Skip to content

Datganiad Ysgrifenedig - Y diweddaraf ar Amseroedd Aros a Gwasanaethau Orthopedig

Dolenni perthnasol

Os hoffech gael unrhyw ddogfennau sydd ar y dudalen hon mewn fformat gwahanol, rhowch wybod inni.
Edwina Hart, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Ddiwedd Rhagfyr 2009, cyflawnwyd ein hymrwymiad yn Cymru’n Un i leihau amseroedd aros i ddim mwy na 26 wythnos. Dywedodd llawer nad oedd modd ei gyflawni, ond diolch i waith caled staff y GIG, digwydodd. Bum mlynedd yn ôl, roedd bron i 72,000 o gleifion yng Nghymru yn aros mwy na chwe mis am driniaeth. O’r rhain, roedd bron i 7,300 o gleifion yn aros mwy na 12 mis am driniaeth.

Mae’r ffigurau diweddaraf ar gyfer Ionawr 2011 yn dangos bod perfformiad o ran amseroedd aros, yn achos pob arbenigedd meddygol a llawfeddygol cyffredinol, yn parhau i fod yn well na 95% yn erbyn y targed 26 wythnos ac wedi bod ers Hydref 2009. Fodd bynnag, mae’r sefyllfa yng Nghymru yn gyffredinol wedi dirywio ychydig i 92.8% yn sgil pwysau sylweddol o fewn gwasanaethau orthopedig ledled Cymru.

Mae’r ffigur yn adlewyrchu’n rhannol ganlyniadau’r tywydd difrifol ym mis Tachwedd a Rhagfyr (y gwaethaf mewn dros 100 mlynedd) a’r cynnydd o 20.2% mewn achosion o drawma a 999 a aeth i’n Hadrannau Brys. Mae nawr yn hanfodol bwysig bod cleifion, os cânt apwyntiadau, yn mynd iddynt, neu os na allant fynd, eu bod yn rhoi gwybod i’r ysbyty fel y gellir cynnig yr apwyntiad i rywun arall.

Mae’r wybodaeth ddiweddaraf rwyf wedi’i derbyn gan reolwyr ar gyfer Chwefror/Mawrth yn dynodi bod y sefyllfa gyffredinol o ran amseroedd aros yn gwella eto. Fodd bynnag, mae’r her yn parhau o fewn maes orthopedeg.

Mae Aelodau wedi codi materion perfformiad ym Mwrdd Iechyd Aneurin Bevan gyda mi. Byddwch yn falch o nodi bod Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan wedi gwella’n sylweddol ei amseroedd aros orthopedeg a’i lwyddiant i gadw at y targed 26 wythnos ar gyfer Ionawr. Erbyn diwedd Mawrth, mae’r Bwrdd Iechyd yn nodi eu bod yn agos at gael gwared â mwyafrif yr achosion o beidio â chadw at 36 wythnos, a’u bod yn elwa ar y buddsoddiad ychwanegol yn y gwasanaethau orthopedig i sicrhau cynaliadwyedd tymor hir.

Ers 2007, mae nifer yr achosion a gyfeiriwyd gan feddygon teulu i adrannau orthopedig yng Nghymru wedi cynyddu 30.8%, sef mwy na dwbl y cynnydd ym mhob arbenigedd arall wedi’u cyfuno yn ystod yr un cyfnod.

Yr wythnos hon, mae fy swyddogion wedi gwneud gwaith sy’n cadarnhau bod disgwyl i’r duedd hon barhau dros y 5-10 mlynedd nesaf, yn sgil newidiadau yn natur a demograffeg ein poblogaeth ac wrth i amrywiaeth y posibiliadau o ran y driniaeth sydd ar gael gynyddu. Mae hyn yn arbennig o amlwg ym maes triniaethau clun a phen-glin, lle mae lefel y triniaethau yn debygol o gynyddu 30% ymhellach yn gyffredinol a 10% yn achos trawma clun dros y 5 mlynedd nesaf. Mae’r twf parhaus hwn yn y galw yn adlewyrchu effaith nifer o ffactorau sy’n cynnwys: cynnydd a ragwelir o 29% erbyn 2033 ym mhoblogaeth pensiynwyr, y cynnydd yn sgil hynny yn nifer y llawdriniaethau ar gymalau, mwy o glefydau’r cymalau ac effaith gordewdra cynyddol.

