nghymru sy’n cael eu gwneud yng Nghymru yn unig.  Gellir creu cylch ailgylchu os oes modd i’r deunydd ailgylchu a ddaw o’r cynnyrch hyn wrth iddynt fynd yn wastraff gael eu rhoi yn ôl i fanwerthwyr o Gymru i’w defnyddio fel deunydd crai eilaidd yn lle y deunyddiau crai cynradd .  Mae rhai cynnyrch yn cael eu prynu a’u defnyddio yng Nghymru sydd wedi’u gwneud yn y DU, rhai wedi eu gwneud yn Ewrop a rhai yng ngweddill y byd.  Yma, yn syml, mae’r dull cylchol, o ran ailgylchu, yn golygu cael y deunydd eildro gwastraff yn ôl i’r ffynhonell cynhyrchu.  Mae’n bwysig bod nwyddau sy’n cael eu cynhyrchu dramor sy’n cael eu mewnforio i’w defnyddio yng Nghymru yn cynnwys cymaint â phosib o gynnwys wedi’i ailgylchu, ac mae hynny’n rhoi’r cyfle inni werthu deunydd eildro o Gymru i wledydd eraill sy’n gweithgynhyrchu.  

Er mwyn cyfrannu cymaint â phosib at amcanion llesiant ym maes ailgylchu, mae angen inni ddatblygu’r cylch ailgylchu cymaint â phosib.   Mae angen inni sicrhau bod cymaint â phosib o’r gwastraff sy’n cael ei gasglu yng Nghymru yn ailgylchu dolen gaeedig neu yn ail-ddefnyddio ar gyfer cynnyrch sy’n cael eu gweithgynhyrchu yng Nghymru.  Mae angen inni sicrhau hefyd fod gan bob cynnyrch sy’n cael ei weithgynhyrchu yng Nghymru gynnwys wedi’i ailgylchu sydd mor uchel â phosib, a bod gweithgynhyrchwyr yn gallu dod o hyd i ddigon o ddeunydd ailgylchu crai o safon uchel o Gymru yn ogystal ag yn ehangach (pe na fyddai digon o gyflenwad o Gymru ar gyfer y galw am ddeunydd crai).  Mae angen inni hefyd greu mwy o alw am y cynnyrch hwn.  

I wneud hyn yn effeithiol mae angen inni godi mwy o ymwybyddiaeth ar y cyd o fanteision yr economi gylchol i gwmnïau gweithgynhyrchu yng Nghymru, yn enwedig Mentrau Bach a Chanolig.  Mae angen inni hefyd sicrhau dull o weithio ar y cyd ar hyd y gadwyn gyflenwi, gan gynnwys gydag awdurdodau lleol a chwmnïau rheoli gwastraff sy’n casglu deunydd ailgylchu yng Nghymru.  Bydd darparu economi gylchol yng Nghymru yn llwyddiannus yn ei gwneud yn ofynnol i bawb sy’n cynhyrchu gwastraff, yn ei gasglu a’i ail-brosesu i deilwra eu gweithgareddau i ddarparu cyflenwad cyson o ddeunydd ailgylchu o safon uchel i’r cwmnïau ail-gylchu o Gymru all ei ddefnyddio.  Dyna pam ein bod wedi cyhoeddi’r Glasbrint Casgliadau i awdurdodau lleol eu mabwysiadu ble y bo’n ymarferol.  Hoffwn weld pob awdurdod lleol yng Nghymru yn mabwysiadu y dull Glasbrint.    

Mae gan Lywodraeth Cymru raglen eang i helpu i sicrhau economi mwy cylchol yng Nghymru.  Mae hyn yn cynnwys y darpariaethau arfaethedig ym Mil yr Amgylchedd i sicrhau bod busnesau a’r sector cyhoeddus yn ailgylchu mwy, y targedau ailgylchu statudol ar gyfer awdurdodau lleol yn y Mesur Gwastraff (Cymru) 2010, y grant gwerth £9.5 miliwn a ddyfarnwyd ym mis Hydref fel cyllid craidd Rhaglen Weithredu’r Cynllun Gwastraff ac Ailgylchu Cymru, y £1.186 miliwn a ddyfarnwyd hefyd ym mis Hydref i Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru ar gyfer eu rhaglen ar gyfer rheoli gwastraff  cynaliadwy yn y sector adeiladu, a’r £13 miliwn a ddarparwyd i awdurdodau lleol o dan y Rhaglen Newid Gydweithredol er mwyn iddynt wella eu gwasanaethau ailgylchu.  Bydd y rhaglenni hyn yn helpu i sicrhau bod cyflenwad cyson o ddeunydd ailgylchu o safon uchel o bob ffynhonell, yn enwedig o gartrefi, y gellir eu defnyddio gan ailbroseswyr a gweithgynhyrchwyr yng Nghymru.  Bydd y rhaglen hefyd yn ceisio creu mwy o alw am nwyddau sydd â chynnwys ailgylchu uchel, ac rydym yn gweld caffael yn y sector cyhoeddus cynaliadwy yn chwarae rhan amlwg yma.    

Er mwyn i hyn weithio, mae angen dull cryf, integredig cyfun drwy gydol y gadwyn cyflenwi cynnyrch ailgylchadwy, o weithgynhyrchwyr a manwerthwyr, i’r rhai hynny sy’n casglu deunyddiau i’w hailgylchu wedi eu defnyddio, ac yna yn ôl i’r gweithgynhyrchwyr sy’n defnyddio’r deunyddiau ailgylchadwy fel deunydd crai newydd.  Dyna pam fy mod wedi gofyn i WRAP Cymru sefydlu ‘tasglu’ o brif sefydliadau y gadwyn gyflenwi i gyflawni hyn.  

Bydd angen inni fod y fwy arloesol yn ein dull o weithio.  Mae gan Gymru hanes da o arloesi o ran defnyddio adnoddau’n effeithlon, gyda llawer o waith rhagorol yn cael ei wneud ar draws sefydliadau academaidd yng Nghymru.  Mae angen inni ychwanegu at hyn ymhellach a sicrhau bod academia yn rhan o’r tasglu WRAP Cymru hwn.  Mae rhaglen newydd ERDF yr UE ar gyfer Cymru yn cynnwys blaenoriaethau ar gyfer arloesi a chymorth i BbaCh.  Mae’r cyllid a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar gael hefyd ar gyfer yr economi gylchol o dan raglen Horizon 2020 yr UE – oddeutu £500 miliwn.   Mae angen inni sicrhau ar y cyd bod Cymru yn cael ei rhan o’r cyllid hwn.

Mae Cymru yn wlad fechan.  Gall hyn weithiau arwain at anfanteision o ran arbedion maint.  Fodd bynnag, fel gwlad fechan, mae gennym gyfle rhagorol i gyd-dynu yn y cyfeiriad iawn.  Gallwn fanteisio ar ein cryfderau yma.  Ni fydd gweithio ar wahân yn sicrhau y math o economi gylchol yr ydym ei hangen – a’r swyddi ychwanegol a’r manteision economaidd y gallai ei gynnig.  Mae hyn yn arbennig o wir o ran casglu deunydd ailgylchu – o gartrefi, busnesau a’r sector cyhoeddus.  Mae angen inni gydweithio gyda phob rhanddeiliad i ddarparu gwasanaeth rheoli gwastraff mwy cyson a chynaliadwy ledled Cymru.  Bydd y manteision yn enfawr.  Mae’n rhaid inni fanteisio arnynt drwy wneud yr ymdrech sydd ei angen i newid pethau.