Skip to content

Datganiad Ysgrifenedig - Cyflogau Rhanbarthol a Niweidio Cyflogaeth

Dolenni perthnasol

Os hoffech gael unrhyw ddogfennau sydd ar y dudalen hon mewn fformat gwahanol, rhowch wybod inni.
Jane Hutt, y Y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ 

Ar 8 Mai, cyhoeddais y dystiolaeth ar Gyflogau Marchnadoedd Rhanbarthol a Lleol a gyflwynodd Llywodraeth Cymru i’r Cyrff Adolygu Cyflogau er mwyn iddynt ei hystyried. Mae’r dystiolaeth honno, a gasglwyd gan Brif Economegydd Llywodraeth Cymru, yn dangos yn glir bod yr achos dros gyflwyno cyflogau yn y sector cyhoeddus sy’n amrywio ar sail marchnadoedd rhanbarthol a lleol yn hynod wallus. Rydym yn dal i ddisgwyl i’r Cyrff Adolygu Cyflogau gyhoeddi eu hargymhellion.

Mewn perthynas â’r gwasanaeth sifil, nododd Llywodraeth y DU ym mis Mawrth ei bod yn disgwyl i bob adran ystyried cyflogau marchnadoedd lleol fel rhan o’u strategaethau cyflogau ar gyfer y tair blynedd nesaf. Fodd bynnag, roedd y cyhoeddiad diweddar ar Ddiwygio’r Gwasanaeth Sifil yn cynnwys datganiad clir na wneir unrhyw newidiadau oni bai bod yna dystiolaeth gadarn i’w cefnogi ac achos rhesymol dros barhau. Mae Llywodraeth Cymru yn credu’n gryf na ellir cyfiawnhau cyflwyno cyflogau marchnadoedd lleol ar gyfer y gwasanaeth sifil, fel sy’n digwydd gyda rhannau eraill o’r sector cyhoeddus, felly ni fyddwn yn eu cyflwyno ar gyfer staff Llywodraeth Cymru. Ein gobaith yw y bydd yr adrannau sy’n cyflogi’r 28,000 o weision sifil mewn swyddi sydd heb eu datganoli yng Nghymru yn dod i’r un casgliad. Ni ellir cyfiawnhau rhewi neu ostwng cyflogau’r rhan fwyaf o’r aelodau staff hyn, a bydd yn tynnu rhagor o arian o economïau lleol mewn rhai o ardaloedd tlotaf y DU ar deg pan fyddai hyn yn cael yr effaith fwyaf andwyol.

Mae’r dystiolaeth a gyflwynwyd gennym i’r Cyrff Adolygu Cyflogau’n nodi’r canlynol: 

  • Pe baem yn ail-gyfrifo’r dadansoddiad a gymeradwyir gan y Trysorlys gyda ffynhonnell ddata fwy a mwy cyfredol, byddai’r premiwm ar gyfer Cymru’n lleihau’n sylweddol a gwelir nad yw’r sefyllfa yng Nghymru’n wahanol iawn o safbwynt ystadegol i sefyllfa nifer o wledydd a rhanbarthau eraill yn y DU.
  • Mae nifer o ffactorau pwysig wedi’u hanwybyddu’n llwyr yn nhystiolaeth y Trysorlys ac, ar ôl eu hystyried, gwelir nad oes yna dystiolaeth glir fod gwahaniaeth cyson mewn cyflogau yn bodoli o gwbl. (Mae’r ffactorau hyn yn cynnwys amcangyfrif go iawn o werth taliadau bonws yn y sector preifat, y gwahaniaeth rhwng cyflogau gwahanol swyddi, boed yn y sector cyhoeddus neu’r sector preifat, a’r angen i asesu cyflogau dros gyfnod, yn hytrach na chymryd un olwg ar y sefyllfa ar adeg pan fo’r gwahaniaethau rhwng cyflogau yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat yn debygol o fod ar eu hamlycaf.)
  • O ran y gwahaniaethau rhwng cyflogau yn y sectorau cyhoeddus a phreifat yng Nghymru, mae’r rhain yn cael eu sbarduno i raddau helaeth gan y ffaith bod y rhai ar gyflogau isel, ac yn enwedig menywod ar gyflogau isel, o bosibl yn cael llai fyth o gyflog yn y sector preifat.  
  • Mae’r gwahaniaeth mewn cyflogau yng Nghymru’n cael ei ddylanwadu i raddau gan y ffaith bod y gyfran o swyddi “uwch” yn y sector preifat (y mathau o swyddi a geir mewn pencadlysoedd a phrif swyddfeydd rhanbarthol) yn is yng Nghymru o gymharu â gwledydd a rhanbarthau eraill yn y DU. 
  • Mae’r dystiolaeth yn dangos nad yw cyflogau cwmnïau mawr, aml-safle yn y sector preifat ar y cyfan yn amrywio o un rhanbarth i’r llall y tu allan i Lundain a De-ddwyrain Lloegr, a bod hyn felly’n cyd-fynd â chyflogau cyfredol y sector cyhoeddus.  
Nid oes unrhyw un wedi herio’r dystiolaeth hon o ddifrif; yn wir, mae’r dadansoddiadau mwyaf credadwy a gyhoeddwyd gan eraill, gan gynnwys y rhai a gyflwynwyd i’r Cyrff Adolygu Cyflogau gan Lywodraeth yr Alban ac i’r Office of Manpower Economics gan Gynulliad Gogledd Iwerddon, wedi dod i gasgliadau digon tebyg.