Mae’r rhagolygon o ran y boblogaeth tan 2019 ymhlith pobl 65-74 oed yn awgrymu cynnydd o 36% yng Nghymru (o gymharu â 30.5% yn y DU gyfan). Mae rhagolygon tymor hwy hyd 2029 yn dynodi cynnydd parhaus gan awgrymu bod cyflyrau orthopedig sy’n gysylltiedig â henaint yn debygol o barhau i godi.

Mae’r newidiadau hyn yn debygol o waethygu’r sefyllfa yn sgil y lefelau gordewdra cynyddol a’r lefelau ffitrwydd is yn y boblogaeth.

Dull o Ddatblygu Gwasanaethau Cynaliadwy

Byddwn yn sicrhau mai gwasanaethau orthopedig yw’r “gorau yn eu dosbarth” o ran effeithlonrwydd, cynhyrchiant a chanlyniadau clinigol. Byddwn yn gwella ymhellach ein hystadegau o ran hyd arhosiad cleifion a llawfeddygaeth ddydd, ac yn sicrhau y gweithredir yn llawn y llwybrau clinigol y cytunir arnynt ar gyfer poen clun a phen-glin, torri gwddf neu forddwyd a phoen amhenodol yng ngwaelod y cefn. Mae’r llwybrau hyn wedi’u cynllunio gan dimau clinigol i sicrhau gofal clinigol effeithiol mewn modd cynhyrchiol ac effeithlon.

Defnyddir pob capasiti i’w botensial mwyaf, a byddwn yn cynyddu cynhyrchiant ein theatrau llawdriniaeth a’n hystafelloedd ar gyfer achosion dydd.

Byddwn yn sicrhau’r amrywiaeth gorau posibl o driniaethau a gynigir yn lle llawdriniaeth, a’r wybodaeth a roddir i gleifion mewn perthynas ag effaith llawdriniaeth. Mae rhai Byrddau Iechyd Lleol wedi cyflwyno rhaglenni ffordd o fyw ac ymyriadau therapiwtig, sy’n lleihau’r angen i gyfeirio cleifion ynghylch llawdriniaeth ar eu cluniau a’u pen-gliniau hyd at 20%.

Byddwn yn cyflwyno ymgyrch Iechyd y Cyhoedd, gydag ymdrech benodol i ganolbwyntio ar atal gordewdra, rheoli colli pwysau a gwell lefelau ffitrwydd, gan ffocysu ar bob oedran a phob rhan o’r wlad. Bydd newidiadau o ran ffordd o fyw, dros amser, yn lleihau’n sylweddol yr angen am lawdriniaeth orthopedig.

Fodd bynnag, hyd yn oed gyda’r mentrau hyn yn eu lle, mae’n annhebygol y bydd y camau uchod yn ddigonol i ateb y galw ar gyfer y boblogaeth yn y 5-10 mlynedd nesaf, felly bydd angen inni greu capasiti orthopedig ychwanegol.

Rwyf felly wedi gofyn i’m Swyddogion a’m Harweinwyr Clinigol ddechrau gwaith ar ddatblygu cynlluniau i gynyddu’r capasiti orthopedig, gan gynnwys unrhyw ofynion ar gyfer theatrau a chyfleusterau diagnostig ychwanegol.

Byddaf yn cyflwyno’r cynlluniau hyn i’r Gweinidog dros y Gyllideb a Busnes, ac rwyf yn bwriadu ymhelaethu ar yr opsiynau hyn a’u goblygiadau yn fanylach.