Skip to content

Datganiad Ysgrifenedig - Planning For Renewable Energy in Wales

Dolenni perthnasol

Os hoffech gael unrhyw ddogfennau sydd ar y dudalen hon mewn fformat gwahanol, rhowch wybod inni.
Carwyn Jones, y Prif Weinidog

Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd ei chyfrifoldebau o ran datblygu cynaliadwy, mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd a   diogelu ffynonellau ynni o ddifrif. Bydd ein hanghenion ynni mewn cymdeithas fodern yn parhau i fod yn sylweddol a bydd yn rhaid eu diwallu'n ddiogel gan ddefnyddio ffynonellau carbon isel.

 

Mae gennym nifer o rwymedigaethau i'w cyflawni o ran datblygu cynaliadwy ac er mwyn chwarae ein rhan yn y gwaith o helpu i gyrraedd targedau Llywodraeth y DU o ran lleihau carbon a amlinellir yng nghyfraith Ewrop a'r DU. 

 

Mae Datganiad Polisi Ynni Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2010 yn nodi'r camau a gymerir i hyrwyddo amrywiaeth o dechnolegau ynni adnewyddadwy, gan gynnwys ynni gwynt ar y tir ac ar y môr, biomas ac ynni'r môr. Rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i hyrwyddo'r ystod ehangaf bosibl o dechnolegau ynni adnewyddadwy.

 

Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud llawer o waith i hyrwyddo'r broses o ficrogynhyrchu ynni adnewyddadwy, er enghraifft drwy gael gwared â'r cyfyngiadau cynllunio ar y rhan fwyaf o fathau o offer microgynhyrchu ynni domestig, yn ogystal â chefnogi prosiectau ynni adnewyddadwy yn y gymuned.

 

Fodd bynnag, er ein bod yn parhau i hyrwyddo pob math o ynni adnewyddadwy, gwynt ar y tir yw'r math mwyaf masnachol-aeddfed o ynni adnewyddadwy ar hyn o bryd. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod wedi ymrwymo i'r egwyddorion o gynllunio ar gyfer gwynt ar y tir mewn ffordd strategol mewn ymdrech i wneud y defnydd gorau o'r broses o gynhyrchu ynni adnewyddadwy gan ddiogelu amgylchedd Cymru ar yr un pryd.

 

Nod ein polisi yn Nodyn Cyngor Technegol 8 yw cyfyngu ar nifer y ffermydd gwynt graddfa fawr ledled Cymru gyfan, ac mae'n canolbwyntio ar yr Ardaloedd Chwilio Strategol a sefydlwyd yn sgil asesiad annibynnol. 

 

Roedd y capasiti a nodwyd yn Nodyn Cyngor Technegol 8 yn 2005 yn adlewyrchu barn a ystyriwyd yn ofalus o effaith bosibl cysylltiadau grid a thrafnidiaeth. Fodd bynnag, mewn nifer o'r Ardaloedd Chwilio Strategol, mae diddordeb datblygwyr wedi rhagori’n aruthrol ar y ffigurau dangosol hynny. Mae Llywodraeth Cymru o'r farn bod y lefel hon o ddatblygiad yn annerbyniol o ystyried ei effeithiau ehangach ar yr ardal leol.

 

Yn ein barn ni, dylid ystyried y capasiti yn Nodyn Cyngor Technegol 8 yn derfynau uchaf, ac rydym yn galw ar Lywodraeth y DU i barchu'r sefyllfa hon pan fydd yn cwblhau'r Datganiad Polisi Cenedlaethol ar Ynni Adnewyddadwy yn derfynol ac i beidio â chaniatáu rhagor o ffermydd gwynt pan fydd yn gwneud penderfyniadau ar brosiectau unigol yng Nghymru.

 

Y capasiti gormodol hwn sydd wedi arwain at gynigion ar gyfer seilwaith grid newydd a osodir yn uchel oddi ar y ddaear. Rydym yn haeru y byddai lefel y capasiti yn yr Ardaloedd Chwilio Strategol a bennwyd gennym yn 2005 yn golygu na fyddai angen y peilonau ymwthiol mawr sy'n peri cymaint o bryder. Ni fyddai fy Llywodraeth yn cefnogi'r gwaith o adeiladu peilonau mawr yn y Canolbarth ac mae fy Ngweinidogion yn rhoi pwysau ar Adran Drawsyrru'r Grid Cenedlaethol ac Ofgem yn hyn o beth.

 

Ein bwriad erioed, fel y'i nodir yn ein Datganiad Polisi Ynni, yw y dylid sicrhau cysylltiadau o'r fath drwy ddulliau llai ymwthiol, ac mewn ffordd mor sensitif â phosibl, gan gynnwys mynd o dan ddaear.  Mewn achosion lle mae cymunedau'n dioddef oherwydd seilwaith mawr heb gael y manteision economaidd y mae pŵer foltedd uchel yn dod â nhw i ddinasoedd, rydym o'r farn bod yn rhaid dechrau gosod llinellau pŵer foltedd uchel dan y ddaear. 

 

Yn ogystal, byddaf yn cyfarfod â'r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig ddydd Llun lle y byddaf yn codi effaith polisi ynni Llywodraeth y DU ar Gymru a Sir Drefaldwyn yn benodol.  Mae'r sefyllfa hon yn dangos yn glir pam mae'n rhaid datganoli caniatâd ar gyfer prosiectau seilwaith ynni mawr i Gymru.  Ni allwn dderbyn sefyllfa lle y bydd penderfyniadau a wneir y tu allan i Gymru yn arwain at ddatblygiadau amhriodol i bobl Cymru.