Skip to content

Datganiad Ysgrifenedig - Ymateb i Adroddiad Comisiwn Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol Cymru

Edwina Hart, Y Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Ar 21 Chwefror, fe lansiais adroddiad Comisiwn Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol Cymru ac fe gyhoeddais y byddwn yn ymgynghori ar argymhellion yr adroddiad.

Yn ychwanegol at arolwg ar-lein, cynhaliwyd digwyddiadau ymgynghori yn y Gogledd, y De a’r Gorllewin.

Mae’r dystiolaeth a gasglwyd yn dangos bod cwmnïau cydweithredol a chydfuddiannol yn gallu creu swyddi, gwella cyrhaeddiad addysgol a lleihau anghydraddoldeb. Mae’r adroddiad yn cydnabod manteision datblygu’r economi gydweithredol a chydfuddiannol yng Nghymru. Byddaf yn derbyn yr argymhellion sy’n cwympo o fewn fy mhortffolio i.

Mae’r adroddiad yn argymell y dylid cryfhau yn sylweddol y cyngor a chymorth busnes a ddarperir ar gyfer sefydlu a  datblygu cwmnïau cydweithredol a chydfuddiannol. Byddaf yn parhau i ddarparu cyllid i sefydliadau cymorth busnes arbenigol yng Nghymru er mwyn eu galluogi i gefnogi datblygiad cwmnïau cydweithredol a chydfuddiannol newydd. Byddaf hefyd yn darparu cyllid i Ganolfan Cydweithredol Cymru arwain ar ddatblygu cymorth busnes arbenigol i’r sector. Bydd y cymorth hwnnw’n cynnwys help ar gyfer ehangu a datblygu sectorau penodol sydd â photensial ar gyfer twf, cynllunio dilyniant a gwaith a rgaffale cydweithredol a chonsortia.

Yn unol ag argymhellion yr adroddiad, mae gwaith eisoes ar y gweill gyda’r sector. Defnyddir platform Busnes Cymru i sefydlu porthol ar y we a fydd yn rhoi cyngor priodol a chymorth ar gyfer cwmnïau cydweithredol a chydfuddiannol, boed yn rhai arfaethedig neu wedi’u sefydlu’n barod.

Mae’r adroddiad yn argymell y dylid cynyddu’r capasiti ar gyfer ymchwil, strategaeth a pholisi yn ymwneud â’r economi gydweithredol a chydfuddiannol a chynyddu’r wybodaeth am y sector er mwyn datblygu meincnodau cadarnach. Rwyf wedi gofyn i’m swyddogion ystyried yr argymhellion hyn a sut maen nhw’n lleisio dyfodol y sector menter gymdeithasol yng Nghymru. Byddaf hefyd yn cryfhau’r gynrychiolaeth o’r sector cydweithredol a chydfuddiannol ar Fwrdd Strategol Busnes Cymru a’r Panel Entrepreneuriaeth, fel bod modd iddynt gyfrannu at y cyngor a dderbyniaf i am y modelau busnes hyn.

Nododd y Comisiwn y dylen ni sicrhau bod strategaeth Arloesi Cymru yn llwyr gydnabod pwysigrwydd mentrau cydweithredol ac rwyf wedi gofyn i’m swyddogion ystyried hyn ac adlewyrchu hyn yng ngwaith y tîm ac yn strategaethau’r dyfodol.

Mae rhai o’r argymhellion penodol ynghylch cyllid buddsoddi  yn rhan o’m portffolio i a byddaf yn rhoi rhagor o fanylion am yr argymhellion hyn wrth i’r gwaith fynd rhagddo.

Mae’n galonogol bod y sector cydweithredol a chydfuddiannol ei hunan yn cyfrannu tuag at gyflawni’r argymhellion hyn. Mae Canolfan Gydweithredol Cymru a Co-operatives UK eisoes yn nodi a hyrwyddo sectorau penodol sydd â photensial i dyfu ac ar 1 Gorffennaf bydd Co-operatives UK yn landio’r cyntaf o gyfres o adroddiadau am hyn.

Nid yw argymhellion eraill yn rhan o’m portffolio i. Mae’r rhain wedi’u hystyried gan y Gweinidogion priodol ac wedi cael derbyniad cadarnhaol.