Ers fy Natganiad diwethaf, rydym wedi cynnal dadansoddiad pellach gyda’r nod o bennu a oes yna dystiolaeth bod lefelau “gormodol” o gyflog neu gyflogaeth yn y sector cyhoeddus yn dadleoli, neu’n “niweidio,” cyflogaeth yn y sector preifat. Daeth y Prif Economegydd i’r casgliad nad oes yna dystiolaeth bod hynny’n digwydd yng Nghymru.

Mae wedi adolygu’r ymchwil ddiweddaraf ar ‘niweidio cyflogaeth’, gan nodi bod hyd a lled yr ymchwil yn ddigon cyfyngedig a bod y casgliadau’n amwys – sy’n cyd-fynd â chanfyddiadau eraill economegwyr academaidd annibynnol . Ychydig iawn o’r ymchwil bresennol sy’n uniongyrchol berthnasol i amgylchiadau Cymru, yn enwedig yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni. 

Un o gyfyngiadau allweddol llawer o’r dystiolaeth bresennol yw nad yw’n ystyried amrywiadau yn amodau’r farchnad lafur. Mae damcaniaeth economaidd yn awgrymu bod unrhyw effaith gan y sector cyhoeddus yn annhebygol o greu problemau mewn mannau ac ar adegau pan fo marchnadoedd llafur yn gymharol wan. Mae’n amlwg bod hon yn ystyriaeth hollbwysig wrth i ni feddwl am amgylchiadau Cymru, yn enwedig ar hyn o bryd.

Mae ymchwil ddiweddar berthnasol yn cynnwys ymchwil a gynhaliwyd gan yr Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau (BIS) ar gyfer Llywodraeth y DU yn 2010 .  Cafodd amodau’r farchnad lafur leol eu hystyried yn yr ymchwil hon. Y canfyddiad allweddol yw bod unrhyw niwed i gyflogaeth yn debygol o fod ar raddfa fechan iawn o dan y rhan fwyaf o amgylchiadau, ac yn annhebygol o ddigwydd o gwbl lle mae lefelau diweithdra’n uwch na thua 5 y cant. Mae’r canfyddiad hwn – yn unol â damcaniaeth economaidd – yn dangos ei bod hi’n annhebygol iawn fod niwed wedi digwydd i unrhyw raddau arwyddocaol yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf, a hyd yn oed yn y gorffennol, mae’n annhebygol y byddai wedi bod yn broblem fawr.

Yn ogystal, trwy edrych ar hanes creu swyddi yng Nghymru, ni welwn unrhyw dystiolaeth bod y sector preifat wedi’i ‘niweidio’. O ddechrau datganoli ym 1999 hyd nes y dirwasgiad, yng Nghymru crëwyd mwy o swyddi yn y sector preifat nag yn y sector cyhoeddus. Ledled y DU, roedd y gwrthwyneb yn wir. Felly roedd Cymru’n perfformio’n well na’r DU o ran creu swyddi yn y sector preifat yn ystod cyfnod o berfformiad economaidd cymharol gryf, sy’n groes i’r damcaniaethau niweidio cyflogaeth.

Fel y nodwyd, mae niwed yn llai tebygol o ddigwydd ar adegau ac mewn mannau lle mae lefelau diweithdra’n gymharol uchel. Hefyd, o dan yr amgylchiadau hyn, mae gostwng cyflogau yn y sector cyhoeddus, sy’n arwain at lefelau gwario is, yn fwy tebygol o arwain at effeithiau canlyniadol a phobl yn colli eu swyddi. Felly, mae ymdrechion gan Lywodraeth y DU i ostwng neu rewi cyflogau yn y sector cyhoeddus yng Nghymru’n debygol o fod yn arbennig o niweidiol o dan yr amgylchiadau presennol.  

Fel y nodais yn fy Natganiad diwethaf, mae pob Plaid Wleidyddol a gynrychiolir yn y Cynulliad Cenedlaethol wedi croesawu’r dystiolaeth gan ein Prif Economegydd ac wedi cefnogi galwad Llywodraeth Cymru am i’r cynigion hyn gael eu tynnu’n ôl. Rwy’n gobeithio y gallwn ni barhau i weithio gyda’n gilydd i annog Llywodraeth y DU i gadarnhau ei Datganiad na wneir unrhyw newidiadau oni bai bod yna dystiolaeth gadarn i’w cefnogi. Gan ei bod hi bellach yn glir nad oes yna dystiolaeth gref i gefnogi’r newid hwn, dylai Llywodraeth y DU gyhoeddi ar unwaith ei bod yn tynnu’r polisi camarweiniol hwn yn ôl.