Skip to content

Datganiad Ysgrifenedig - Y newyddion diweddaraf am ddarpariaethau newid hinsawdd Deddf yr Amgylchedd

Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Ym mis Rhagfyr 2016, mewn Datganiad Ysgrifenedig rhoddais amlinelliad o'n Rhaglen Ddatgarboneiddio, sy'n canolbwyntio ar gyflawni gofynion y Ddeddf sef:

  • Diffinio pa allyriadau sy'n cael eu cynnwys yn ein cyfrif yng Nghymru
  • Gosod y llwybr datgarboneiddio yng Nghymru, gan gynnwys gosod y targedau dros dro (ar gyfer 2020, 2030 a 2040) a'r ddwy gyllideb garbon gyntaf (ar gyfer 2016-2020 a 2021-25)
  • Pennu sut y byddwn yn cyrraedd ein targedau gostwng allyriadau, trwy ein Cynllun Cyflawni ar y cyd sy'n cynnwys y gyllideb garbon gyntaf (2016-2020).
Bydd sefydlu sut yr ydym yn cyfrif ein hallyriadau yn ein galluogi i osod targedau a chyllidebau a datblygu'r polisïau, sy'n ein galluogi i gyrraedd ein targedau.

Mae Pwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd (UKCCC), ein Corff Cynghori Annibynnol, bellach wedi rhoi cyngor imi ar sut y maent hwy yn credu y dylem roi cyfrif am ein hallyriadau yng Nghymru. Rwy'n gwerthuso eu cyngor, yn ogystal â thystiolaeth ehangach, a byddaf yn trafod hyn cyn bo hir gyda fy nghydweithwyr yn y Cabinet. Byddaf yna'n rhoi diweddariad pellach ar ein penderfyniad yn y maes allweddol hwn.

Daw y newid i economi carbon isel nid yn unig â chyfleoedd ar gyfer twf glân, swyddi o safon a manteision yn y farchnad fyd-eang, ond daw â manteision ehangach o gael lleoedd gwell i fyw a gweithio, gyda aer a dŵr glân a gwell iechyd i drigolion. Os ydym i ddilyn yr agenda hon, mae angen inni weithredu fel Llywodraeth gyfan. Gan ystyried hyn, rwyf wedi sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen Datgarboneiddio Gweinidogol gydag Ysgrifenyddion y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith, Cymunedau a Phlant a Cyllid a Llywodraeth Leol. Bydd y grŵp yn cydweithio i edrych eto a manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd sy'n gysylltiedig â datgarboneiddio.

Tan inni bennu ein targedau dros dro a'n cyllidebau carbon, byddwn yn defnyddio targedau presennol y Strategaeth Newid Hinsawdd (2010) i olrhain cynnydd datgarboneiddio ar draws pob sector. Bydd hyn yn sicrhau ein bod yn parhau i fynd i'r afael â'n hallyriadau yn y tymor byr, cyn inni bennu ein fframwaith deddfwriaethol hirdymor. Yr ymrwymiadau presennol, sydd wedi'u pennu yn y Strategaeth Newid Hinsawdd trwy ddau brif darged anstatudol, yw gostyngiad blynyddol o 3% mewn allyriadau mewn ardaloedd datganoledig a gostyngiad o 40% yng nghyfanswm yr allyriadau erbyn 2020.

Rydym unwaith eto wedi cyrraedd ein targed o 3%. Yn 2014 roedd yr allyriadau yn 27.34 MtCO2e, gostyngiad o 20% o'r sylfaen sydd dros ein targed o 12% ar gyfer 2014. Golyga hyn y bu gostyngiad o 6% o gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

O ran cynnydd yn erbyn ein targed o 40%, rydym wedi lleihau allyriadau 18% o gymharu â'r flwyddyn sylfaen. Mae hyn oherwydd gostyngiad yn y defnydd o lo yn y sector cynhyrchu pŵer, gostyngiad mewn allyriadau o burfeydd olew a'r sector preswyl. Er y dengys hyn bod gwaith mawr i'w wneud, rwy'n teimlo'n bositif, rydym yn mynd i’r cyfeiriad iawn ac roedd gostyngiad o 8% mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr yn 2015 o gymharu â 2013. Dengys ein ffeithlun y dadansoddiad llawn o'n hallyriadau.

Rwy'n parhau i roi pwyslais ar ddatgarboneiddio trwy fy mhortffolio. Rydym yn parhau i weithio ar draws y llywodraeth i sicrhau cymaint o fanteision â phosib i Gymru o brosiect carbon isel Wylfa Newydd. Rydym yn ystyried datblygu targedau cynhyrchu ynni adnewyddadwy ac yn buddsoddi'n barhaus mewn defnyddio ynni yn effeithlon a thlodi tanwydd. Ers 2011 mae rhaglen Aelwydydd Cynnes Llywodraeth Cymru wedi gwella dros 39,000 o gartrefi ledled Cymru, a dros y bedair blynedd nesaf, byddwn yn buddsoddi £104 miliwn er mwyn sicrhau bod hyd at 25,000 o gartrefi ledled Cymru yn gallu defnyddio ynni'n fwy effeithlon, gan helpu i leihau biliau ynni a gwella iechyd a lles y bobl sy'n byw ar rai o aelwydydd mwyaf bregus Cymru.

Yn ogystal â rhoi pwyslais ar ddefnyddio ynni yn effeithlon yn y sector preswyl, rwyf hefyd yn buddsoddi yn y sector cyhoeddus, gan gydnabod bod ganddo swyddogaeth hollbwysig yn datgarboneiddio trwy arweinyddiaeth, trwy weithredu ac fel galluogwyr newid. Mae'r cymorth technegol, masnachol ac ariannol sydd wedi'i sefydlu drwy Twf Gwyrdd Cymru yn help i gefnogi'r broses o ddatgarboneiddio ystad adeiladau y sectorau cyhoeddus ac mae cynllun gwariant cyfalaf o oddeutu £500 miliwn. Bydd y cyllid ar ffurf benthyciadau â llog o 0% neu grantiau ad-daladwy gydag oddeutu £65 miliwn yn cael ei fuddsoddi erbyn diwedd y tymor presennol, gan roi hwb economaidd i Gymru.

Gwnaethpwyd dros £24 miliwn o fuddsoddiad dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae hyn wedi arwain at arbedion cost rhagamcanol heb ostyngiad o £72 miliwn a gostyngiadau mewn allyriadau CO2 o dros 280,000 tunnell.

Fel Llywodraeth, rydym wedi tynnu sylw yn y gorffennol at yr angen am dryloywder ynghylch ein hallyriadau i ddeall ble y mae angen gweithredu. Rydym bellach wedi lansio ein platfform ar-lein sy'n dangos o ble y daw'r allyriadau o Gymru, fesul ardal yr awdurdod lleol, sectorau a mathau o allyriadau.

Er gwaethaf y perfformiad gwell yn 2014, rydym fel Llywodraeth am gydnabod bod angen cymryd camau pellach. Rydym bellach yn symud ymlaen i ail gam y Rhaglen Datgarboneiddio gan edrych ar y llwybrau datgarboneiddio ble yr wyf wedi gofyn i UKCCC am eu cyngor unwaith eto, ac a fydd yn cynnal galwad arall am dystiolaeth. Rwy'n edrych ymlaen at roi rhagor o wybodaeth ichi cyn toriad yr haf.

Allyriadau yng Nghymru

Cyhoeddiadau newid hinsawdd