Mae’r Gweinidog Cyllid wedi cydnabod bod bidio cydweithredol a bidio ar y cyd yn gallu bod yn werthfawr iawn i gael busnesau a mentrau cydweithredol bach y trydydd sector i ymuno â marchnad y sector cyhoeddus. Ym mis Hydref 2013, lansiwyd y Canllaw Bidio ar y Cyd, a baratowyd gan Gwerth Cymru ar y cyd â Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a Chanolfan Gydweithredol Cymru. Bwriad y canllaw yw cael cleientiaid a chontractwyr i hyrwyddo bidio consortiwm i’w gwneud yn haws i fusnesau llai a sefydliadau trydydd sector gynnig am gontractau’r sector cyhoeddus.

Bydd polisi caffael Cymru yn adlewyrchu Erthygl 20 o Gyfarwyddebau Caffael yr UE, gan alluogi aelod-wladwriaethau i gadw contractau ar gyfer gweithdai lloches a gweithredwyr economaidd sy’n integreiddio pobl anabl a dan anfantais yn gymdeithasol ac yn broffesiynol. Mae’r Gweinidog hefyd wedi mynegi diddordeb mewn archwilio’r potensial ar gyfer sefydlu prosiect peilot a fydd yn dangos potensial caffael cyhoeddus ar gyfer datblygu cwmnïau cydweithredol a chydfuddiannol yng Nghymru.

Mae’r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon a’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi wrthi’n trafod y dull gorau o weithredu’r Mesurau Asedau Cymunedol sy’n rhan o Ddeddf Lleoliaeth 2011.

Bydd y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon yn ysgrifennu at bob awdurdod lleol yng Nghymru yn erfyn arnynt i edrych yn drylwyr ar ddewisiadau eraill megis atebion cydweithredol ac arloesol wrth ystyried torri cyfleusterau hamdden. Mae rhai awdurdodau lleol yn edrych ar ehangu’r berchnogaeth gymunedol ar gyfleusterau drwy drosglwyddo asedau i grwpiau cymunedol. Bydd cymunedau’n cael cyfle i gael rhagor o lais yn nyfodol cyfleusterau a chlybiau chwaraeon a hamdden lleol a helpu i gynnal clybiau neu gyfleusterau o’r fath yr ystyrir eu bod yn asedau cymunedol. Mae mudiad yr Ymddiriedolaethau Tir Cymunedol a’r rhwydwaith o Ymddiriedolaethau Tir yn cymryd rhan lawn yng ngwaith y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi i gyflenwi tai cydweithredol fel dewis tai arall i bobl Cymru.

Mae’r Gweinidog Addysg a Sgiliau wedi cadarnhau ei fod yn dymuno i’r ethos cydweithredol fod yn un o brif egwyddorion trefniadol y system addysg yng Nghymru. Bydd yr Athro Donaldson yn ystyried hyn yng nghyd-destun yr adolygiad annibynnol o’r cwricwlwm y mae’n ei gynnal ac y bwriedir ei gyflwyno ddechrau 2015.

Bydd y Fagloriaeth Gymreig newydd, a gyflwynir yn 2015 yn canolbwyntio ar bedair sialens a fydd yn galluogi dysgwyr i feithrin sgiliau a dealltwriaeth sy’n adlewyrchu gwerthoedd ac egwyddorion cydweithrediaeth. Bydd swyddogion addysg yn cydweithio’n agos â Chanolfan Cydweithredol Cymru i ddatblygu sialens i ddysgwyr ei chyflawni fel rhan o’u hastudiaethau.

Bydd Cyngor Cyllido Addysg Bellach Cymru’n rhannu argymhellion terfynol y Comisiwn gyda phrifysgolion Cymru.

Mae’r camau gweithredu’n adlewyrchu dull traws-lywodraethol o fwrw ymlaen â’r argymhellion hyn. Mae’r gwaith eisoes wedi dechrau ac yn parhau. Mae’r argymhellion hyn yn rhan o raglen uchelgeisiol ond dichonadwy yn sail ar gyfer adnewyddu’r Cynllun Gweithredu Mentrau Cymdeithasol a gyhoeddir yn yr hydref. Byddaf yn rhoi rhagor o fanylion am hwn yn yr hydref.